Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Trefniadau statudol ymsefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n dechrau eu cyfnod ymsefydlu ar neu ar ôl y 1af o Fedi 2017 Please refer to WG guidance-

Similar presentations


Presentation on theme: "Trefniadau statudol ymsefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n dechrau eu cyfnod ymsefydlu ar neu ar ôl y 1af o Fedi 2017 Please refer to WG guidance-"— Presentation transcript:

1 Trefniadau statudol ymsefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n dechrau eu cyfnod ymsefydlu ar neu ar ôl y 1af o Fedi 2017 Please refer to WG guidance- y cyflwyniad yma wedi dod o’ llywodraeth Cymru.

2 Amcanion Rhesymeg tu ôl i’r ymsefydlu statudol, trefniadau ar broses
Safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth Rolau a chyfrifoldebau Y proffil ymsefydlu Gwybodaeth am yr ALl/CP All Awdurdod Lleol CP Corff Priodol

3 Trefniadau yr ymsefydlu statudol
Mae’r trefniadau ymsefydlu statudol ar gyfer POB ANG yng Nghymru yn broses o gydweithio rhwng: Yr ANG; Y mentor ymsefydlu (MY/IM) Y dilysydd allanol (DA/EV); Y Corff Priodol (CP/AB) / Cydlynydd ymsefydlu ALl Ymsefydlu neu sefydlu???

4 Y cyfnod ymsefydlu Rhaid i bob ANG gwblhau cyfnod o ymsefydlu sef
Tri thymor cyfan ar gyfer ANG sydd ar gytundeb llawn amser 380 sesiwn ysgol ar gyfer ANG sydd yn gyflogedig yn rhan amser neu ar gytundeb dros dro 380 sesiwn ysgol ar gyfer ANG sydd yn ymgymryd a chyflenwi byrdymor Bob tro mae ANG yn yr ysgol ond i chi lanw y ffurflenni priodol – mae ysgolion yn gallu hawlio cyllid – ffurflen hysbysu a ffurflen hawlio cyllid Sesiwn – hanner diwrnod

5 Ble gall ymsefydlu ddigwydd
Ysgolion â gynhelir yng Nghymru Ysgolion arbenning nas cynhelir yng Nghymru Ysgolion annibynnol yng Nghymru ble mae Y cwricwlwm ar gyfer dysgwyr cynradd yn cwrdd â gofynion y CC Y cwricwlwm ar gyfer dysgwyr CA3 a 4 yn cynnwys yr holl bynciau craidd a sylfaen Cytundeb wedi ei wneud rhwng yr ysgol a’r ALl, cyn i’r cyfnod ymsefydlu ddechrau mai’r ALl byddai’r CP Sefydliadau AB sy’n gallu cynnig swydd briodol i ANG i fedru ymgymryd â’i ymsefydlu AB – Addysg bellach

6 Yng Nghymru mae’n ofyniad cyfreithiol bod pob ANG yn dal SAC ac wedi cofrestru fel athro ysgol gyda’r CGA cyn medrant gael eu cyflogi fel athro mewn ysgol â gynhelir Ni ellir dechrau cyfnod ymsefydlu hyd nes bod yr ANG yn dal SAC ac wedi cofrestru gan CGA QTS/SAC Statws Athro Cymwysiedig

7 ANGau a’r safonau newydd
Mae’n ofynnol i bob ANG arddangos eu bod yn cwrdd â’r holl ddisgrifyddion ymsefydlu er mwyn cwblhau eu ymsefydlu yn llwyddiannus. Archwiliwch y safonau newydd a’r disgrifyddion ar: Dosbarthu copiau o’r disgrifyddion

8

9 Trosolwg rolau a chyfrifoldebau
Cyflawnir ymsefydlu effeithiol drwy bartneriaeth rhwng nifer o bobl allweddol, yn cynnwys yr ANG, yr ysgol, y Mentor Ymsefydlu,y Dilysydd Allanol a’r Awdurdod Lleol.

10 Y proffil ymsefydlu Y proffil ymsefydlu yw’r cofnod ar-lein sydd gan yr ANG i ddangos y cynnydd a’r cyflawniad er mwyn cwrdd a gofynion i gwblhau yr ymsefydlu yn llwyddiannus Y proffil ymsefydlu bydd yn ffurfio y sylfaen ar gyfer y ddeialog broffesiynol rhwng yr ANG a’r MY a’r dilysydd allanol Ceir mynediad i’r proffil ymsefydlu ar Cofio darllen yn synhwyrol

11 Cwblhau y proffil ymsefydlu
Cyfrifoldeb yr ANG Proses o gydweithio yn cynnwys y mentor ymsefydlu a’r ANG, gall hefyd gynnwys tystiolaeth oddi wrth y dilysydd allanol Bydd yr ANG yn gweithio gyda’r mentor ymsefydlu er mwyn cytuno ar a chynllunio blaenoriaethau Bydd ANG ar gytundebau cyflenwi byrdymor yn gweithio gyda dilysydd allanol i gytuno ar a chynllunio blaenoriaethau

12 Yr ANG Er mwyn cwblhau ei gyfnod ymsefydlu yn llwyddiannus, cyfrifoldeb yr ANG yw gwneud y canlynol:  Sicrhau ei fod yn cofrestru fel athro ysgol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, a hynny cyn iddo ddechrau ei swydd addysgu gyntaf. Sicrhau ei fod yn gwbl ymwybodol o'r trefniadau statudol o ran ymsefydlu yng Nghymru. Sicrhau ei fod yn gwbl ymwybodol o'r safonau proffesiynol newydd a'r pasbort dysgu proffesiynol. Nodi a chytuno ar gyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol, a hynny trwy hunanadolygiad ac adborth gan y mentor. Rhoi gwybod i Gyngor y Gweithlu Addysg ei fod yn ymgymryd â'r broses ymsefydlu yng Nghymru. Cofnodi ei holl sesiynau addysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, a hynny trwy gyflwyno'r ffurflen briodol. Sicrhau bod ei bennaeth/asiantaeth cyflenwi yn ymwybodol ei fod yn athro newydd gymhwyso, a bod pob sesiwn addysgu yn cyfrif tuag at ymsefydlu.

13 Rhoi gwybod i Gyngor y Gweithlu Addysg os yw'n symud ysgol yn ystod ei gyfnod ymsefydlu.
Sicrhau bod ei Fentor/Ddilysydd Allanol yn gallu cyrchu ei Broffil Dechrau Gyrfa ar ddechrau ei gyfnod ymsefydlu. Mae yna ddisgwyliad yn ERW y bydd yr ANG yn gosod targedau gyda'i fentor sy'n seiliedig ar wybodaeth o'i Broffil Dechrau Gyrfa a'r dasg hunanasesu ar-lein. Defnyddio'r safonau a'r Pasbort Dysgu Proffesiynol, mewn cydweithrediad â'i fentor a chydweithwyr eraill, i fyfyrio'n rheolaidd ar ei ymarfer helpu i nodi blaenoriaethau ar gyfer dysgu proffesiynol cofnodi amrywiaeth o brofiadau proffesiynol i ddangos ei fod yn bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus Bod yn barod i rannu ei brofiadau proffesiynol ag eraill. Ymgysylltu'n weithredol â'r cymorth mentora a ddarperir.

14 Dylai'r pennaeth a'r ysgol:
Sicrhau bod yr ANG wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn cael ei gyflogi. Sicrhau bod yr ANG yn gyfarwydd â'r safonau newydd. Sicrhau bod pob ANG yn gallu cael mentor sy'n gyfarwydd â'r safonau newydd, ac sy'n meddu ar y sgiliau a'r profiadau addas i gefnogi'r ANG i ddefnyddio'r safonau yn ystod y cyfnod ymsefydlu. Sicrhau bod gan yr ANGau gefnogaeth briodol o ddydd i ddydd, pa un a ydynt yn ymgymryd â'r broses ymsefydlu yn llawn-amser, yn rhan-amser neu ar sail cyflenwi. Sicrhau bod pob ANG yn gallu cael amrywiaeth addas o brofiadau proffesiynol, sy'n eu galluogi i adlewyrchu'r safonau proffesiynol yn eu hymarfer. Glynu wrth arferion recriwtio diogel wrth gyflogi ANGau yn uniongyrchol, neu wrth ymgysylltu ag ANGau o asiantaethau cyflenwi neu gyflogi, yn cynnwys sicrhau geirdaon priodol a gwiriadau cyfredol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), yn unol â chanllawiau'r ALl a Llywodraeth Cymru ar ddiogelu wrth recriwtio.

15 Codi ymwybyddiaeth ymarferwyr, yn cynnwys ANGau, o'r safonau newydd.
Darparu tystiolaeth gydol y cyfnod ymsefydlu, mewn cydweithrediad â'r mentor, a fydd yn cyfrannu at asesiad terfynol y corff priodol o'r ANG. Sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion a nodir yng nghopi cyfredol Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol yr Adran Addysg.

16 Dylai'r Mentor Ymsefydlu:
Sicrhau ei fod yn gyfarwydd â'r safonau newydd, a sut y dylai'r ANGau eu defnyddio yn ystod y cyfnod ymsefydlu. Cysylltu â'r Dilysydd Allanol a'r corff priodol, yn ôl y gofyn. Cysylltu â'r unigolyn yn swyddfa'r ysgol sy'n gyfrifol am gyflogi athrawon cyflenwi. Dylid sefydlu pro-forma cytunedig er mwyn galluogi'r ysgol i nodi ANG a chasglu gwybodaeth am faint o sesiynau sydd wedi'u cwblhau, a phwy yw ei Ddilysydd Allanol. Cwrdd â'r ANGau pan fyddant yn cyrraedd yr ysgol, i drafod eu cyfnod ymsefydlu, a rhoi gwybod i Gyngor y Gweithlu Addysg eu bod yn bresennol yn yr ysgol, gan ddefnyddio'r ffurflen hysbysu. Dylai athrawon cyflenwi byrdymor hefyd gael eu monitro o ddydd i ddydd. Os yw'r athro cyflenwi byrdymor yn cael ei gyflogi am fwy na deg sesiwn, rhaid i'r ysgol anfon y ffurflen hysbysu at Gyngor y Gweithlu Addysg. Arsylwi ar yr ANG yn addysgu. Mae yna ddisgwyliad yn ERW y dylid arsylwi'n ffurfiol ar wers bob tymor (fel lleiafswm), ac y dylid rhoi adborth yn ystod cyfarfod proffesiynol.

17 Rhoi tystiolaeth o gynnydd yr ANG i'r Dilysydd Allanol.
Gweithio'n agos gyda'r ANG, trwy ddeialog proffesiynol rheolaidd, i adolygu ac archwilio profiadau proffesiynol, cefnogi a herio'r ANG mewn perthynas â'r safonau proffesiynol, a sicrhau bod y Pasbort Dysgu Proffesiynol yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosibl. Yn ERW, disgwylir i gyfarfod proffesiynol gael ei gynnal o leiaf bob hanner tymor. Dylid gwneud cofnodion, a'u cadw ar y proffil. Lle bo hynny'n briodol, dylid tynnu sylw'r ANG, y Dilysydd Allanol a'r corff priodol at feysydd sy'n peri pryder, gan ystyried yr ymyrraeth fwyaf effeithiol a chefnogol, a chyfeirio at y safonau i nodi meysydd sydd i'w gwella ymhellach. Gweithio mewn partneriaeth â'r Dilysydd Allanol i sicrhau bod y cyfnod ymsefydlu yn cael ei gynnal yn unol â'r rheoliadau, bod yr ANG yn cael y cymorth angenrheidiol, a bod yr holl ofynion yn cael eu bodloni o ran asesu.

18 Dylai Dilyswyr Allanol:
Sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r safonau newydd, a sut y dylid eu defnyddio yn ystod y broses ymsefydlu. Gallai hyn gynnwys: Sicrhau ansawdd y trefniadau ymsefydlu mewn ysgolion ar ran y Corff/Cyrff Priodol, er mwyn sicrhau bod yr ANGau yn gallu defnyddio'r safonau'n effeithiol. Cefnogi Mentoriaid Ymsefydlu, yn enwedig y rhai hynny sy'n newydd i'r rôl, neu lle mae pryderon yn bodoli ynghylch ansawdd ac effeithlonrwydd y mentora. Dylai Dilyswyr Allanol sy'n gweithio yn ERW hwyluso cyfarfodydd rhwydwaith clwstwr ar gyfer mentoriaid bob hanner tymor. Prosesu'r argymhellion gan Fentoriaid Ymsefydlu, fel bod Cyrff Priodol yn gallu cyrchu'r wybodaeth briodol y mae ei hangen i wneud dyfarniadau terfynol yn erbyn y safonau. Gwneud argymhellion a rhoi tystiolaeth am asesu i'r corff priodol. Darparu cymorth mentora ychwanegol i'r ANG, yn ôl y gofyn. Yn ERW, bydd disgwyl i'r Dilysydd Allanol hwyluso cefnogaeth ar gyfer yr ANGau yn y clwstwr yn ystod sesiynau min nos. Dylai'r cyfarfodydd hyn gael eu cynnal o leiaf unwaith bob hanner tymor.

19 Arsylwi ar yr ANG yn addysgu yn ystod 70 sesiwn gyntaf y cyfnod ymsefydlu. Yn ERW, argymhellir bod y Dilysydd Allanol yn arsylwi ar sampl o wersi. Argymhellir y dylai'r sampl clwstwr hwn gynnwys arsylwi ar y cyd ar o leiaf ddwy wers yn ystod y 70 sesiwn gyntaf. Ymgysylltu â'r broses safoni/gymedroli genedlaethol, fel sy'n ofynnol gan y consortiwm rhanbarthol Gweithio mewn partneriaeth â'r mentor ymsefydlu i sicrhau bod y cyfnod ymsefydlu yn cael ei gynnal yn unol â'r rheoliadau, bod yr ANG yn cael y cymorth angenrheidiol, a bod yr holl ofynion yn cael eu bodloni o ran asesu. Monitro gwaith papur y mae'r mentoriaid a'r ANGau yn ei gynhyrchu, a gwneud argymhellion terfynol i'r corff priodol. Cysylltu'n agos â'r corff priodol trwy gydol y cyfnod ymsefydlu.

20 Dylai'r Consortiwm/yr Awdurdod Lleol/y Corff Priodol:
Y corff priodol sydd â chyfrifoldeb statudol cyffredinol am oruchwylio a hyfforddi'r holl ANGau yn yr ardaloedd awdurdod lleol y mae'n eu cwmpasu, ac am wneud y penderfyniad terfynol ar ddiwedd y cyfnod ymsefydlu o ran a yw'r ANG wedi llwyddo, wedi methu, neu a oes angen estyn ei gyfnod ymsefydlu. Mae'r corff priodol yn gyfrifol am sicrhau bod cyfnod ymsefydlu'r holl ANGau yn cynnwys rhaglen o ddysgu proffesiynol, monitro a chefnogaeth effeithiol, sydd o ansawdd uchel. Rhaid i'r corff priodol sicrhau bod systemau sicrhau ansawdd effeithiol a chadarn ar waith ar lefel genedlaethol, fel bod yr holl ANGau yn cael cefnogaeth ymsefydlu o'r ansawdd uchaf. Sicrhau ei fod yn gyfarwydd â'r safonau newydd, a sut y dylid eu defnyddio yn ystod y cyfnod ymsefydlu. Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg i sicrhau bod y Pasbort Dysgu Proffesiynol yn addas i'r diben. Sicrhau bod cymorth mentora priodol ar gael i alluogi pob ANG i ddefnyddio'r safonau proffesiynol yn briodol. Sicrhau bod gallu sicrhau ansawdd priodol ar gael fel bod y trefniadau ymsefydlu yn bodloni anghenion yr ANGau, yn ogystal â'r gofynion statudol.

21 Defnyddio tystiolaeth asesu i wneud penderfyniadau terfynol ynghylch canlyniad y cyfnod ymsefydlu.
Rhoi gwybod i Gyngor y Gweithlu Addysg am y canlyniad ar gyfer pob ANG. Annog/hwyluso'r gwaith o nodi deunyddiau enghreifftiol i gefnogi defnydd effeithiol o'r safonau proffesiynol. Gweithio gyda darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon rhanbarthol i godi ymwybyddiaeth y myfyrwyr o'r safonau proffesiynol newydd. Cysylltu â chydweithwyr i sicrhau bod y cyfnod ymsefydlu'n parhau'n gyson ledled Cymru.

22 Dylai'r asiantaeth gyflogi neu'r asiantaeth gyflenwi:
Sicrhau bod ANGau wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau ar eu cyflogaeth, a sicrhau eu bod, o leiaf yn flynyddol, yn dilyn gohebiaeth gan Gyngor y Gweithlu Addysg, yn gwirio statws cofrestru pob athro sydd wedi cofrestru â'r asiantaeth. Sicrhau bod y gwiriadau perthnasol – gan gynnwys gwiriadau DBS cyfredol – wedi'u cynnal, a bod y geirdaon yn briodol. Sicrhau bod SAC gan unrhyw ANG y maent yn ei leoli mewn ysgol, a'i fod wedi cofrestru yn y categori cywir gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Sicrhau bod gan yr unigolyn sy'n cael ei gyflenwi i'r ysgol y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad angenrheidiol i ymgymryd â'r rôl yn effeithiol. Sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r safonau newydd, a sut y dylid eu defnyddio yn ystod y cyfnod ymsefydlu. SAC Statws Athro Cymwysiedig

23 Sicrhau bod ANGau sy'n ymgymryd â gwaith cyflenwi yn gyfarwydd â'r safonau newydd, a'u bod yn gallu cael profiadau proffesiynol i'w galluogi i arddangos amrediad llawn y safonau proffesiynol. Mynd ati'n weithredol i gefnogi dysgu proffesiynol yr ANGau, gan gynnwys cyfeirio ANGau i gyrchu gwybodaeth ac adnoddau dysgu proffesiynol, i'w galluogi i ddatblygu eu hymarfer, fel y nodir yn y safonau proffesiynol. Sicrhau bod ANGau yn cael yr wybodaeth berthnasol am yr ysgol cyn cael eu lleoli, lle bo hynny'n bosibl. Sicrhau bod disgwyliadau a gofynion y lleoliad yn cael eu hegluro i'r ANGau.

24 Dylai Cyngor y Gweithlu Addysg:
Letya'r proffil ymsefydlu statudol ar-lein, a sicrhau mynediad iddo, a hynny trwy'r Pasbort Dysgu Proffesiynol, er mwyn galluogi ANGau i fyfyrio yn erbyn y safonau a chofnodi eu profiadau proffesiynol. Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, consortia a Pebblepad i sicrhau bod y system ar-lein yn barod erbyn 1 Medi 2017, a sicrhau mynediad i'r holl bartïon, yn cynnwys i unrhyw ddeunyddiau cymorth gofynnol. Sicrhau bod SAC gan y rheiny sy'n ymgymryd â'r rhaglen ymsefydlu, a'u bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn y categori athro ysgol. Casglu, coladu a chynnal ffynhonnell ganolog o ddata am athrawon sy'n ymgymryd â'r rhaglen ymsefydlu, i gynnwys cyflogaeth yr athro wrth iddo wneud cynnydd trwy'r cyfnod ymsefydlu, cofnod o'r sesiynau ymsefydlu a gwblhawyd, a chofnod o'r mentor yn yr ysgol a'r mentor allanol.

25 Rhannu'r wybodaeth hon â'r partïon sy'n ganolog o ran darparu'r rhaglen ymsefydlu, a hynny trwy gyfleuster Cyngor y Gweithlu Addysg ar y We. Mae'r partïon hyn yn cynnwys yr ANG, mentor(iaid) ymsefydlu yr ANG, a'r cydgysylltydd ymsefydlu yn y consortiwm rhanbarthol/Awdurdod Lleol, fel y corff priodol yn y broses ymsefydlu. Dyrannu Mentor Allanol, lle y cytunwyd ar drefniant o'r fath ar gais consortiwm rhanbarthol. Gweinyddu cyllid ymsefydlu i ysgolion. Cyflwyno tystysgrifau ymsefydlu, yn seiliedig ar ganlyniadau'r cyfnod ymsefydlu, a ddarperir gan y corff priodol. Gwrando ar apeliadau ymsefydlu.

26 Dylai Llywodraeth Cymru :
Weithio gyda'r consortia, Cyngor y Gweithlu Addysg a Pebblepad i gytuno ar y fanyleb ar gyfer proffil ymsefydlu'r Pasbort Dysgu Proffesiynol. Cyhoeddi'r safonau terfynol newydd, yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Darparu canllawiau a gwybodaeth ar-lein am y safonau proffesiynol newydd, gan gynnwys esiamplau. Adolygu canllawiau statudol i adlewyrchu'r safonau/system newydd ar gyfer 1 Medi 2017. Adolygu'r fanyleb ymsefydlu ar gyfer 1 Medi 2017. Gweithio gyda darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon i gynllunio ar gyfer cyflwyno'r safonau newydd i raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon. Pennu'r polisi cenedlaethol ar ymsefydlu. Gosod ac adolygu rheoliadau perthnasol. Pennu blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol. Datblygu canllawiau statudol mewn ymgynghoriad â phartneriaid. Gweithio gyda chonsortia rhanbarthol a Chyngor y Gweithlu Addysg i fonitro ac adolygu trefniadau cenedlaethol. .

27 Dylai Darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon:
Sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r safonau newydd. Codi ymwybyddiaeth y myfyrwyr o'r safonau newydd cyn diwedd mis Mai/Mehefin.


Download ppt "Trefniadau statudol ymsefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n dechrau eu cyfnod ymsefydlu ar neu ar ôl y 1af o Fedi 2017 Please refer to WG guidance-"

Similar presentations


Ads by Google