Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar

Similar presentations


Presentation on theme: "Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar"— Presentation transcript:

1 Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar
Julie Stokes Jones

2 Gofal Cymdeithasol Plant
Mae dyletswydd ar bob awdurdod lleol i ofalu am les a diogelwch plant, hynny yw unrhyw un dan 18 mlwydd oed. Y Llywodraeth sy’n ariannu pob gwasanaeth, felly maent yn 'wasanaethau statudol'. Beth ydych chi'n feddwl sydd ar gael?

3 Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig
CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed) Pwy yw CAMHS a beth maent yn ei wneud? Tîm o ddoctoriaid, nyrsys, seiciatryddion a therapyddion sy'n helpu pobl ifanc hyd at 18 oed sydd â phroblemau iechyd meddwl. Nid oes gan lawer o bobl ifanc broblemau iechyd meddwl ond efallai fod ganddynt broblemau difrifol o ran eu hemosiynau, eu hymddygiad, eu perthynas â phobl eraill ac o ran ymdopi â straen a thrawma.

4 Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig
Cefnogaeth i Deuluoedd: Pwy sy’n darparu hyn a beth maent yn ei wneud? Mae Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd / Môn yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd. Pan fydd teuluoedd yn wynebu anawsterau, maent yn gweithio'n agos gyda phlant, eu rhieni, eu perthnasau neu ofalwyr a sefydliadau eraill i ddod o hyd i'r datrysiad gorau. Eu nod yw cadw teuluoedd gyda'i gilydd pan fydd hynny'n bosib.

5 Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig
Cam-drin Plant Pwy all helpu gyda hyn a beth maent yn ei wneud? Os oes plentyn yn cael ei gam-drin mae dyletswydd ar yr adrannau gwasanaethau cymdeithasol i archwilio ac amddiffyn y plentyn hwnnw. Beth ddylech chi ei wneud? Cysylltu ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd a dweud wrthynt beth sy'n digwydd. E-bost: Mewn argyfwng - er enghraifft os oes rhywun yn cael ei daro neu ei gau allan o'i gartref - ffoniwch yr heddlu ar 999 Ffoniwch Childline ar neu ewch i wefan ChildLine Gallwch ofyn i oedolyn rydych yn ymddiried ynddo, megis athro, gweithiwr ieuenctid neu hyd yn oed ffrind i ffonio ar eich rhan. Pan fydd pobl yn gweithio gyda phant a phobl ifanc mae'n rhaid iddynt ddilyn gweithdrefnau penodol, ond cewch wybod beth fyddent yn ei wneud a chewch eich cefnogi drwy'r broses. Edrychwch ar  Ti’n Bwysig – arweiniad pwysig i bobl ifanc yng Ngwynedd a Môn

6 Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig
Tîm Integredig ar gyfer Plant Anabl Pwy yw'r tîm a beth mae’n ei wneud? Derwen - Tîm Integredig ar gyfer plant anabl sy'n gweithio gyda phant a phobl ifanc 0-18 oed yng Ngwynedd. Mae'n darparu cefnogaeth arbenigol i: blant sydd ag anhwylder neu oediad datblygiad plant anabl plant sy'n dioddef â salwch. Mae Derwen yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd. Beth mae Derwen yn ei gynnig? un pwynt cyswllt ar gyfer y Tîm cyngor a gwybodaeth asesiad cychwynnol gan swyddog dyletswydd mewnbwn proffesiynol i ddiwallu anghenion y plentyn adolygiad amlasiantaethol o anghenion y plentyn asesiad o anghenion y gofalwr cyfnodau o seibiant byr. Mae ein 'datganiad ar gyfnodau seibiant byr' ar waelod y dudalen hon

7 Pwy all gyfeirio plentyn at Derwen?
y plentyn neu'r person ifanc rhiant/gofalwr pobl broffesiynol (gyda chaniatâd y teulu) Pwy sy'n gweithio i Derwen? Swyddog Dyletswydd Nyrsys Cymunedol (Datblygiad Plant) Seicolegwyr Clinigol Gweithwyr Cymdeithasol Swyddog Cyswllt Addysg Swyddogion Gwasanaethau Cefnogi Therapyddion Galwedigaethol (Addasiadau) Swyddog Gwybodaeth

8 Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig
Plant mewn Gofal Mae dyletswydd cyfreithiol ar Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd i ofalu am blant na all fyw gyda'u teulu agos am resymau megis salwch, esgeulustod a chamdriniaeth. Mewn amgylchiadau o'r fath gellir trefnu bod y plant a'r bobl ifanc hyn yn byw gyda theulu, ffrindiau neu ofalwyr maeth. Yn y sefyllfaoedd hyn mae cyfrifoldeb ar yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol fel rhiant 'corfforaethol' neu 'gyhoeddus' i ddarparu'r un lefel o ofal i'r plentyn mewn gofal ag y byddai rhieni gofalus yn ei roi i'w plant eu hunain. Sut mae Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd yn cefnogi ac yn gofalu am blant? Un o'u prif flaenoriaethau i'w anghenion iechyd ac addysg y plentyn. Er mwyn diwallu'r anghenion hyn, mae angen iddynt ddarparu amgylchedd ble mae’r plentyn yn teimlo ei fod yn perthyn ac yn gallu ymddiried yn ei ofalwyr a siarad gyda hwy. Mae’r adran hefyd yn cefnogi plant a phobl ifanc i gynnal perthnasau presennol gyda theulu a ffrindiau, i ddatblygu perthnasau newydd os ydynt yn dymuno gwneud hynny ac i fynd ymlaen a datblygu diddordebau eraill.

9 Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig
Mabwysiadu plentyn Mae hyn yn golygu bod yn deulu i'r plentyn am oes. Mae'r broses yn cynnwys: cyfnod hyfforddi ac asesu cyn derbyn cymeradwyaeth adnabod anghenion plentyn a chanfod teulu i ddiwallu'r anghenion hynny cyfnod cyflwyno a symud i mewn y llys yn cymeradwyo'r penderfyniad i fabwysiadu - dod yn rhieni cyfreithiol i’r plentyn Gall y broses cymeradwyo a’r cyfnod aros fod yn hir, ond mae'r gwasanaeth wedi helpu nifer o bobl sydd eisiau mabwysiadu a nifer o blant lleol i ddod at ei gilydd a chael bywyd teuluol hapus. Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn wasanaeth ar y cyd rhwng timau mabwysiadu awdurdodau lleol Gwynedd, Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy ac Ynys Môn. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i deuluoedd lleol ar gyfer plant yng ngogledd Cymru.

10 Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig
Gofalwyr maeth Mae gofalwyr maeth yn croesawu plant na all aros gyda'u rhieni i’w cartrefi ac yn gofalu amdanynt. Gall hyn fod oherwydd camdriniaeth neu oherwydd bod eu rhieni yn wael. Mae'n rhaid i ofalwyr maeth: fod yn hyblyg, yn ofalus ac yn amyneddgar helpu'r plentyn i ddod yn rhan o'u teulu derbyn ac annog ymweliadau rheolaidd â rhieni gallu cydymdeimlo a siarad yn agored â'r plentyn ynglŷn â'u gorffennol. lleolir plant yn eu harddegau sydd â phroblemau gwahanol gyda gofalwyr maeth.

11 Mae Gofal Cymdeithasol Plant yn cynnig
Cyfiawnder Ieuenctid Partneriaeth rhwng asiantaethau (yr heddlu, y bwrdd iechyd a'r gwasanaethau prawf) a chynghorau Gwynedd a Môn yw'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid. Mae'n gyfrifol am ddarparu'r holl wasanaethau cyfiawnder ieuenctid i bobl ifanc oed yng Ngwynedd a Môn. Rydym yn gweithio â phobl ifanc a theuluoedd pobl ifanc: a gaiff eu cyfeirio atom gan yr Heddlu sy'n mynd drwy'r llysoedd sydd wedi'u rhoi dan ein goruchwyliaeth fel rhan o ddedfryd o garchar yn y gymuned a gaiff eu cyfeirio atom o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol a nodwyd eu bod mewn peryg o gyflawni trosedd Ein nod yw sicrhau: y diwallir anghenion y dioddefwyr bod pobl ifanc yn cymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad troseddol ac yn rhoi rhywbeth yn ôl i'w cymuned bod rhieni yn cymryd cyfrifoldeb am eu plant bod cyfleoedd ar gael i atal trosedd ymhlith pobl ifanc y gweinyddir cyfiawnder yn gyflym.

12 Pa fath o swyddi a geir yn y sector hwn?
Gweithwyr Cymdeithasol Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd Swyddog Dyletswydd Nyrsys Cymunedol (Datblygiad Plant) Seicolegwyr Clinigol Swyddog Cyswllt Addysg Swyddogion Gwasanaethau Cefnogi Therapyddion Galwedigaethol (Addasiadau) Swyddog Gwybodaeth Maethu A llawer iawn mwy....

13 Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i weithio yn y sector hwn?
sgiliau cyfathrebu a thrin pobl ardderchog y gallu i uniaethu â phobl o bob oed ac o wahanol gefndiroedd ac ennyn eu hymddiriedaeth tact, amynedd ac empathi dealltwriaeth o anghenion grwpiau cleient gwahanol peidio â barnu y gallu i weithio mewn tîm a gweithio ar eich liwt eich hun y gallu i asesu sefyllfaoedd a chymryd camau priodol y gallu i ymdopi â sefyllfaoedd anodd ac achosion heriol sgiliau rheoli amser a threfnu da sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol a gweinyddu.

14 Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar
Gofalwyr dydd proffesiynol yw gofalwyr plant cofrestredig sy'n gweithio yn eu cartrefi eu hunain i ofalu a darparu cyfleoedd dysgu i nifer o blant dan 8 oed am fwy na 2 awr y dydd mewn sefyllfa deuluol. Maent wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) ac archwilir gwasanaeth y gofalwr plant pob blwyddyn i sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn addas ar gyfer plant ifanc. Fel arfer mae gofalwyr plant wedi'u cofrestru i ofalu am hyd at dri o blant dan 5 oed a thri o blant oed, yn cynnwys eu plant eu hunain. Gallent ofalu am blant hŷn hyd at 14 oed. Mae Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY) wedi llunio canllaw defnyddiol ar gyfer rhieni / gofalwyr 'Dewis Nani neu Ofalwr Plant'. Gellir lawrlwytho'r daflen hon o wefan PACEY.

15 Meithrinfa Mae’n rhaid i feithrinfeydd preifat, cymunedol a meithrinfeydd yn y gweithle fod wedi cofrestru â CSSIW a chânt eu harchwilio pob blwyddyn. Mae meithrinfeydd dydd yn aelodau Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd.

16 Clybiau y tu allan i oriau ysgol
Ceir mathau gwahanol o wasanaethau y tu allan i oriau ysgol: Clybiau brecwast - ar agor yn y bore cyn yr ysgol fel y gall plant fwynhau bwyta brecwast yno. Clybiau ar ôl ysgol - ar agor yn y prynhawn rhwng tua 3:30pm a 6:00pm fel arfer. Rhaid i wasanaethau y tu allan i oriau ysgol fod wedi cofrestru â CSSIW os ydynt yn gofalu am blant dan wyth oed am fwy na dwy awr y dydd a mwy na phum diwrnod y flwyddyn.

17 Cylch Meithrin / Cylchoedd Chwarae
Ni ddylai un sesiwn bara mwy na 4 awr. Pan cynigir dwy sesiwn yn y dydd ni ddylai plant fynychu mwy na phum sesiwn yr wythnos. Rhaid cael egwyl rhwng y sesiynau ac ni ddylai'r darparwr fod yn gofalu am unrhyw blentyn yn ystod y cyfnod hwn. Mae angen i’r rhan fwyaf o gylchoedd chwarae fod wedi cofrestru â CSSIW. Caiff Cylchoedd Meithrin eu cefnogi gan y Mudiad Ysgolion Meithrin ac mae Cylchoedd Chwarae yn aelodau Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru.

18 Crèche Mae'n rhaid i’r crèche fod wedi cofrestru â CSSIW os yw’n rhedeg am fwy na dwy awr y dydd, hyd yn oed os yw plant unigol yn mynychu am gyfnodau byrrach.

19 Addysg feithrin rhan-amser am ddim i blant 3 blwydd oed
Mae gan y Cyngor rwymedigaeth statudol i ddarparu 10 awr o addysg feithrin rhan-amser yr wythnos i blant tair blwydd oed yng Ngwynedd. Er mwyn derbyn arian ar gyfer Addysg Blynyddoedd Cynnar i blentyn 3 oed rhaid: Gweithio tuag at ennill Cylch Rhagorol (MYM) / Sicrwydd Ansawdd Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru (WPPA).

20 Beth sydd ar gael yn eich ardal chi?

21 Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i weithio yn y sector hwn?
Amynedd Gallu bod yn greadigol Dim cywilydd bod yn wirion - canu a dawnsio a chwarae'n wirion Gweithio mewn tîm Gweithio ar eich liwt eich hun Disgyblaeth Synnwyr digrifwch!!!

22 Cyfeiriadau Gwynedd Ni: http://www.gwynedd-ni.org.uk Cyngor Gwynedd:


Download ppt "Gwasanaethau Cymdeithasol Plant a Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar"

Similar presentations


Ads by Google