Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Asesu, Safoni a Chymedroli – sicrhau cysondeb mewn asesiadau athrawon

Similar presentations


Presentation on theme: "Asesu, Safoni a Chymedroli – sicrhau cysondeb mewn asesiadau athrawon"— Presentation transcript:

1 Asesu, Safoni a Chymedroli – sicrhau cysondeb mewn asesiadau athrawon
CA2 / CA3

2

3 2015 Rhif 1309 (Cy. 113) ADDYSG, CYMRU Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015 Amserlen (b) bod y grŵp clwstwr cymedroli ysgolion yn cyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ysgol naill ai yn ystod tymor y gwanwyn neu yn ystod tymor yr haf.

4 Amserlen Erbyn diwedd mis Ionawr:
‘Arweinwyr Asesu’ i sicrhau fod pob ysgol o fewn y clwstwr yn ymwybodol o ofynion safoni a chymedroli a’r adnoddau sydd ar gael. Anfon dyddiadau cyfarfodydd cymedroli clwstwr terfynol i GwE Bydd Ymgynghorwyr Her yn mynychu un cyfarfod cymedroli ym mhob clwstwr ac yn adrodd yn ôl i’r clwstwr, GwE ac A.Ll. Gwirio asesiadau athrawon yn allanol – Cyfnodau Allweddol 2 a 3 Dogfen ganllawiau Llywodraeth Cymru (Hydref 2016) ar drefniadau asesu statudol, yn nodi: Yn 2014/15 cafodd y broses o wirio mathemateg a gwyddoniaeth yn allanol ei threialu gyda sampl fach o ysgolion. Yn 2015/16,canolbwyntiodd y rhaglen ar wirio Saesneg, Cymraeg a Chymraeg ail iaith. Bydd y broses o wirio mathemateg a gwyddoniaeth yn cael ei hailadrodd yn llawn yn Amserlen

5 Argymhellion Estyn Ystyried ystod eang o waith disgyblion wrth asesu a chymedroli lefelau – LLAFAREDD A DARLLEN Rhoi ystyriaeth briodol i lefel y cymorth, y prosesau drafftio, effaith marcio athrawon a digonolrwydd y dystiolaeth wrth ddyfarfnu lefelau derfynol –LLYFRAU

6 Argymhellion Estyn Canolbwyntio ar waith disgyblion sydd ar ffin is lefelau wrth gymedroli mewn ysgolion ac mewn cyfarfodydd clwstwr Gwneud yn siwr bod yr holl lefelau’n cael eu hadolygu a’u haddasu’n briodol ar ôl cymedroli mewnol a chymedroli clwstwr a chyn cyflwyno’r lefelau terfynol Cyfeirio at ddeunyddiau safonedig wrth asesu, cymedroli a safoni mewn ysgolion ac mewn cyfarfodydd clwstwr.

7 GwE Parhau gyda / adeiladu ar yr arfer dda sydd yn bodoli’n barod
Amserlen ysgol/clwstwr clir am y flwyddyn Arfer dda fyddai cynnwys pob athro yn y cymedroli mewnol o fewn ysgol gynradd/adran uwchradd Ysgolion bach: dod at ei gilydd fel rhyw fath o ‘glwstwr bach’ cyn cymedroli clwstwr Ysgolion uwchradd: cymedroli ar y cyd gydag ysgol uwchradd arall

8 LLYFRAU 1 disgybl Lefel 4 a Lefel 5 yn y cynradd a Lefel 5 a 6 yn yr uwchradd ar gyfer bob pwnc craidd.

9 Sylwebaeth byr yn egluro pam y dyfarnwyd y lefel ar flaen y dystiolaeth. Dim mwy na 200 gair.

10 Arfer dda fyddai cyfeirio’n glir at dasgau penodol gyda sticeri neu daflen disgrifiadau lefel – dyddiad ayyb (‘post its’ yn ddefnyddiol).

11 Gellir defnyddio Incerts Snap, apps fel Book Creator ar I-Pad fel ‘proffiliau’ neu i gadw tystiolaeth lafar. Posibilrwydd i ysgolion os ydynt yn dymuno, i uwchlwytho tystiolaeth llafar a darllen ar blatfform Hwb+. I wneud hyn, bydd angen casglu cyfeiriadau e-bost Hwb yr athrawon o fewn y clwtswr fydd angen mynediad i’r ffolder a’u gyrru at

12 Cyfarfodydd cymedroli clwstwr
Cyfranogiad gan bob ysgol yn y cymedroli clwstwr Digon o amser/statws yn cael ei roi i gymedroli mewnol a chlwstwr/dalgylch – canllawiau cenedlaethol yn awgrymu o leiaf bore/pnawn i bob pwnc Penaethiaid / UDRh i chwarae rhan yn y broses – cadeirio cyfarfodydd, cadw cofnodion ayyb

13 Cyfarfodydd cymedroli clwstwr – pethau i’w hystyried
Arweinyddiaeth a disgwyliadau clir Llafar /darllen – clustffonau, wi-fi, Llyfrau disgyblion - sylwebaeth gryno Rhoi amser penodol i drafod a phendefynnu ar waith un disgybl Cyfeirio at ddisgrifadau lefel a deunyddiau enghreifftiol cenedlaethol Adborth ysgrifenedig ar gyfer pob ysgol (Atodiad B) Bod negeseuon allweddol o'r broses cymedroli clwstwr yn cael eu cofnodi a'u hanfon i'r ysgolion yn y clwstwr (Atodiad D)

14 Digon o dystiolaeth ar draws yr ystod i alluogi eraill i ddyfarnu lefel. Mae arweiniad cenedlaethol i bob pwnc ar wefan GwE.

15 Yn nodweddiadol, mae dysgwr ar ben isaf unrhyw lefel yn dangos nodweddion y lefel honno yn bennaf ar draws ystod o waith, ond gall hefyd ddangos nodweddion y lefel flaenorol mewn rhai agweddau o'r gwaith. Mae dysgwr sy'n perthyn yn sicr i'r lefel yn dangos nodweddion y lefel honno ar draws ystod o waith. Mae dysgwr ar ben uchaf unrhyw lefel yn amlwg yn dangos nodweddion y lefel honno ar draws ystod o waith gyda rhai enghreifftiau o nodweddion y lefel nesaf. Barn cyd-fynd orau

16 Digon o dystiolaeth ar draws yr ystod
Llafar: unigol, pâr a grwp Tystiolaeth gynradd – defnyddio i-Pad neu gamera ayyb (fideo yn hytrach nac awdio) – Tystiolaeth eilaidd - taflen asesu athro Darllen: Llenyddol ac anllenyddol gydag amrywiaeth o gyd-destun Ysgrifennu: Iaith

17 Mathemateg Llyfrau’r flwyddyn gyfan
Digon o dystiolaeth i gwmpasu ystod a sgiliau’r rhaglen astudio gyfan Defnyddio a chymhwyso Mesurau ac arian, siap, safle a symudiad, ymdrin a data a thasgau heriol priodol ym maes rhifau Ystod o weithgareddau mathemategol Ystod o gyd-destun bywyd go iawn Gwaith traws-gwricwlaidd? Mathemateg

18 Gwyddoniaeth Llyfr Gwyddoniaeth, Llyfr Thema, a/neu ffolder waith
Tystiolaeth o bob rhan o ystod gwyddoniaeth – Cyd-ddibyniaeth organebau, y Ddaear gynaliadwy a Sut mae pethau’n gweithio Tystiolaeth o ystod y sgiliau sy’n ymwneud a Chyfathrebu ac Ymholi (gan gynnwys Cynllunio, Datblygu a Myfyrio) Tystiolaeth o ymchwiliadau llawn Gwyddoniaeth

19 ‘Proffiliau’ enghreifftiol
Canllawiau cenedlaethol Adnoddau i gadeiryddion Templed sylwebaeth byr Templed ac esiampl o adroddiad cyfarfod clwstwr Sticeri disgrifiadau lefel Taflenni disgrifiadau lefel I ddod yn fuan yn 2017 portffolios pwnc cenedlaethol

20 Unrhyw gwestiynnau? Cefnogaeth pellach?
(Hwb Fflint\Wrecsam) (Hwb Conwy\Dinbych) (Hwb Gwynedd\Môn)


Download ppt "Asesu, Safoni a Chymedroli – sicrhau cysondeb mewn asesiadau athrawon"

Similar presentations


Ads by Google