Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Llwybrau Mynediad Dyniaethau

Similar presentations


Presentation on theme: "Llwybrau Mynediad Dyniaethau"— Presentation transcript:

1 Llwybrau Mynediad Dyniaethau
Paratoi ar gyfer safoni

2 Rhai pwyntiau cyffredinol
Dylai canolfannau fod yn siŵr bod gwaith sydd wedi'i gyflwyno i'w safoni yn deilwng o'r safon benodedig (h.y. mae'n bodloni'r HOLL Feini Prawf Asesu gofynnol yn llawn) Noder y sylwadau yn nhri adroddiad diwethaf yr Uwch Safonwr mewn perthynas â hyn

3 Diben y safoni Dilysu dyfarniad athrawon wrth asesu Sicrhau bod safonau wedi'u halinio o fewn ac ar draws canolfannau, h.y. cysondeb a chymhwyso'r safonau Darparu arweiniad i ysgolion wrth wella prosesau, gweithdrefnau ac arferion asesu

4 Safoni mewnol Unedau gwahanol yn cael eu haddysgu gan athrawon gwahanol Mae'n rhaid i bob ymgeisydd gael ei farnu i'r un safon ar draws athrawon a grwpiau addysgu gwahanol Os yw mwy nag 1 athro yn ymwneud â darparu ac asesu'r cwrs, dylid bod Dilysydd Mewnol

5 Rôl y dilysydd mewnol Gwneud yn siŵr bod pob MPA a DD yn cael ei gyflawni Sicrhau bod gan athrawon gopïau o gofnodion asesu Samplu dyfarniadau athrawon o bryd i'w gilydd i sicrhau bod pob MPA yn cael ei gymhwyso'n gywir ac yn gyson Trefnu cyfarfod ag athrawon i gymedroli eu dyfarniadau Cadw cofnodion priodol

6 Sampl ar gyfer safoni Gan ddilyn canllawiau CBAC, dewiswch nifer yr ymgeiswyr sydd eu hangen ar sail maint y garfan (Cyf. Sesiwn 1) Rhowch waith gan ymgeiswyr ar gyfer pob uned y cofrestrir ar ei chyfer Gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei anfon i CBAC ar amser

7 Paratoi ffolderi o waith ymgeiswyr
Rhaid marcio pob darn o waith Rhaid anodi pob darn o waith i ddangos ble a sut mae'n bodloni pob MPA Rhaid cynnwys dogfennau ategol priodol gyda gwaith ymgeiswyr ar gyfer bob uned Taflen Cofnod Asesu Ffurflen ddilysu Datganiad Tyst (lle bo'n briodol)

8 Pam anodi? I helpu'r safonwr i wirio bod y Meini Prawf Asesu wedi'u bodloni I ddangos bod y gwaith wedi'i farcio'n fewnol I ddangos lle y gwnaed newidiadau yng ngoleuni safoni mewnol lle mae hyn wedi digwydd

9 Siarad Ffrangeg Ar gyfer y gwaith hwn, dylid cyflwyno tâp/CD i ddangos bod yr ymgeisydd wedi cyflawni'r meini prawf angenrheidiol. Yn amlwg, nid yw'n yn ymarferol nac yn bosibl anodi hyn

10 Defnydd o'r cofnod asesu priodol

11 Defnydd o'r cofnod asesu priodol
1. Adran sylwadau 2. Llofnod yr athro

12 Defnydd o'r cofnod asesu priodol
Cwblhewch yr un cywir ar gyfer lefel y cofrestriad Yn y golofn 'Tystiolaeth', mae cael gwybod lle i ddod o hyd i'r dystiolaeth o gyflawni'r MPA yn ddefnyddiol i'r safonwr, e.e. 'Taflen PowerPoint, tudalen 5' Dylai'r adran 'Sylwadau Cyffredinol' gael ei defnyddio i roi gwybodaeth ychwanegol i'r safonwr, e.e. ‘Mae Sam yn dra byddar ac yn ei chael yn anodd cyfathrebu ar lafar’ Pwrpas y sylwadau cyffredinol yw i'r athro gyfathrebu â'r safonwr; ni ddylid eu defnyddio i roi adborth i'r myfyriwr

13 Defnydd o ddatganiadau tyst os yn briodol
Defnyddiwch ffurflen CBAC yn unig Manylion y tasgau wedi'u hychwanegu yma

14 Defnydd o ddatganiadau tyst os yn briodol
Ychwanegu llofnod y tyst

15 Defnydd o ddatganiadau tyst os yn briodol
Defnyddiwch ddatganiad tyst CBAC sydd ar gael i'w argraffu o wefan Llwybrau Mynediad Dyniaethau (h.y. ni ddylai canolfannau lunio rhai eu hunain) Dylai'r rhain gynnwys manylion am ba Feini Prawf Asesu gafodd eu bodloni a lle Nid yw 'Cymryd rhan mewn trafodaeth ddosbarth' er enghraifft, yn rhoi unrhyw wybodaeth benodol am gyfraniad myfyriwr unigol.

16 Defnydd o ddatganiadau tyst os yn briodol
Os yw myfyriwr unigol yn gwneud pwyntiau penodol yn ystod trafodaeth sydd yna'n cael eu hysgrifennu ar fwrdd gwyn, er enghraifft, gall y rhain gael eu cofnodi mewn ryw ffordd a'u trosglwyddo i'r datganiad tyst. Yn achos Ffrangeg, ar gyfer y datganiad tyst, mae'n ddefnyddiol iawn dangos pa mor dda mae'r ymgeisydd wedi ateb y cwestiynau. Er enghraifft: 'Dywedodd Marc fod ganddo 3 brawd a 2 chwaer iau. Roedd yn gallu eu disgrifio hefyd'.

17 Defnydd o daflenni dilysu –
wedi'u llofnodi gan y myfyriwr a'r athro


Download ppt "Llwybrau Mynediad Dyniaethau"

Similar presentations


Ads by Google