Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Brîff 7 Munud - Canllawiau ar ddefnyddio tystiolaeth ffotograffig ar gyfer Oedolion mewn Perygl Guidance on the use of photographic evidence for Adults.

Similar presentations


Presentation on theme: "Brîff 7 Munud - Canllawiau ar ddefnyddio tystiolaeth ffotograffig ar gyfer Oedolion mewn Perygl Guidance on the use of photographic evidence for Adults."— Presentation transcript:

1 Brîff 7 Munud - Canllawiau ar ddefnyddio tystiolaeth ffotograffig ar gyfer Oedolion mewn Perygl Guidance on the use of photographic evidence for Adults at Risk - 7 Minute Briefing

2 1. BETH YDYW? WHAT IS IT? Pwrpas tystiolaeth ffotograffig yw dangos ac ategu’r ffaith bod yr oedolyn mewn perygl wedi cael ei niweidio a chyflwyno hyn i lys neu at ddibenion rheoleiddio neu ddisgyblu. Bydd lles corfforol a lles meddwl yr oedolyn mewn perygl yn cael blaenoriaeth dros yr angen am gasglu tystiolaeth a bydd staff sy’n ymchwilio wastad yn sicrhau bod unrhyw gynlluniau i dynnu lluniau’n ystyried y goblygiadau tebygol o wneud hynny. Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar dynnu lluniau o unigolion ond fe allai hefyd fod yn berthnasol i safleoedd neu ystafelloedd. The purpose of photographic evidence is to demonstrate and support the fact that harm has occurred to the adult at risk with a view to presenting this to a court or for regulatory or disciplinary processes. The physical and mental well-being of the adult at risk will take priority over the need to gather evidence and investigating staff will always ensure that any plans to take photographs take account of the likely consequences that this will have. This guidance focuses on photographing individuals but it may also apply to premises or rooms.

3 2. BETH YDYW ? WHAT IS IT? Mewn rhai achosion (e.e. anafiadau pwysau) bydd angen ffotograffau hefyd am resymau gofal clinigol ac fe allai ffotograffau felly gael eu defnyddio fel tystiolaeth os ydynt yn profi esgeulustod neu driniaeth wael. Pan ddaw tystiolaeth ffotograffig o anafiadau i law, y cyngor yw i chi gael barn feddygol er mwyn dehongli'r lluniau'n arbenigol. Mae’n rhaid i unrhyw luniau sy’n cael eu tynnu ystyried yr holl ofal meddygol neu nyrsio sy’n cael ei ddarparu ac unrhyw gyngor clinigol sydd wedi’i ddarparu (e.e. tynnu dresin). Os yw’r lluniau’n cael eu tynnu at ddibenion clinigol yna fe fyddant yn cael eu tynnu gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol ac sy’n brofiadol yn y maes hwn. In some cases (e.g. pressure areas) photography will be required also for clinical care reasons and such photographs may also be admissible as evidence where they indicate neglect or ill treatment. Whenever photographic evidence of injuries has been obtained it is advisable to obtain a medical opinion to provide expert interpretation of the images. Any photography undertaken must take account of all medical or nursing care that is being provided and of any clinical advice provided (e.g. removal of dressings). If the photographs are being taken for clinical purposes then they will be taken by staff that are suitably trained and experienced in this area.

4 3. BETH YDYW? WHAT IS IT? Mewn amgylchiadau eithriadol yn unig y bydd hi'n briodol i unrhyw weithiwr dynnu lluniau o anafiadau ar ffonau symudol neu ar eu camerâu personol. Dylid annog perthnasau a gofalwyr i beidio â gwneud hynny er parch i'r defnyddiwr gwasanaeth a chyfrinachedd yn gyffredinol. Yn rhan o’u dyletswyddau dyddiol arferol, ni ddylai’r rhan fwyaf o staff fod angen tynnu lluniau o unigolion nac o unrhyw anafiadau sydd ganddynt. In only exceptional circumstances is it appropriate for any worker to take photographs of injuries on mobile telephones or on their personal cameras. Relatives and carers should also be discouraged from doing so in the interests of the dignity of the service user and wider confidentiality. As part of their normal daily duties, most staff should not need to take photographs of individuals or of any injuries they may have received.

5 4. CYDBAVYDDIAETH 4. RECOGNITION
Bydd yr un egwyddorion yn berthnasol i dynnu llun o ddefnyddiwr gwasanaeth ag ar gyfer unrhyw unigolyn arall: 1. Dylid gofyn am ganiatâd gan yr unigolyn cyn tynnu unrhyw lun. 2. Mae’n rhaid parchu urddas yr unigolyn bob tro. 3. Mae’n rhaid bod â rhesymau clir o ran tystiolaeth neu resymau clinigol dros dynnu llun. The photographing of a service user will follow the same principles as for any other individual: 1. Consent should be sought from the individual before any photograph is taken. 2. The individual’s dignity must be preserved at all times. 3. There must be clear evidential or clinical reasons for the use of photography.

6 5. MATERION ALLWEDOL 5. KEY ISSUES
Individuals who have sustained an injury (however slight) should be referred to the appropriate health professional (GP, Hospital etc.) and/or the police who may decide, using their own policy/procedure, whether it is appropriate to start or keep a photographic record of an injury. Where the primary purpose of the photographs is to provide evidence for a criminal investigation the photographer will be a member of the police service and will have received appropriate training. Dylai unigolion sydd wedi cael anaf (waeth pa mor fach ydyw) gael eu cyfeirio at y gweithiwr proffesiynol priodol (meddyg teulu, yr ysbyty, ac ati) a/neu’r heddlu a allai benderfynu, gan ddefnyddio eu polisi/gweithdrefn eu hunain, a yw hi'n briodol dechrau neu gadw cofnod ffotograffig o anaf. Pan mai prif bwrpas y llun fydd darparu tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad troseddol, bydd y ffotograffydd yn aelod o wasanaeth yr heddlu a bydd wedi derbyn hyfforddiant priodol.

7 6. SUT I YMATEB 6. HOW TO RESPOND
Rhaid i staff fod yn ymwybodol bod arnynt angen caniatâd dilys gan y sawl y maent yn dymuno tynnu llun ohonynt cyn gwneud hynny. Er mwyn i’r caniatâd fod yn ddilys, byddai angen i staff sicrhau bod y person yn deall pam roedd ar yr aelod staff eisiau tynnu llun a sut fydd yn cael ei ddefnyddio. Os nad yw’r galluedd meddyliol gan y defnyddiwr gwasanaeth i roi caniatâd, bydd angen dilyn egwyddorion Deddf Galluedd Meddyliol 2005 ac ni fydd ffotograffiaeth ond yn dderbyniol os oes cred bod hynny er lles pennaf y defnyddiwr gwasanaeth. Staff must be aware that they need valid consent from the person they wish to photograph before doing so. For consent to be valid, staff would need to make sure that the person understood why the staff member wanted to take a picture and what this would be used for. If the service user lacks the mental capacity to consent to being photographed then the principles of the Mental Capacity Act 2005 will apply and it will only be acceptable if photography is considered to be in the best interests of the service user.

8 7. GWEITHREDU ACTION Dylech bob tro geisio cymryd camau rhesymol (er enghraifft, cynnwys cydweithwyr mwy arbenigol) i gefnogi oedolion i benderfynu ar eu liwt eu hunain cyn dod i gasgliad nad ydynt yn gallu gwneud hynny. Dylai staff wybod na fydd caniatâd rhywun arall ar ran y defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei ystyried yn ganiatâd dilys. You should always take reasonable steps (for example involving more specialist colleagues) to support adults in making their own decisions, before concluding that they are unable to do so. Staff should note that the consent of a third party on behalf of the service user will be not regarded as valid consent.


Download ppt "Brîff 7 Munud - Canllawiau ar ddefnyddio tystiolaeth ffotograffig ar gyfer Oedolion mewn Perygl Guidance on the use of photographic evidence for Adults."

Similar presentations


Ads by Google