Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Garem Jackson Cynhadledd

Similar presentations


Presentation on theme: "Garem Jackson Cynhadledd"— Presentation transcript:

1 Garem Jackson Cynhadledd
Ymwybyddiaeth Iaith Garem Jackson Cynhadledd Nant Gwrtheyrn – Mehefin 9fed 2011

2 Dibenion craidd gweithdai Ymwybyddiaeth Iaith
Hyrwyddo a dathlu hunaniaeth yn ein gwlad ddwyieithog; Meithrin dealltwriaeth o ddemograffig iaith yng Nghymru; Deall cyd-destun hanesyddol ac ieithyddol Cymru; Ystyried/herio stereoteipiau wrth sôn am siaradwyr Cymraeg; Hyrwyddo balchder ac agweddau cadarnhaol tuag at Y Gymraeg a’r rôl sydd ganddi yn ein bywydau.

3 Cynulleidfaoedd/Grwpiau Targed
Yn cynnwys: Plant; Rhieni a theuluoedd; Llywodraethwyr; Athrawon a staff ategol; Cymuned ehangach yr ysgol; Rheolwyr a staff canolfannau ac asiantaethau cyhoeddus.

4 Gweithdy Ymwybyddiaeth Iaith: rhaglen enghreifftiol (hanner diwrnod)
Ymarfer delweddau. Trafod/herio cyfres o osodiadau. 3. Cwis demograffig. 4. Hanes yr iaith yng Nghymru.

5 Ymarfer Delweddau Dewis o amrywiaeth o ddelweddau pa un/pa rai sy’n cynrychioli orau eich ‘darlun’ chi o’r iaith Gymraeg.

6 Ymarfer Delweddau Dyma glip fideo o grwpiau o blant blynyddoedd pump a chwech Ysgol Gymuned Cwm y Glo yn trafod eu dewis o ddelweddau a’u rhesymau am y dewisiadau hynny.

7 Trafod/herio cyfres o osodiadau
Trafod/herio cyfres o osodiadau sy’n ymwneud â/ag: Defnydd o iaith; Agweddau tuag at Y Gymraeg; Ethos sefydliad mewn perthynas ag iaith.

8 Trafod/herio cyfres o osodiadau
Dyma glip fideo o grwpiau o blant blynyddoedd pump a chwech Ysgol Gymuned Cwm y Glo yn trafod dau o’r gosodiadau hyn, sef: Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd yn byw yng Nghwm y Glo yn ddi-Gymraeg; ac Mae defnyddio’r Gymraeg yn bwysig wrth chwarae gemau ar y buarth.

9 Trafod/herio cyfres o osodiadau
Gosodiad 1af: ‘Nid oes gan ysgol yr hawl i fynnu bod plentyn yn siarad Cymraeg tu allan i furiau’r dosbarth.’

10 Trafod/herio cyfres o osodiadau
Atebion posibl: Nid mynnu ydi trefn ysgol ond gosod disgwyliadau uchel. Hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn arwain at fanteision a llwyddiant addysgol. Mae datblygu i fod yn bobl ifanc ddwyieithog lawn yn nod clir o safbwynt byw a gweithio yng Nghymru. Hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd yn ddyletswydd ac yn gyfrifoldeb i ni er lles addysgol a chymdeithasol y plant.

11 Trafod/herio cyfres o osodiadau
2il osodiad: ‘Ni fydd ymateb ein holl weithlu yn gadarnhaol tuag at hyrwyddo defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg.’

12 Trafod/herio cyfres o osodiadau
Atebion posibl: Mae’r holl weithlu yn atebol i flaenoriaethau a chynlluniau strategol lleol a chenedlaethol. Mae’r holl weithlu yn atebol i weithredu gweledigaeth y Pennaeth a datganiad o genhadaeth yr ysgol. Mae ymgyrraedd at yr un nod fel gweithlu yn sicrhau llwyddiant ysgol gyfan, ac yn gyfle i aelodau o staff wella eu cymwysterau, profiad a sgiliau mewn meysydd arbennig.

13 Trafod/herio cyfres o osodiadau
3ydd gosodiad: ‘Rôl yr ysgol, nid rhieni, ydy hyrwyddo defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg.’

14 Trafod/herio cyfres o osodiadau
Atebion posibl: Er ei bod yn gallu sicrhau llwyddiant academaidd yn Y Gymraeg, ni all yr ysgol gynhyrchu siaradwyr Cymraeg naturiol ar ei phen ei hun. Mae ymchwil yn dangos mai rhieni a chyfoedion sy’n dylanwadu fwyaf ar arferion iaith plant. Mae angen i rieni fod yn rhan o’r weledigaeth, ac i ddeall a gweld nad ydy hyrwyddo’r Gymraeg yn fygythiad o unrhyw fath.

15 Deilliannau Fframwaith Arolygu Cyffredin newydd Estyn – gwahaniaeth amlwg rhwng: Agwedd 1.1.5: Yr Iaith Gymraeg; ac Agwedd 2.1.3: Darpariaeth Gymraeg a’r dimensiwn Cymreig. Mae cynnal gweithdai Ymwybyddiaeth Iaith yn fodd i ddarparu tystiolaeth dda ar gyfer Agwedd 2.1.3: Darpariaeth Gymraeg a’r dimensiwn Cymreig.

16 Deilliannau Dangosydd Ansawdd Agwedd 2.1.3: Darpariaeth Gymraeg a’r dimensiwn Cymreig: Graddau mae’r ysgol yn cyfrannu at ddatblygu, ac yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o nodweddion diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru.

17 Y Camau Nesaf Ymwybyddiaeth Iaith yn ran o Gynllun Busnes Cyngor Gwynedd ar gyfer Cynllun peilot yn nalgylch Brynrefail: Ysgolion Bethel, Cwm y Glo, Dolbadarn, Gwaun Gynfi, Llanrug, Penisarwaun a Waunfawr wedi ymuno â’r cynllun; Cyflwyno gweithdy Ymwybyddiaeth Iaith i Benaethiaid ysgolion cynradd y dalgylch;

18 Y Camau Nesaf Cefnogi a mentora’r Penaethiaid i lunio gweithdai Ymwybyddiaeth Iaith ar gyfer plant/rhieni. Gweithdai Ymwybyddiaeth Iaith wedi digwydd yn yr ysgolion, gan dargedu deg rhiant ymhob un.


Download ppt "Garem Jackson Cynhadledd"

Similar presentations


Ads by Google