Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published byRandall Cannon Modified over 6 years ago
1
Iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru Llywio cynllunio strategol
Insert name of presentation on Master Slide 2018 Iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru Llywio cynllunio strategol Adroddiad
2
Cyflwyniad Cyflwyniad 2 Tabl cynnwys Cyflwyniad 2-7 Dechrau iach 57-69
Mae’r adroddiad Iechyd a'i phenderfynyddion yng Nghymru yn rhoi trosolwg o iechyd a llesiant poblogaeth Cymru. Mae'n amlinellu'r prif feysydd o ran anghenion iechyd ac yn cyflwyno’r darlun cymhleth o iechyd yng Nghymru. Mae'n dangos yr enillion a wnaed ond mae hefyd yn tynnu sylw at yr heriau sylweddol a wynebir yn awr ac yn y dyfodol. Nod yr adroddiad hwn yw disgrifio epidemioleg iechyd a’i benderfynyddion yng Nghymru mewn ffordd all lywio cynllunio iechyd y cyhoedd yn strategol yn y dyfodol. Ei ddiben cychwynnol oedd llywio cynllunio strategol hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ein gobaith yw y bydd hefyd o werth i eraill sy’n gysylltiedig â chynllunio strategol ledled Cymru. Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth ar lefel uchel ac yn rhoi enghreifftiau dangosiadol yn cynnwys themâu eang. Mae’n defnyddio elfen gyffredin ar gyfer ffactorau iechyd a risg, baich clefydau, i gynorthwyo’r gwaith o ystyried blaenoriaethau perthnasol. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am benderfynyddion ehangach iechyd gyda ffocws penodol ar blant. Mae’r adroddiad yn cynnwys cymariaethau rhyngwladol, yn canolbwyntio ar yr hyn y mae’r gwledydd hynny â’r canlyniadau gorau’n ei gyflawni, ac yn rhoi tueddiadau’r gorffennol a rhai a flaenamcanir ar gyfer y dyfodol. Yn cyd-fynd â’r adroddiad Iechyd a'i phenderfynyddion yng Nghymru mae ffeithlun, crynodeb sy'n cynnwys negeseuon allweddol a chasgliadau'r adroddiad, a chanllaw technegol sy’n darparu arweiniad pellach ar sut i ddehongli'r data, unrhyw gyfyngiadau, a'r dulliau a'r ffynonellau data a ddefnyddiwyd. Tabl cynnwys Cyflwyniad 2-7 Dechrau iach 57-69 Demograffeg 8-11 Amodau byw 70-84 Disgwyliad oes 12-15 Rhagamcaniadau 85-92 Baich clefydau 16-36 Bygythiadu newydd 93-98 Ymddygiadau iechyd 37-56 Diolchiadau 99 Cyflwyniad 2
3
Geirfa LE - disgwyliad oes - amcangyfrif o'r nifer cyfartalog o flynyddoedd y gall person ddisgwyl byw ar sail blwyddyn ei eni, ei oedran presennol a ffactorau demograffig eraill gan gynnwys rhyw. Mae'r amcangyfrif yn tybio bod y cyfraddau marwolaeth presennol ar gyfer yr ardal lle y cawsant eu geni yn gymwys trwy gydol eu bywydau. HLE - disgwyliad oes iach - y nifer cyfartalog o flynyddoedd y gall person ddisgwyl byw mewn iechyd da, gan dybio bod y cyfraddau marwolaeth presennol a lefelau iechyd da ar gyfer yr ardal lle y cawsant eu geni yn gymwys trwy gydol eu bywydau. YLL - blynyddoedd oes a gollwyd, nifer y blynyddoedd o fywyd a gollwyd oherwydd marwolaeth gynamserol. YLD - blynyddoedd yn byw gydag anabledd, mae nifer yr achosion o ddigwyddiadau yn y cyfnod yn cael eu lluosi â hyd cyfartalog y clefyd a ffactor pwysoli sy'n adlewyrchu difrifoldeb y clefyd ar raddfa o 0 (iechyd perffaith) i 1 (wedi marw). DALYs - blynyddoedd oes wedi’u haddasu gan anabledd, swm y blynyddoedd oes a gollwyd (YLL) a blynyddoedd yn byw gydag anabledd (YLD). Gellir ystyried un DALY fel un flwyddyn oes a gollwyd o fywyd "iach". Gellir ystyried swm y DALYs hyn ar draws y boblogaeth fel mesuriad o'r bwlch rhwng statws iechyd presennol a sefyllfa iechyd ddelfrydol lle mae'r boblogaeth gyfan yn byw i oedran hŷn, heb afiechyd ac anabledd. Cyflwyniad 3
4
Da i wybod Cyflwyniad 4 Cymaryddion Amddifadedd
Lle mae data cymharol ar gael, mae Gwledydd y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad yr Iâ a Sweden wedi cael eu defnyddio. Mae Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon wedi cael eu defnyddio gan fod ganddynt nodweddion demograffig a chymdeithasol tebyg yn fras i Gymru. Yn 2015, sefydlodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Nodau Datblygiad Cynaliadwy (SDG) a chan ddefnyddio 33 o ddangosyddion SDG cysylltiedig ag iechyd, cafodd 188 o wledydd eu rhestru o'r gorau i'r gwaethaf. Dewiswyd Gwlad yr Iâ (1af) a Sweden (3ydd) fel cenhedloedd a oedd hefyd yn rhannu nodweddion demograffig tebyg i'r DU (5ed). Cyfeiriad: GBD 2015 SDG Collaborators (2016), Measuring the health-related Sustainable Development Goals in 188 countries: a baseline analysis from the Global Burden of Disease Study Lancet. 388, 1813–50. Amddifadedd Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) 2014 yn fesur seiliedig ar ardal yn hytrach nag yn fesur seiliedig ar unigolion. Rhaid nodi felly nad yw pawb sy'n byw mewn ardal ddifreintiedig o reidrwydd yn byw mewn amgylchiadau difreintiedig ac, yn yr un modd, efallai y bydd rhai pobl sy'n byw mewn ardal a ddosbarthir fel y lleiaf difreintiedig yn profi amddifadedd. Cyflwyniad 4
5
Da i wybod Cyflwyniad 5 Global Burden of Disease
Ffynhonnell ddata sy'n darparu amcangyfrifon baich clefydau sy’n gymaradwy yn rhyngwladol yw'r astudiaeth Global Burden of Disease 2016 (GBD, Global Health Data Exchange). Mae'r dulliau yn caniatáu ar gyfer argaeledd ac ansawdd data gwahanol. Mae'r astudiaeth yn darparu amcangyfrifon wedi’u modelu, nid mesuriadau uniongyrchol, ac felly ni ddylid cymharu'r canlyniadau ag unrhyw fesurau uniongyrchol neu amcangyfrifon amgen a adroddir ar gyfer Cymru. Bydd ansicrwydd yn unrhyw rai o'r data crai neu'r paramedrau a ddefnyddir yn y model yn arwain at anfanylder yn yr amcangyfrifon eu hunain. Dim ond arwydd a geir gan y graddfeydd o gyfraniad cymharol ffactorau risg gwahanol i’r baich clefydau a bydd sicrwydd y raddfa yn dibynnu ar gryfder y dystiolaeth sylfaenol. Mae'r dulliau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu DALYs yn yr adroddiadau Global Burden of Disease a gynhyrchwyd cyn 2010 wedi cael eu beirniadu am ffafrio oedolion iau a blynyddoedd oes a enillir yn uniongyrchol; mae adroddiadau mwy diweddar yn defnyddio dull sydd wedi cywiro hyn. Cyflwyniad 5
6
Da i wybod Cyflwyniad 6 Global Burden of Disease parhad
Mae'r astudiaeth Global Burden of Disease wedi nodi wyth categori risg: Cymdeithasol, diwylliannol, economaidd Ymddygiadol Metabolig Ymyrraeth iechyd Microbiomeg a gwesteiwr Pathogenau Amgylcheddol neu alwedigaethol Genynnau O'r rhain, dim ond y categorïau risg ymddygiadol, amgylcheddol neu alwedigaethol, a metabolig a ymchwiliwyd sy'n cynrychioli 84 o risgiau unigol. Felly, dim ond cyfran o gyfanswm y DALYs y gellir eu priodoli i ffactorau risg a nodwyd gan GBD. Mae swm y DALYs o risgiau unigol yn uwch na chyfanswm y DALYs y gellir eu priodoli i gategori risg penodol. Mae hyn oherwydd y gellir priodoli DALYs i fwy nag un ffactor risg. Er enghraifft, gallai diet gwael a defnyddio alcohol effeithio ar berson unigol ond dim ond unwaith y bydd y rhain yn cyfrif tuag at gyfanswm y DALYs y gellir eu priodoli ar gyfer 'risgiau ymddygiadol'. Cyflwyniad 6
7
Da i wybod Cyflwyniad 7 Rhagamcaniadau
Amcangyfrifon yw rhagamcaniadau sy’n seiliedig ar wahanol ragdybiaethau am y dyfodol. Mae rhagamcaniadau yn tybio bod rhagamcaniadau'r boblogaeth yn adlewyrchiad cywir o newid poblogaeth yn y dyfodol. Mae rhagamcaniadau tymor byr yn arwyddion rhesymol o'r cyfeiriad dros y tair blynedd nesaf os yw’r patrwm a arsylwyd yn y data yn parhau. Rhaid edrych yn ofalus iawn ar ragamcaniadau tymor hwy oherwydd y tebygolrwydd y bydd y tueddiadau a welwyd yn y gorffennol yn newid. Mae'r system Daffodil yn cymhwyso ffigurau mynchyder Cymru o WHS 2012 i amcangyfrifon poblogaeth a ragamcanwyd; nid ydynt yn ystyried tueddiadau'r gorffennol. Cyflwyniad 7
8
Demograffeg Disgwyliad oes Baich clefydau Ymddygiadau iechyd
Dechrau iach Amodau byw Rhagamcaniadau Bygythiadau newydd Cynnwys 8
9
Yng Nghymru, mae 20% (635,000) o'r boblogaeth yn 65+ oed o'i gymharu â 18% yng ngweddill y DU; mae 50% yn oed, ac mae 30% o dan 25 oed. Demograffeg 9
10
Rhagwelir y bydd strwythur y boblogaeth yng Nghymru yn newid gyda chynnydd sylweddol yn y boblogaeth hŷn, a gostyngiad a ragamcanir yn yr oedolion oed gweithio. Demograffeg 10
11
Rhagamcanir y bydd cynnydd o dros 250,000 o bobl 65+ oed, gan gynnwys cynnydd o 127% yn y rhai sy'n 85+ oed. Rhagwelir gostyngiad o 5% mewn oedolion oedran gweithio oed. Sylwer: Mae gan y siart newid cymharol echel x logarithmig. Demograffeg 11
12
Disgwyliad oes Demograffeg Baich clefydau Ymddygiadau iechyd
Dechrau iach Amodau byw Rhagamcaniadau Bygythiadau newydd Cynnwys 12
13
Mae disgwyliad oes a disgwyliad oes iach yng Nghymru yn is nag yn Lloegr. Mae menywod yng Nghymru ar gyfartaledd yn treulio bron i 20 mlynedd yn byw mewn iechyd gwael, o'i gymharu â bron i 17 mlynedd ar gyfer dynion. Sylwer: Mae’r echelau wedi'u haddasu i ddechrau ar 45. Disgwyliad oes 13
14
Mae disgwyliad oes yng Nghymru yn parhau i godi ond ar gyfradd arafach na Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Mae Cymru'n gyson is na'r cymaryddion rhyngwladol gorau a Lloegr. Ers 2010 mae disgwyliad oes wedi cynyddu'n arafach na'r 20 mlynedd flaenorol. Disgwyliad oes 14
15
Mae'r bwlch mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach (9 a 19 mlynedd ar gyfer dynion, 7 a 18 mlynedd ar gyfer menywod) rhwng yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn parhau heb newid. Disgwyliad oes 15
16
Baich clefydau Demograffeg Disgwyliad oes Ymddygiadau iechyd
Dechrau iach Amodau byw Rhagamcaniadau Bygythiadau newydd Cynnwys 16
17
Neoplasmau (canserau, 19%) a chlefyd cardiofasgwlaidd (18%) yw prif achosion DALYs. Anhwylderau cyhyrysgerbydol ac anhwylderau meddyliol a defnyddio sylweddau yw'r nesaf uchaf. Baich clefydau 17
18
Anhwylderau cyhyrysgerbydol ac anhwylderau meddyliol a defnyddio sylweddau yw prif achosion blynyddoedd yn byw gydag anabledd (YLD). Baich clefydau 18
19
Neoplasmau (canserau) a chlefyd cardiofasgwlaidd yw prif achosion blynyddoedd oes a gollwyd (YLL) yn 2016. Baich clefydau 19
20
Mae gan Gymru gyfradd DALY canser cymharol uchel sydd wedi lleihau ychydig yn unig ers 1990.
Mae'r gyfradd DALY afiechyd cardiofasgwlaidd wedi gostwng yn sylweddol, ond mae Cymru'n parhau i fod yr ail uchaf yn y DU. Sylwer: Nid yw cyfraddau syml yn ystyried union strwythur oedran y boblogaeth. Baich clefydau 20
21
Mae DALYs a achosir gan glefydau cardiofasgwlaidd ac anhwylderau newyddenedigol wedi gostwng ers Er nad dyma’r cynnydd absoliwt mwyaf, mae DALYs a achosir gan sirosis a chlefydau eraill yr afu wedi dyblu. Sylwer: Mae gan y siart newid cymharol echel x logarithmig. Baich clefydau 21
22
Mae hanner y DALYs yn digwydd yn y rhai dros 65 oed.
Baich clefydau 22
23
Mae achosion DALYs yn newid gydag oedran
Mae achosion DALYs yn newid gydag oedran. Mae iechyd meddwl ac anhwylderau cyhyrysgerbydol yn cyfrannu fwyaf yn ystod oedran gweithio, gyda neoplasmau, anhwylderau niwrolegol a chlefyd cardiofasgwlaidd amlycaf yn hwyrach mewn bywyd. Baich clefydau 23
24
Iechyd meddwl ac anhwylderau cyhyrysgerbydol yw prif achosion YLD mewn oedolion. Mae clefydau anhrosglwyddadwy eraill (yn cynnwys clefydau organau synnwyr) yn cyfrannu at YLD trwy gydol oes. Baich clefydau 24
25
Ar gyfer oedolion ifanc, mae anafiadau (achosion allanol) yn achosi 50% o flynyddoedd oes a gollwyd (YLL). Neoplasmau (canserau) a chlefyd cardiofasgwlaidd yw prif achosion YLL i bobl 40+ oed. Baich clefydau 25
26
Mae marwolaethau cynamserol (oedolion rhwng 30 a 70 oed) wedi gostwng yn y degawd diwethaf.
Baich clefydau 26
27
Mae statws iechyd hunan-adroddedig ar gyfer y boblogaeth hŷn wedi gwella. Ni fu llawer o newid yn yr oedolion oedran gweithio. Baich clefydau 27
28
Mae baich cyd-forbidrwydd yn codi'n sylweddol gydag oedran, gyda 45% o'r boblogaeth 75+ oed yn dweud bod ganddynt 2 neu fwy o afiechydon hirdymor. Baich clefydau 28
29
Bu cynnydd yng nghanran yr oedolion sy’n adrodd eu bod yn cael eu trin ar hyn o bryd am unrhyw salwch meddwl. Baich clefydau 29
30
Mae nifer yr achosion hunan-adroddedig o gyflyrau’r galon wedi gostwng tra bod mynychder clefyd siwgr wedi codi. Mae mynychder cyflyrau anadlol yn parhau yr un fath. Baich clefydau 30
31
Mae natur drosglwyddadwy clefydau trosglwyddadwy yn cynrychioli baich mwy o bosibl posibl os na chânt eu rheoli. Gall achosion ddangos patrwm tymhorol. Baich clefydau 31
32
Y ffliw, Hepatitis C a C. difficile yw’r tri phrif achos o DALYs ar
gyfer clefydau trosglwyddadwy yng Nghymru. Baich clefydau 32
33
Mae’r ffliw yn gyfrifol am un o'r beichiau clefydau uchaf o bob haint
Mae’r ffliw yn gyfrifol am un o'r beichiau clefydau uchaf o bob haint. Mae 4% o boblogaeth Cymru yn adrodd am symptomau salwch tebyg i ffliw yn ystod anterth tymor y ffliw 1. 1Yn seiliedig ar arolygon ffôn a gynhaliwyd yn ystod tymhorau’r ffliw 2015/16 a 2014/15, yn ystod y pythefnos brig o weithgaredd (yng Nghymru). Baich clefydau 33
34
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf bu cynnydd mewn achosion a gadarnhawyd gan labordy o Hepatitis a gludir yn y gwaed yng Nghymru. Mewn cyferbyniad, mae achosion Twbercwlosis wedi gostwng bron 50%. Baich clefydau 34
35
Mae adroddiadau a gadarnhawyd gan labordy o'r haint C
Mae adroddiadau a gadarnhawyd gan labordy o'r haint C. difficile wedi gostwng dros 50% yn y 5 mlynedd diwethaf. Yn yr un cyfnod, mae bacteraemia E.coli a gadarnhawyd gan labordy wedi cynyddu ychydig. Sylwer: Mae'r data ar gyfer 1af Ionawr 2017 ar gyfer bacteraemia E.coli a 2il Mawrth 2017 ar gyfer Clostridium difficile. Baich clefydau 35
36
Bu cynnydd yn yr achosion a adroddwyd o'r heintiau a drosglwyddir yn rhywiol Chlamydia a Gonorea yn ystod y 5 mlynedd diwethaf yng Nghymru. Baich clefydau 36
37
Ymddygiadau iechyd Demograffeg Disgwyliad oes Baich clefydau
Dechrau iach Amodau byw Rhagamcaniadau Bygythiadau newydd Cynnwys 37
38
Mae ymchwil wedi ein helpu i briodoli 40% o'r holl DALYs i ffactorau risg a nodwyd gan yr astudiaeth Global Burden of Disease. Mae pennu'r ffactorau risg hyn yn cyfrannu at ymdrechion ataliaeth. Ymddygiadau iechyd 38
39
Ysmygu yn y gorffennol yw'r ffactor risg mwyaf ar gyfer DALYs cyfredol
Ysmygu yn y gorffennol yw'r ffactor risg mwyaf ar gyfer DALYs cyfredol. Mae pwysedd gwaed uchel, BMI uchel a cholesterol uchel hefyd yn ffactorau risg sylweddol. Ymddygiadau iechyd 39
40
Mae ysmygu yn cynrychioli dwy ran o dair o'r DALYs y gellir eu
priodoli ar gyfer clefyd resbiradol cronig ac hefyd yn cynrychioli 43% o DALYs y gellir eu priodoli ar gyfer neoplasmau a 6% o glefydau cardiofasgwlaidd. Sylwer: Mae cyfanswm nifer a chyfran y DALYs y gellir eu priodoli i ffactorau risg hysbys yn amrywio'n sylweddol yn ôl achos (gweler sleid 38). Ymddygiadau iechyd 40
41
Ers 1990 mae'r nifer o DALYs a briodolir i’r defnydd o gyffuriau wedi mwy na dyblu lle mae'r nifer o DALYs a briodolir i golesterol uchel a phwysedd gwaed uchel wedi haneru. Sylwer: Mae gan y siart newid cymharol echel x logarithmig. Ymddygiadau iechyd 41
42
Mae’r risgiau ar gyfer DALYs yn newid yn ôl grŵp oedran
Mae’r risgiau ar gyfer DALYs yn newid yn ôl grŵp oedran. Ar gyfer oedolion dan 50 oed, defnyddio cyffuriau, defnyddio alcohol a BMI uchel yw’r prif risgiau. Ysmygu, BMI uchel a phwysedd gwaed uchel yw'r tri risg uchaf i oedolion 50+. Ymddygiadau iechyd 42
43
BMI uchel yw'r prif ffactor risg ar gyfer blynyddoedd oes yn byw gydag anabledd.
Ymddygiadau iechyd 43
44
Ysmygu a phwysedd gwaed uchel yw'r prif ffactor risg ar gyfer blynyddoedd oes a gollwyd (YLL). Mae BMI uchel, colesterol uchel a defnyddio alcohol hefyd yn ffactorau risg sylweddol ar gyfer YLL. Ymddygiadau iechyd 44
45
Mae nifer yr achosion o ysmygu ac yfed mwy na’r canllawiau wedi gostwng yn y 7 mlynedd diwethaf.
Ymddygiadau iechyd 45
46
Er bod gan Gymru fynychder ysmygu is na'r Alban ar gyfer menywod, mae'n uwch na Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae gan Gymru yr ail fynychder ysmygu isaf o unrhyw wlad yn y DU ar gyfer dynion. Ymddygiadau iechyd 46
47
Mae ysmygu a adroddwyd ymhlith oedolion 2.4 gwaith yn uwch yn
y pumed mwyaf difreintiedig nag yn y bumed lleiaf difreintiedig. Fodd bynnag, mae oedolion sy'n adrodd eu bod yn yfed y tu hwnt i’r canllawiau uchaf yn y pumed lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Ymddygiadau iechyd 47
48
Mae cyfraddau ysmygu bron i 3 gwaith yn uwch yn y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru o'i gymharu â'r pumed lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'r bwlch wedi lleihau yn yr 8 mlynedd diwethaf. Ymddygiadau iechyd 48
49
Dros y cyfnod 8 mlynedd diweddaraf, roedd canran yr oedolion oedd yn yfed mwy na’r canllawiau yn gyson uwch yn y pumed lleiaf difreintiedig yng Nghymru o'i gymharu â'r pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Ymddygiadau iechyd 49
50
Mae cyfraddau marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn llawer uwch yn y pumed mwyaf difreintiedig o'i gymharu â'r pumed lleiaf difreintiedig yng Nghymru, er gwaethaf y berthynas gyferbyniol o ran yfed mwy na’r canllawiau. Ymddygiadau iechyd 50
51
Mae marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn cynyddu ymhlith menywod yng Nghymru, ond maent wedi bod yn gostwng yn raddol mewn dynion ers Ers 2003 cafwyd cwymp dramatig mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol ar gyfer dynion yn yr Alban. Ymddygiadau iechyd 51
52
Mae canran yr oedolion sy'n adrodd am fwyta ffrwythau a llysiau yn uwch yn y pumed lleiaf difreintiedig yng Nghymru o'i gymharu â'r pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae'r bwlch wedi tyfu dros yr 8 mlynedd diwethaf. Ymddygiadau iechyd 52
53
Mae gan Gymru ganran is o ddynion a menywod sy'n bodloni canllawiau gweithgarwch corfforol a argymhellir na Lloegr a'r Alban. Ymddygiadau iechyd 53
54
Mae llai na 50% o oedolion yn y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cyflawni'r canllawiau gweithgarwch corfforol a argymhellir o'i gymharu â dros 60% yn y pumed lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Ymddygiadau iechyd 54
55
Bu cynnydd bach yn y ganran o oedolion sydd dros bwysau neu’n ordew ers Yn yr un modd, mae'r bwlch rhwng y pumed lleiaf a mwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi tyfu 2%. Ymddygiadau iechyd 55
56
Mae bron i ddwy ran o dair o ddynion a thros hanner y menywod yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew. Mae hyn yn debyg i wledydd eraill y DU ond yn llawer uwch na Sweden. Sylwer: Mae data BMI Lloegr wedi’u cyfrifo gan ddefnyddio taldra a phwysau wedi’u mesur gan nyrsys. Mae'r arolygon eraill yn defnyddio data hunan-adroddedig a all o bosibl danamcangyfrif y BMI o ganlyniad i ragfarn adrodd (gan oramcangyfrif taldra a thanamcangyfrif pwysau). Ymddygiadau iechyd 56
57
Dechrau iach Demograffeg Disgwyliad oes Baich clefydau
Ymddygiadau iechyd Dechrau iach Amodau byw Rhagamcaniadau Bygythiadau newydd Cynnwys 57
58
Mae marwolaethau babanod yng Nghymru yn debyg i Loegr a'r Alban ond yn is na Gogledd Iwerddon.
Dechrau iach 58
59
Mae'r ganran gyffredinol o fabanod a aned â phwysau geni isel wedi parhau'n gymharol sefydlog, fodd bynnag, mae graddiant clir ar draws y pumedau o amddifadedd yng Nghymru. Dechrau iach 59
60
Mae 22% o fabanod yn cael eu bwydo ar y fron yn 10 diwrnod oed yn y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru o'i gymharu â 47% yn y pumed lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Dechrau iach 60
61
Mae'r gyfradd imiwneiddio wedi codi ers 2008/09, fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn sylweddol is na'r canran targed o 95%. Dechrau iach 61
62
Ar gyfartaledd, mae gan blant yn y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru dros ddwywaith cymaint o ddannedd wedi eu pydru, ar goll neu wedi'u llenwi na'r rhai sydd yn y pumed lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Dechrau iach 62
63
O'i gymharu â Lloegr, mae gan Gymru fynychder uwch o blant 4-5 oed sydd dros bwysau neu'n ordew.
Dechrau iach 63
64
Dechrau iach 64 Bechgyn Merched
Mae cyfraddau bod dros bwysau/gordewdra yn gyffredinol uwch mewn bechgyn na merched. Mae gan Gymru ganran uwch o bobl 15 oed sydd dros bwysau neu'n ordew o'i gymharu â Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon. Bechgyn Merched Dechrau iach 64
65
Dechrau iach 65 Bechgyn Merched
Mae llai na thraean o blant yng Nghymru yn bwyta dogn o lysiau unwaith y dydd, sy’n is na Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon. Bechgyn Merched Dechrau iach 65
66
Dechrau iach 66 Bechgyn Merched
Yng Nghymru, adroddodd 7% o fechgyn a 9% o ferched 15 oed eu bod yn ysmygu o leiaf unwaith yr wythnos, ill dau yn is na'r Alban ond yn uwch na Lloegr. Bechgyn Merched Dechrau iach 66
67
Dechrau iach 67 Bechgyn Merched
Mae gan Gymru ganran uwch o ferched a adroddodd eu bod yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos na Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon. Dim ond yn yr Alban yr oedd y ganran o fechgyn yn uwch. Bechgyn Merched Dechrau iach 67
68
Dechrau iach 68 Bechgyn Merched
Mae gan Gymru'r ganran uchaf o ferched a adroddodd iechyd gweddol neu wael o'i gymharu â Lloegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon; mae gan Gymru hefyd yr ail ganran uchaf ar gyfer bechgyn. Bechgyn Merched Dechrau iach 68
69
Dechrau iach 69 Bechgyn Merched
Mae gan Gymru'r ganran isaf o ferched sy'n weithgar yn gorfforol am 60 munud bob dydd; dim ond yn yr Alban yr oedd y ganran o fechgyn yn is. Bechgyn Merched Dechrau iach 69
70
Amodau byw Demograffeg Disgwyliad oes Baich clefydau
Ymddygiadau iechyd Dechrau iach Amodau byw Rhagamcaniadau Bygythiadau newydd Cynnwys 70
71
Mae ffactorau personol, ffordd o fyw ac amgylcheddol yn dylanwadu ar ein hiechyd, yn ogystal â dylanwadau diwylliannol, economaidd a gwleidyddol ehangach sydd hefyd yn effeithio ar lesiant. Ffynhonnell: Barton & Grant, 2006 Amodau byw 71
72
Mae chwarter y plant yng Nghymru yn byw mewn tlodi
Mae chwarter y plant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Ar lefel ardal fach, mae hyn yn amrywio'n sylweddol o 4% i 64% o blant yn byw mewn tlodi. Amodau byw 72
73
Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn cynyddu'r risg o ddatblygu ymddygiad sy’n niweidio iechyd; dioddefodd mwy o blant yng Nghymru 4+ o ACEs o'i gymharu â Lloegr, gyda lefelau tebyg yn adrodd am 1+ o ACEs. Am bob 100 o oedolion yng Lloegr, 48 wedi dioddef un ACE o leiaf yn ystod eu plentyndod ac mae 9 wedi dioddef 4 neu fwy. Mae’r ffigurau’n seiliedig ar fynychder wedi ei addasu yn ôl poblogaeth ymysg oedolion oed yng Lloegr Amodau byw 73
74
Gan ddefnyddio mesur cymharol rhyngwladol o gyrhaeddiad addysgol (PISA), mae gan Gymru sgoriau is na gwledydd eraill y DU, Sweden a Singapore (y gorau yn rhyngwladol). Amodau byw 74
75
Mae dwywaith cymaint o bobl yn y pumed lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn gadael yr ysgol gyda chymwysterau lefel 2 nag yn y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Sylwer: Mae cymwysterau Lefel 2 yn cynnwys 5 TGAU A* -C neu gyfwerth (gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg). Amodau byw 75
76
Nid yw oddeutu un o bob pump o bobl oed ac un o bob deg o bobl oed mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae hyn wedi cynyddu ychydig yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Amodau byw 76
77
Mae dros chwarter y cartrefi â phlant sy'n byw mewn llety rhent cymdeithasol yn orlawn. Mae hyn yn sylweddol uwch na llety rhent preifat a llety a berchnogir. Amodau byw 77
78
Mae dros 1 o bob 4 o gartrefi yn y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn adrodd na allant fforddio nwyddau bob dydd; nid yw 6% o gartrefi yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig chwaith yn gallu fforddio'r rhain. Amodau byw 78
79
Gall 82% o bensiynwyr dalu eu holl filiau ac ymrwymiadau heb unrhyw anawsterau. Mae dros 40% o oedolion oed yn adrodd na allant wneud hyn. Amodau byw 79
80
Roedd 42% o'r rhieni a oedd wedi defnyddio gofal plant ffurfiol yn ei chael hi'n anodd ei fforddio, ac roedd 35% o rieni yn ei chael hi'n anodd cael gofal plant yn ystod gwyliau'r ysgol. Amodau byw 80
81
Mae 12% o gyfanswm y boblogaeth yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl
Mae 12% o gyfanswm y boblogaeth yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl. Mae hyn yn codi i 22% ar gyfer personau oed. Amodau byw 81
82
Adroddodd oddeutu un o bob pedwar oedolyn sy'n byw yn y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru eu bod yn teimlo'n unig, sef dwbl y nifer yn y pumed lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Amodau byw 82
83
Mae canran y bobl sy'n adrodd am ymdeimlad o gymuned yn is yn y pumed mwyaf difreintiedig yng Nghymru o'i gymharu â'r lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Amodau byw 83
84
Roedd llygredd aer nitrogen deuocsid a chrynodiadau PM10 cyfartalog yng Nghymru yn dangos peth gwelliant rhwng 2007 a Mae crynodiadau PM2.5 wedi aros yn sefydlog yn ystod y cyfnod hwn. Sylwer: Mae ansawdd aer yn amrywio yn ôl ardal ddaearyddol, er enghraifft rhwng ardaloedd trefol a gwledig. Efallai na fydd tueddiadau penodol i ardal o ran llygredd aer yn bosibl eu nodi wrth ddefnyddio cyfartaledd Cymru. Amodau byw 84
85
Rhagamcaniadau Demograffeg Disgwyliad oes Baich clefydau
Ymddygiadau iechyd Dechrau iach Amodau byw Rhagamcaniadau Bygythiadau newydd Cynnwys 85
86
Yn seiliedig ar dueddiadau yn y gorffennol, a chan ragdybio na fydd newid o ran rhoi’r gorau i ysmygu, rhagwelir y bydd cyfraddau ysmygu yn parhau i ostwng ar draws pob grŵp oedran yng Nghymru. Sylwer: Mae dull rhagamcanu wedi’i allosod yn defnyddio tueddiadau a chylchoedd hanesyddol i allosod i'r dyfodol. Mae'r dull allosod yn rhagdybio y bydd patrymau yn y gorffennol yn parhau i'r dyfodol. Er bod hyn yn aml yn rhagdybiaeth ddilys yn y tymor byr, yr hiraf yw’r cyfnod yr ydym yn ceisio'i ragweld, y lleiaf sicr yr ydym o’r rhagolwg. Rhagamcaniadau 86
87
Os na fydd y cyfraddau presennol o ran dechrau ysmygu a rhoi’r gorau iddi ar gyfer Cymru yn newid, ni fydd y targed cenedlaethol yn cael ei fodloni. Bydd ysmygu yn parhau i fod yn fater iechyd cyhoeddus pwysig am flynyddoedd lawer. Cyfradd roi’r gorau iddi barhaus o 2.5% Mae 8.5% o bobl 15 oed eisoes yn smygu Mae 0.2% o bobl 16+ oed yn dechrau smygu bob blwyddyn Er gwybodaeth: Mae’r rhagamcaniadau o ran mynychder ysmygu yn amcangyfrifon. Maent yn seiliedig ar fynychder y pwynt ysmygu ar gyfer 2016/17 ac amryw ragdybiaethau a allai fod yn wir yn y dyfodol ai peidio. Rhagamcaniadau 87
88
Ni fydd cynyddu'r nifer o bobl sy'n rhoi'r gorau iddi yn unig yn dileu ysmygu. Mae atal pobl rhag dechrau arni yn ystyriaeth bwysig wrth leihau ysmygu. Cynyddu cyfraddau rhoi’r gorau iddi 1.0% bob blwyddyn (uchafswm cyfradd rhoi’r gorau iddi 6.0%) Lleihau cyfradd y bobl 15 oed sydd eisoes yn smygu 0.5% bob blwyddyn Lleihau nifer y bobl 16+ oed sy’n dechrau smygu 0.05% y flwyddyn Sylwer: Mae’r rhagamcaniadau o ran mynychder ysmygu yn amcangyfrifon. Maent yn seiliedig ar fynychder y pwynt ysmygu ar gyfer 2016/17 ac amryw ragdybiaethau a allai fod yn wir yn y dyfodol ai peidio. Rhagamcaniadau 88
89
Yn seiliedig ar dueddiadau yn y gorffennol, rhagwelir y bydd gordewdra a diffyg bwyta ffrwythau a llysiau digonol yn cynyddu. Sylwer: Mae dull rhagamcanu wedi’i allosod yn defnyddio tueddiadau a chylchoedd hanesyddol i allosod i'r dyfodol. Mae'r dull allosod yn rhagdybio y bydd patrymau yn y gorffennol yn parhau i'r dyfodol. Er bod hyn yn aml yn rhagdybiaeth ddilys yn y tymor byr, yr hiraf yw’r cyfnod yr ydym yn ceisio'i ragweld, y lleiaf sicr yr ydym o’r rhagolwg. Rhagamcaniadau 89
90
Bydd byw'n hirach yn effeithio ar y nifer o bobl sy'n byw gyda chyflyrau sy'n gysylltiedig ag oedran ac yn arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau gofal iechyd. Sylwer: Nid yw'r newidiadau o ran mynychder a ragamcanir y rhagamcaniadau Daffodil yn cymryd i ystyriaeth unrhyw dueddiadau amserol sy'n bodoli eisoes, fel y dirywiad mewn clefyd cardiofasgwlaidd neu gynnydd yn nifer yr achosion o ddiabetes. Maent yn cynrychioli effeithiau demograffeg y boblogaeth dim ond o ran mynychder ar adeg benodol. Rhagamcaniadau 90
91
Wrth i boblogaeth Cymru fyw'n hirach, rhagwelir y bydd cyflyrau cronig fel clefyd y galon yn cynyddu a bydd y tebygolrwydd y bydd salwch ychwanegol hefyd yn cynyddu gydag oedran. Er gwybodaeth: Nid yw'r newidiadau o ran mynychder a ragamcanir y rhagamcaniadau Daffodil yn cymryd i ystyriaeth unrhyw dueddiadau amserol sy'n bodoli eisoes, fel y dirywiad mewn clefyd cardiofasgwlaidd neu gynnydd yn nifer yr achosion o ddiabetes. Maent yn cynrychioli effeithiau demograffeg y boblogaeth dim ond o ran mynychder ar adeg benodol. Rhagamcaniadau 91
92
Bydd cynnydd yn y boblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru yn arwain at gynnydd yn y nifer o gyflyrau sy'n gysylltiedig ag oedran fel dementia. Er gwybodaeth: Nid yw'r newidiadau o ran mynychder a ragamcanir y rhagamcaniadau Daffodil yn cymryd i ystyriaeth unrhyw dueddiadau amserol sy'n bodoli eisoes, fel y dirywiad mewn clefyd cardiofasgwlaidd neu gynnydd yn nifer yr achosion o ddiabetes. Maent yn cynrychioli effeithiau demograffeg y boblogaeth dim ond o ran mynychder ar adeg benodol. Rhagamcaniadau 92
93
Bygythiadau newydd Demograffeg Disgwyliad oes Baich clefydau
Ymddygiadau iechyd Dechrau iach Amodau byw Rhagamcaniadau Bygythiadau newydd Cynnwys 93
94
Mae anghyfartaledd cynyddol o ran cyfoeth mewn llawer o wledydd Gorllewinol.
Bygythiadau newydd 94
95
Mae prosiectau polisi byd-eang cyfredol yn rhagamcan cynnydd mewn allyriadau tŷ gwydr byd-eang blynyddol. Nodiadau: Mae llinell sylfaen 2005 yn tybio na fydd newidiadau polisi o 2005 Mae senarios Cyfraniadau a Bennwyd yn Genedlaethol (INDC) amodol a diamod yn cynrychioli'r lefel wahanol o ymrwymiadau a wnaed ym Mharis y gellid eu gweithredu Mae senarios 1.5ºc a 2ºc yn cynrychioli'r llwybrau lleiaf drud gyda thebygolrwydd uwch na 50% o gyfyngu cynhesu o dan y lefel senario Bygythiadau newydd 95
96
Rhagwelir y bydd yr hinsawdd yn newid gyda chynnydd yn nhymheredd yr haf a glawiad y gaeaf, a bydd hyn â goblygiadau i iechyd. Sylwer: Nid yw’r echelinau’n dechrau ar 0. Dim ond ar gyfer Caerdydd y mae data ar gael a rhaid bod yn ofalus o ran cyffredinoli'r rhagamcaniadau hyn i Gymru gyfan. Bygythiadau newydd 96
97
Mae goblygiadau iechyd a ragamcanwyd o ran hinsawdd sy'n newid yn debygol o effeithio ar y grwpiau mwyaf agored i niwed fel pobl hŷn. Sylwer: Nid yw'r cyfraddau marwolaeth cysylltiedig â gwres ac oerfel yn ystyried newidiadau o’r llinell sylfaen risgiau cymharol, y trothwyon tymheredd a'r cyfraddau marwolaethau llinell sylfaen ar gyfer pob rhanbarth. Maent yn adlewyrchu patrwm o dymheredd dyddiol cymedrig cynyddol a maint cynyddol poblogaethau'r rhanbarth. Bygythiadau newydd 97
98
Mae potensial ar gyfer epidemigau newydd a achosir gan newidiadau mewn gwesteiwyr, pathogen neu’r amgylchedd. Mae achosion o glefyd Lyme bedair gwaith yn uwch nag yr oeddent 8 mlynedd yn ôl, a hynny o bosibl oherwydd cynnydd yn nhymheredd cymedrig y DU. Bygythiadau newydd 98
99
Diolchiadau 99 Iechyd a’ phenderfynyddion yng Nghymru
Adelodau’r prosiect Tim (dadansoddi ac ysgrifennu): Holly Walsh (Rheolwr Prosiect), James Allen, Arthur Duncan-Jones, Rhian Hughes, Grace Jefferies, Leon May, Rhys White Bwrdd y Prosiect: Alisha Davies, Ciaran Humphreys, Nathan Lester, Kirsty Little Diolchiadau Diolchwn i Chrissie Pickin, Chris Williams (Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru) ar gyfer sleidiau 29-34, a Simon Cottrell (Rhaglen Clefydau sy’n Ataliadwy â Brechlyn Iechyd Cyhoeddus Cymru) am gymorth gyda sleid 59. Iechyd a’ phenderfynyddion yng Nghymru 99
100
Ffeithlun Crynodeb Canllaw Technegol
Iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru Am fwy o wybodaeth, gweler y canlynol: Ffeithlun Crynodeb Canllaw Technegol Iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru 100
Similar presentations
© 2024 SlidePlayer.com Inc.
All rights reserved.