Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

TGAU ECONOMEG Y CARTREF

Similar presentations


Presentation on theme: "TGAU ECONOMEG Y CARTREF"— Presentation transcript:

1 TGAU ECONOMEG Y CARTREF
TECSTILAU Mae tecstilau yn gwrs sy’n llawn hwyl ac ymarferol a fydd yn adeiladu ar sgiliau tecstilau o Gyfnod Allweddol 3 a’u datblygu. Mae’n ymwneud â dylunio a gwneud amrediad o eitemau tecstil e.e. bagiau, dodrefn meddal a dillad gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau tecstil. Fe gewch gyfle i ddefnyddio peiriannau gwnïo cyfrifiadurol, ffabrigau, cynhyrchion addurnol e.e. rhubanau, botymau a phaint i wella’r cynhyrchion a wneir. Fe fyddwch yn datblygu cymwyseddau gan ddefnyddio’r gwahanol fathau o beiriannau gwnïo sydd ar gael e.e. safonol, cyfrifiadurol, overlocker a defnyddio CAD-CAM.

2 TECSTILAU TGAU ECONOMEG Y CARTREF Mae 2 uned astudio:
Manylion y cwrs gan gynnwys meysydd astudio a dulliau astudio: Mae 2 uned astudio: Uned 1 - Egwyddorion Tecstilau a Ffasiwn Bydd yr uned hon yn datblygu ac yn cadarnhau gwybodaeth o’r holl gynnwys a gyflwynir trwy waith ymarferol a thasgau gosod. Uned 2 - Tecstilau a Ffasiwn Bydd yr uned hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu amrediad eang o sgiliau ymarferol sy’n gysylltiedig â Thecstilau Creadigol, Dylunio Ffasiwn a Gweithgynhyrchu ac ennill dealltwriaeth o ffibrau a ffabrigau, dylunio tecstilau, technegau llunio a dewis y defnyddiwr. Bydd y wybodaeth ofynnol ar gyfer pob adran yn cael ei dysgu trwy waith ysgrifenedig – gwaith dosbarth a thasgau gosod, gwaith ffolio – taflenni A3, gwaith ymarferol e.e. profi, arbrofi tecstilau, ymchwil trwy ymweliadau e.e. The Clothes Show a defnyddio gwefannau ac ati.

3 ECONOMEG Y CARTREF: TECSTILAU CRYNODEB O’R ASESIAD
Uned 1: Egwyddorion Tecstilau a Ffasiwn (40%) Papur Ysgrifenedig: 1½ awr 80 marc (80 GMU) Un papur a gaiff ei osod a'i farcio'n allanol, wedi'i dargedu at yr ystod lawn o raddau TGAU. Bydd y papur yn cynnwys cwestiynau atebion byr, strwythuredig ac ymateb rhydd wedi'u tynnu o bob maes o'r fanyleb a bydd yn asesu ansawdd cyfathrebu ysgrifenedig. Uned 2: Tasgau Ymarferol Tecstilau a Ffasiwn (60%) Asesiad dan Reolaeth 120 marc (120 GMU) Tasg 1: (20%) Un dasg i'w dewis o fanc o dair tasg a osodir gan CBAC i gynnwys archwilio a chynhyrchu. Hyd: 10 awr i'w gwneud yn y ganolfan. Wedi'i hasesu'n fewnol gan ddefnyddio meini prawf gosod CBAC ac wedi’i safoni’n allanol. Tasg 2: (40%) Un dasg i'w dewis o ddewis o ddwy dasg wedi'u gosod gan CBAC, i gynnwys ymchwilio, cynllunio, gwneud a gwerthuso. Hyd: 20 awr i gychwyn yn ail hanner y cwrs. Asesir yn fewnol gan ddefnyddio meini prawf gosod CBAC a’i safoni’n allanol.

4 TECSTILAU TGAU ECONOMEG Y CARTREF Llwybr trwy’r fanyleb
Blwyddyn 10 Medi – Rhagfyr Theori – Ffibrau a Ffabrigau Gwaith Ymarferol: Llunio ac Addurno Tecstilau Ionawr – Mawrth Theori – Ffibrau a Ffabrigau Gwaith Ymarferol: Asesiad dan Reolaeth Tasg 1 Ebrill / Mai i Gorffennaf (10 awr) Theori – Llunio ac Addurno Tecstilau Gwaith Ymarferol: Llunio ac Addurno Tecstilau - Dylunio Tecstilau Blwyddyn 11 Medi – Mawrth Theori – Prynwriaeth a Dewis y Defnyddiwr Ymarferol: Asesiad dan Reolaeth 2 (20 awr) Ebrill – Mehefin Adolygu a chyn-bapurau i ymestyn ac atgyfnerthu gwybodaeth Llwybrau dilyniant i Astudio Pellach: UG/U Dylunio a Thechnoleg: Tecstilau UG/U Tecstilau a Celf BTEC / Cwrs Gradd mewn Dylunio Ffasiwn, Celf a Dylunio, Tecstilau a Celf ac ati. Llwybrau dilyniant i Yrfa a Chyflogaeth: Gweithgynhyrchu: rolau llunio yn y diwydiant ffasiwn / dillad / dodrefn. Diwydiant: gwaith adwerthu, dylunio ffasiwn, technegydd labordy yn y diwydiant ffasiwn / dillad. Hysbysebu a marchnata eitemau ffabrig. Cyfuniadau pwnc: Celf , TG , Gwyddoniaeth.


Download ppt "TGAU ECONOMEG Y CARTREF"

Similar presentations


Ads by Google