Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Adroddiadau Arholwyr Allanol

Similar presentations


Presentation on theme: "Adroddiadau Arholwyr Allanol"— Presentation transcript:

1 Adroddiadau Arholwyr Allanol

2 Adroddiad Arholwr Allanol
Mae'n ofynnol i bob arholwr allanol gwblhau adroddiad blynyddol yn dilyn y Bwrdd Arholi Cychwynnol a’i ddychwelyd i'r Swyddfa Academaidd; Rhaid cwblhau adroddiad ar wahân ar gyfer pob penodiad; Dylid cwblhau’r adroddiad yn electronig

3 Cynnwys yr Adroddiad Prif swyddogaeth yr adroddiad yw rhoi sicrwydd annibynnol o safonau ac ansawdd academaidd profiad dysgu'r myfyriwr; Ni ddylid cynnwys enwau unrhyw fyfyrwyr na staff yn yr adroddiadau er mwyn cynnal cyfrinachedd priodol

4 Cynnwys yr Adroddiad Dylai'r adroddiad nodi:
a yw'r Brifysgol yn cynnal y safonau academaidd trothwy a osodwyd ar gyfer ei dyfarniadau yn unol â'r fframweithiau ar gyfer cymwysterau Addysg Uwch a datganiadau pwnc a meincnodi eraill perthnasol; a yw'r broses asesu'n mesur cyrhaeddiad myfyrwyr yn drwyadl ac yn deg yn erbyn deilliannau arfaethedig y rhaglen(ni) ac a yw’n cael ei chynnal yn unol â pholisïau a rheoliadau'r Brifysgol; a yw safonau academaidd a chyraeddiadau myfyrwyr yn cymharu â'r hyn a geir mewn Sefydliadau Addysgu Uwch eraill yn y DU y mae gan yr arholwyr allanol brofiad ohonynt.

5 Cynnwys yr Adroddiad Dylai'r adroddiad hefyd roi sylwadau buddiol ac argymhellion ar y canlynol: arferion da ac enghreifftiau o arloesi yn ymwneud â dysgu, addysgu ac asesu a arsylwyd gan yr arholwr allanol; cyfleoedd i wella ansawdd y cyfleoedd dysgu a ddarperir ar gyfer myfyrwyr;

6 Cynnwys yr Adroddiad Yn ogystal, yn yr adroddiad dylai’r arholwr allanol wneud y canlynol: cadarnhau y derbyniwyd tystiolaeth ddigonol amserol i’w alluogi i gyflawni’r rôl (os oedd y dystiolaeth yn annigonol, dylid rhoi manylion); nodi a yw materion a godwyd yn yr adroddiad(au) blaenorol wedi cael sylw, neu yn cael sylw, a hynny mewn modd sy’n ei fodloni; rhoi sylw i unrhyw faterion sy’n ofynnol yn benodol gan unrhyw gorff proffesiynol perthnasol; rhoi trosolwg o’i gyfnod yn y swydd (wedi iddo ddod i ben).

7 Adrodd ynghylch Pryderon Difrifol
Mae gan arholwr allanol yr awdurdod i adrodd yn uniongyrchol i’r Is-Ganghellor ynghylch unrhyw bryder am safonau a pherfformiad; Os oes ganddo bryder difrifol yn ymwneud â methiannau systemig yn safonau academaidd rhaglen neu raglenni, a’i fod wedi dilyn pob gweithdrefn fewnol berthnasol yn ofer, yn cynnwys cyflwyno adroddiad cyfrinachol i’r Is-Ganghellor, gall yr arholwr allanol alw ar gynllun pryderon yr ASA neu roi gwybod i’r corff proffesiynol, statudol neu reoleiddio perthnasol.

8 Ymateb i Adroddiadau Rhoddir ystyriaeth fanwl i adroddiadau ar wahanol lefelau o fewn y Brifysgol a dosberthir copïau i’r: Cyfarwyddwr Rhaglen; Pennaeth Ysgol; Deon Cyfadran; Deon Ansawdd a Safonau. Yn dilyn ystyriaeth ar lefel Ysgol paratoir ymateb ffurfiol; Trafodir yr adroddiadau, ynghyd â’r ymateb, yn ystod Adolygiad Blynyddol pob Rhaglen Astudio.

9 Ymateb i Adroddiadau Paratoir adroddiad trosolwg yn ganolog ar gyfer y Pwyllgor Ansawdd a Safonau Academaidd (PASA) yn crynhoi casgliadau holl adroddiadau’r arholwyr allanol ac yn dynodi themâu a materion y mae angen i’r sefydliad ymateb iddynt; Cyflwynir yr adroddiad trosolwg, ynghyd ag unrhyw argymhellion gan y PASA, i’r Senedd; Dosberthir copïau o’r adroddiad trosolwg a’r argymhellion i’w gweithredu i’r holl arholwyr allanol.

10 Rhoi gwybod i fyfyrwyr Mae gan bob myfyriwr yr hawl i weld adroddiadau’r arholwyr allanol yn llawn; Yn unol â gofynion yr ASA, bydd enwau arholwyr allanol ar gael i fyfyrwyr, fel arfer yn y Llawlyfr Rhaglen Astudio perthnasol.


Download ppt "Adroddiadau Arholwyr Allanol"

Similar presentations


Ads by Google