Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Brîff ar ymsefydlu statudol

Similar presentations


Presentation on theme: "Brîff ar ymsefydlu statudol"— Presentation transcript:

1 Brîff ar ymsefydlu statudol
Medi 2016 1

2 Cyd-destun Mae ymsefydlu statudol yn gymwys i bob athro newydd gymhwyso sy’n meddu ar statws athro cymwysedig ar ôl 1 April 2003 Dylai ANGau a phob parti sy’n ymwneud â’r broses ymsefydlu sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r trefniadau ymsefydlu yng Nghymru a’r safonau proffesiynol perthnasol

3 Diben proses ymsefydlu statudol
Cyfrannu at adeiladu gweithlu addysg ardderchog er budd pob dysgwr Rhoi’r profiad gorau posibl i ANGau a’r prosesau i’w dilyn er mwyn iddynt gael y cychwyn gorau i’w gyrfa addysgu Adeiladu ar y profiadau a gafwyd yn ystod addysg gychwynnol i athrawon i gynnal datblygiad proffesiynol gydol gyrfa Rhoi’r cyfle i bob ANG ddatblygu ei arfer drwy ganolbwyntio ar y gofynion a bennwyd gan y safonau proffesiynol perthnasol

4 Sicrhau bod pob ANG yng Nghymru yn cael ei asesu yn erbyn y safonau proffesiynol perthnasol
Paratoi pob ANG ar gyfer ei yrfa fel athro drwy bennu’r sgiliau a’r ymddygidad y mae angen adeiladu arnynt drwy gydol ei yrfa Sicrhau bod pob ANG yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau cenedlaethol a’i fod yn barod i gwrdd â heriau agenda diwygio addysg Sicrhau bod eu dysgu proffesiynol yn canolbwyntio ar y dulliau a’r agweddau mwyaf effeithiol, gan gynnwys ymarfer myfyriol, cydweithio effeithiol, coetsio a mentora a defnydd effeithiol o ddata a thystiolaeth ymchwil

5 Cafodd y trefniadau ymsefydlu eu diwygio er mwyn pennu:
Profiad o ansawdd uchel i bob ANG Cysondeb strwythur a chymorth Hyblygrwydd o fewn patrymau gwaith gwahanol Proses deg a chyfiawn Asesu trylwyr a manwl

6 Mae’r trefniadau statudol yr un fath ar gyfer pob ANG
Heblaw am rai eithriadau, rhaid i bob ANG gwblhau cyfnod ymsefydlu er mwyn bod yn gymwys i addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru Mae’r trefniadau statudol yr un fath ar gyfer pob ANG Mae’n bosib i ANG sydd â chontract parhaol, contract dros dro neu sy’n gweithio fel athro cyflenwi tymor byr, ymgymryd ag ymsefydlu Provide examples for each one under first bullet point Elaborate on further education institutions and independent schools criteria

7 ysgolion arbennig nas cynhelir
Dim ond yn y sefydliadau canlynol yng Nghymru y gellir cynnal ymsefydlu: - ysgolion a gynhelir ysgolion arbennig nas cynhelir sefydliadau Addysg Bellach (AB) sy’n bodloni meini prawf penodol. Lle caiff y meini prawf eu bodloni, rhaid i’r ANG gofrestru gyda CGA yn y categori athro ysgol yn ogystal a’r categori AB. Gweler y canllaw am fanylion pellach Provide examples for each one under first bullet point Elaborate on further education institutions and independent schools criteria

8 ysgolion annibynnol sy’n bodloni meini prawf penodol
ysgolion annibynnol sy’n bodloni meini prawf penodol. Lle caiff y meini prawf eu bodloni, argymhellir bod ANGau sy’n ymgymryd ag ymsefydlu mewn sefydliad annibynnol yn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn y categori athro ysgol. Gweler y canllaw am fanylion pellach ysgol neu sefydliad addysg bellach yn Lloegr os byddai’n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu o dan reoliadau ymsefydlu Lloegr

9 Amserlen ymsefydlu Rhaid i bob ANG gwblhau cyfnod ymsefydlu 3 thymor ysgol o hyd neu gyfwerth h.y. 380 o sesiynau, i ddangos tystiolaeth o fodloni’r holl safonau proffesiynol perthnasol Dim terfyn amser i gwblhau'r 380 o sesiynau ond rhaid darparu tystiolaeth o fodloni’r holl safonau proffesiynol perthnasol trwy gwblhau 380 o sesiynau neu gyfwerth Rhaid i bob sesiwn ysgol fel athro cymwys gyfrif tuag at ymsefydlu

10 Diffinir sesiwn ysgol fel un bore neu un prynhawn o gyflogaeth mewn ysgol
Rhaid i sesiynau gael eu cadarnhau gan bennaeth neu uwch arweinydd yr ysgol lle cwblhawyd y sesiynau Ers mis Ionawr 2016 caiff Mentoriaid Allanol (MA) eu dyrannu i ANGau pan fydd ‘Ffurflen Hysbysu Sefydlu fel Athro Cyflenwi Byrdymor’ wedi dod i law’r CGA

11 Agweddau allweddol ar y broses
Rhaid i ANGau feddu ar SAC a rhaid iddynt gofrestru yn y categori athro ysgol gyda CGA er mwyn i ymsefydlu ddechrau Goruchwylio ac asesu yn erbyn y safonau proffesiynol perthnasol Rhaid i ANGau gasglu tystiolaeth drwy gydol y cyfnod ymsefydlu i ddangos eu bod yn bodloni’r holl safonau proffesiynol perthnasol.

12 Bydd angen cyfnod o addysgu rheolaidd neu barhaus mewn un lleoliad er mwyn dangos tystiolaeth gadarn o rai o’r safonau Ar gyfer pob ANG newydd o fis Medi ymlaen, bydd modd cael mynediad i’r proffil ymsefydlu drwy’s Pasbort Dysgu Proffesiynol ar wefan CGA

13

14 Bydd cymorth a chyngor am sut i ddangos tystiolaeth o’r safonau yn cael eu darparu gan yr ysgol, y Mentor Ysgol (MY) fel y bo’n briodol, y MA, y Corff Priodol (CP) a’r asiantaeth Bydd y Mentor Allanol (MA) yn monitro, adolygu cynnydd ac yn cadarnhau sesiynau Bydd y MA a’r MY yn gwneud argymhelliad i’r CP o ran a yw’r ANG wedi llwyddo, wedi methu neu a oes angen estyniad i’r cyfnod ymsefydlu Bydd y CP yn gwneud y penderfyniad terfynol gan gynnwys ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd ymhob ran o’r proffil ymsefydlu

15 Rhaid i ANGau cyflenwi byrdymor gymryd cyfrifoldeb am:
Cofrestru gyda CGA yn y categori cywir Logio pob sesiwn ysgol gyda CGA o fewn 10 diwrnod gwaith o’u cwblhau Cwblhau’r proffil ymsefydlu drwy Basport Dysgu Proffesiynol CGA Sichrau bod sesiynau yn cael eu cadarnhau gan y pennaeth/uwch arweinydd yn yr ysgol cyn i’r ANG cyflenwi byrdymor adael yr ysgol

16 Beth yw rôl asiantaethau?

17 Yr Asiantaeth Fel cyflogwr yr ANG, mae’r asiantaeth yn rhoi’r cymorth angenrheidiol i’r ANGau o ystyried eu lleoli ar draws ysgolion gwahanol Sicrhau bod y gwiriadau perthnasol – gan gynnwys gwiriadau cyfredol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi’u cynnal a bod y geirdaon yn briodol Gwirio statws cofrestru pob athro sydd wedi cofrestru â’r asiantaeth yn flynyddol yn dilyn gohebiaeth gan Gyngor y Gweithlu Addysg

18 Gwirio bod unrhyw ANG y mae’r asiantaeth yn ei gynnig i ysgol yn meddu ar SAC ac wedi’i gofrestru gyda CGA • Sicrhau bod gan yr unigolyn sy’n cael ei gyflenwi i’r ysgol y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad angenrheidiol i ymgymryd â’r rôl yn effeithiol Yn cyfeirio’r ANG o ran sut i gael mynediad i wybodaeth ac adnoddau dysgu proffesiynol i fodloni gofynion ymsefydlu

19 Yn adolygu anghenion datblygu proffesiynol yr unigolyn yn rheolaidd, a sicrhau y caiff unrhyw gyfleoedd datblygu angenrheidiol i barhau i fodloni gofynion y rôl, a’i fod yn gallu cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol rheolaidd. Sicrhau bod ANGau yn cael yr wybodaeth berthnasol am yr ysgol, cyn iddynt gael eu lleoli, lle bo hynny’n bosibl Gwneud disgwyliadau a gofynion y lleoliad yn glir i ANGau

20 Mewn perthynas ag ANGau
Sicrhau bod staff yr asiantaeth: yn hysbysu’r ANG bod rhaid cyfrif pob sesiwn fel athro cymwys hysbysu ANGau mai eu cyfrifoldeb proffesiynol nhw yw sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gadarn a’u bod yn ymgymryd â’r gofynion ymsefydlu statudol

21 yn atgoffa’r ANGau bod angen iddynt roi gwybod i’r ysgol eu bod yn ANG
yn atgoffa’r ANGau bod angen i bennaeth/uwch arweinydd yn yr ysgol gadarnhau’r sesiwn/sesiynau cyn iddynt adael yr ysgol yn atgoffa’r ANGau i logio’u sesiynau bob pythefnos yn cyfeirio ANGau at ganllaw CGA: Ymsefydlu – trefniadau cyllido, olrhain a chofnodi yn annog ANGau i fynychu gweithgareddau dysgu proffesiynol a ddarperir gan ysgolion a chonsortia

22 Mewn perthynas ag ysgolion
Sicrhau bod staff yr asiantaethau: yn hysbysu’r ysgol bod yr athro/athrawes yn cael ei leoli fel ANG yn hysbysu’r ysgol bod angen i bennaeth/uwch arweinydd gadarnhau’r sesiwn/sesiynau cyn i’r ANG adael yr ysgol yn sicrhau bod yr ysgol yn deall bod ganddynt ddyletswydd i ddarparu cymorth i bob ANG sy’n ymgymryd ag ymsefydlu gan gynnwys ANGau o asiantaethau a darparu MY lle bo hynny’n briodol

23 yn hysbysu’r ysgol y bydd yr ANG cyflenwi tymor byr yn defnyddio’u profiad yn yr ysgol i gasglu tystiolaeth yn erbyn y safonau proffesiynol perthnasol yn hysbysu’r ysgol bydd y MA yn debygol o arsylwi’r ANG yn addysgu tra’n gweithio yn yr ysgol yn atgoffa’r ysgol y byddai’r ANG cyflenwi byrdymor yn elwa o fynychu gweithgareddau dysgu proffesiynol yr ysgol


Download ppt "Brîff ar ymsefydlu statudol"

Similar presentations


Ads by Google