Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

ASBESTOS Introduction

Similar presentations


Presentation on theme: "ASBESTOS Introduction"— Presentation transcript:

1 ASBESTOS Introduction
Usually have corporate induction every month – but have been revamping it and have reduced it to being half a day

2 Beth yw asbestos? Gair yw asbestos am grŵp o fwynau sydd wedi eu gwneud o ffibrau microsgopig. Cyn gwybod ei fod yn beryglus, ‘roedd asbestos yn cael ei ddefnyddio’n aml mewn adeiladau ar gyfer inswleiddio, lloriau a thoeau ac yn cael ei chwistrellu ar nenfydau a waliau. Mae bellach wedi'i wahardd yn y Deyrnas Unedig. Efallai bod adeiladau a godwyd cyn y flwyddyn 2000 yn dal i fod ag asbestos ynddynt. Mae symptomau afiechyd sy'n gysylltiedig ag asbestos yn cymryd llawer o flynyddoedd - hyd yn oed degawdau - i ymddangos ar ôl dod i gysylltiad ag ef am y tro cyntaf. Felly, mae’n bosib mai dim ond heddiw y bydd y symptomau’n ymddangos er gwaethaf dod i gysylltiad ag ef amser maith yn ôl.

3 Pam mae asbestos yn beryglus?
Mae Asbestos yn dal i ladd o tua 5000 o weithwyr bob blwyddyn. Mae hyn yn fwy na'r niferoedd sy’n cael eu lladd ar y ffordd. Mae tua 20 o weithwyr yn marw bob wythnos o ganlyniad i fod wedi dod i gysylltiad ag asbestos yn y gorffennol Fodd bynnag, nid dim ond problem o’r gorffennol yw asbestos. Gall fod yn bresennol heddiw mewn unrhyw adeilad a godwyd neu a adnewyddwyd cyn y flwyddyn 2000. Pan fo deunyddiau sy'n cynnwys asbestos yn cael eu symud neu eu difrodi maent yn rhyddhau ffibrau i'r aer. Pan anadlir y ffibrau hyn, gallant achosi clefydau difrifol. Ni fydd y clefydau hyn yn effeithio arnoch chi ar unwaith; maent yn aml yn cymryd amser maith i ddatblygu, ond ar ôl cael diagnosis, mae'n aml yn rhy hwyr i wneud unrhyw beth. Dyna pam mae'n bwysig eich bod yn amddiffyn eich hun yn awr.

4 Canser yr ysgyfaint sy’n gysylltiedig ag asbestos
Gall asbestos achosi’r clefydau difrifol ac angheuol a ganlyn. Mesothelioma Mae mesothelioma yn ganser sy'n effeithio ar leinin yr ysgyfaint (pleura) a'r leinin sy'n amgylchynu rhan isaf y llwybr treuliad (peritonewm). Mae’n diwgydd bron yn ddieithriad oherwydd dod i gysylltiad ag asbestos ac, erbyn yr adeg y caiff ei ddiagnosio, mae bron bob amser yn angheuol. Canser yr ysgyfaint sy’n gysylltiedig ag asbestos Mae canser yr ysgyfaint sy'n gysylltiedig ag asbestos yr un peth (ac yn edrych yr un fath) â chanser yr ysgyfaint a achosir gan ysmygu a phethau eraill. Amcangyfrifir bod un canser yr ysgyfaint ar gyfer pob marwolaeth o fesothelioma. Asbestosis Mae asbestosis yn gadael creithiau difrifol ar yr ysgyfaint ac mae’n digwydd fel arfer ar ôl cysylltiad agos ag asbestos dros nifer o flynyddoedd. Gall wneud pobl fynd yn gynyddol brin o wynt ac mewn achosion difrifol gall fod yn angheuol. Tewhau Plewrol Mae tewhau plewrol yn broblem sy'n digwydd fel arfer ar ôl dod i gysylltiad ag asbestos am gyfnod hir. Mae leinin yr ysgyfaint (pleura) yn chwyddo a thewhau. Os yw’n gwaethygu, gall wasgu’r ysgyfaint ei hun a gwneud pobl yn fyr o wynt ac achosi anesmwythder yn y frest.

5 Sut i osgoi dod i gysylltiad ag Asbestos
I osgoi dod i gysylltiad ag asbestos, rhaid i chi fod yn ymwybodol o ble mae'n debygol o fod. Os nad ydych chi'n gwybod a yw rhywbeth yn asbestos ai peidio, cymerwch mai asbestos ydyw hyd nes y cadarnheir yn wahanol. Cofiwch na allwch ddweud a oes asbestos mewn teils llawr neu deils nenfwd dim ond wrth edrych arnynt. Os oes gennych reswm i feddwl mai asbestos yw rhywbeth, naill ai oherwydd ei fod wedi'i labelu felly neu oherwydd ei fod yn rhywbeth sy'n debygol o gynnwys asbestos GADEWCH LONYDD IDDO. Peidiwch byth â ... drilio, morthwylio, torri, llifio, malu, difrodi, symud neu darfu ar unrhyw ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos neu ddeunyddiau y gall bod asbestos ynddynt.

6 Mae copi llawn o bolisi Asbestos y Cyngor ar gael ar Monitor.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am Asbestos ac amrywiaeth o faterion iechyd a diogelwch ar wefan yr Awdurdod Gweithredol ar gyfer Iechyd a Diogelwch ac ar dulalennau Monitor y Cyngor. .


Download ppt "ASBESTOS Introduction"

Similar presentations


Ads by Google