Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
1
Arfer da yng nghyswllt cyflwyniadau PowerPoint
Y cwbl y mae angen ichi ei wybod fel y gall pawb weld eich sleidiau.
2
Yn gyffredinol… Mae pawb yn cael budd os trefnir bod y sleidiau ar gael cyn darlith, er mwyn i’r myfyrwyr eu lawrlwytho yn eu dewis fformat. Mae pawb yn cael budd os bydd dilyniant y sleidiau yr un peth â dilyniant y cyflwyniad. Nid oes neb yn elwa os cyflwynir gormod o wybodaeth ar un sleid.
3
Fformat sleidiau Defnyddiwch ffont glir (nid addurnedig) – ar faint lleiaf o 24 lle bo modd. Peidiwch ag ysgrifennu mwy ar sleid nag y byddech yn ei roi ar gerdyn post. Nodwch y syniadau a’r cynnwys yn gryno, gan ddefnyddio pwyntiau bwled a rhestri yn y modd priodol. Defnyddiwch dempled – i sicrhau y gellwch goladu penawdau a thestun cysylltiedig o fewn golwg yr amlinelliad.
4
Gall nodi testun fesul llinell sicrhau bod y wybodaeth wedi’i chyfleu mewn tameidiau bach. Darllenwch: Defnyddiwch dempled – i sicrhau y gellwch goladu penawdau a thestun cysylltiedig o fewn golwg yr amlinelliad.
5
Gwrthgyferbyniad lliw
Dylai’r gwrthgyferbyniad lliw rhwng y testun a lliw’r cefndir fod yn ddigon i alluogi aelodau’r gynulleidfa i ddarllen cynnwys y sleid yn rhwydd, heb i’r gwrthgyferbyniad eu dallu (Ifori / glas tywyll; melyn golau/ gwyrdd tywyll). Peidiwch â defnyddio delweddau nac effeithiau yn y cefndir. Yn gyffredinol, mae cefndir patrymog yn gwneud testun yn llai darllenadwy, gan dynnu oddi ar gynnwys y sleidiau.
6
Lliwiau cefndir Os ydych yn cyflwyno mewn ystafell olau, defnyddiwch destun tywyll ar gefndir golau. Mewn ystafell dywyll, defnyddiwch gefndir tywyll a thestun golau. Peidiwch â defnyddio dyfeisiau wrth drawsnewid, yn cynnwys opsiynau sain. am fod hyn yn debygol o dynnu oddi ar y cynnwys yn ddi-angen.
7
Myfyrwyr â nam ar y golwg…
Efallai na fyddant yn gallu darllen cynnwys y sleidiau. Darllenwch bwyntiau allweddol yn uchel. Cofiwch roi disgrifiad o ddelweddau neu ddiagramau, lle bo angen.
8
Myfyrwyr byddar neu drwm eu clyw…
Ni fyddant yn gall darllen y sleid ar yr un pryd â darllen gwefusau neu wylio eu lladmerydd. Dylech ganiatáu amser ar gyfer darllen.
9
Myfyrwyr â Gwahaniaethau Dysgu Penodol…
Efallai na fydd myfyrwyr â gwahaniaethau dysgu penodol yn gallu derbyn gwybodaeth os dangosir sleidiau am gyfnod byr yn unig, ac os bydd y tiwtor yn parhau i siarad heb gyfeirio at y sleid.
10
Defnyddwyr technoleg gynorthwyol
Efallai y bydd rhai myfyrwyr yn defnyddio darllenwyr sgrîn i weld cynnwys y sleidiau. Pan fyddwch yn defnyddio pwyntiau bwled a rhestri, gofalwch fod pob pwynt yn diweddu g atalnod (e.e. Atalnod Llawn, Hanner-Colon neu Goma). Bydd hyn yn galluogi defnyddiwr darllenydd sgrîn i wahaniaethu rhwng syniadau gwahanol. Heb yr atalnodi hwn, bydd syniadau gwahanol i’w gweld fel un frawddeg, hen saib rhwng cysyniadau.
11
Defnyddwyr technoleg gynorthwyol
Efallai y gofynnir ichi lunio sleidiau mewn rich text format (RTF) a darparu dewisiadau o ran testun, fel y gall defnyddiwr darllenydd sgrîn weld y cynnwys. Bydd y gofyn hwn wedi’i nodi yng Nghynllun Cynnal Dysgu Personol (CCDP) y myfyriwr, gyda chyfarwyddiadau atodol. Am wybodaeth am CCDP, ewch i:
12
Cyfeiriadau Daw’r wybodaeth hon o: Using Microsoft®PowerPoint Accessibly within Teaching and Learning. Hygyrchedd a PowerPoint. 04/ hs-11215
Similar presentations
© 2024 SlidePlayer.com Inc.
All rights reserved.