Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Yn Y Dechreuad Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies.

Similar presentations


Presentation on theme: "Yn Y Dechreuad Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies."— Presentation transcript:

1 Yn Y Dechreuad Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies

2 Cynnwys Dewis adnod Cwis Dewis stori Cliciwch ar eich dewis Gwybodaeth ddefnyddiol

3 2. Adda ac Efa 3. Anufudd-dod Dyn 4. Cain ac Abel 5. Noa a’r Dilyw DEWIS STORI 1. Chwech diwrnod y Creu

4 A bu goleuni. Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. A dywedodd Duw “Bydded goleuni”..

5 Gwnaeth Duw yr awyr. “Gwahanodd Duw yr awyr oddi wrth y d ŵ r ar wyneb y ddaear.

6 Trefnodd Duw bod tir sych yn ymddangos yng nghanol y dyfroedd. Llanwodd Duw'r tir gyda phlanhigion, blodau, a ffrwythau - pob un gyda`u hadau ei hun.

7 Creodd Duw yr haul i ddisgleirio yn ystod y dydd, a`r lleuad a`r sêr ar gyfer y nos.

8 Creodd Duw bysgod o bob math i fyw yn y môr ac adar i hedfan yn yr awyr.

9 Gwnaeth Duw greaduriaid ac anifeiliaid o bob math i fyw ar y ddaear.

10 Yn olaf creodd Duw ŵr a gwraig. Rhoddodd iddynt yr awdurdod i reoli`r byd. Dywedodd wrthynt am ofalu am y blaned ac am bob creadur a wnaeth Duw.

11 Gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir…

12 Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw. Genesis 2 adnod 7 Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Marc 8 adnod 36

13 Gwnaeth Duw pobl yn sbesial. Fe wnaeth dyn a menyw yn fwy tebyg iddo ef ei hun na unrhyw greadur arall. “Creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun.” Genesis pennod 1 adnod 27

14 Cei fwyta’n rhydd o bob coeden yn yr ardd, ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohonno ef, byddi’n sicr o farw.

15 Rhoddodd y dyn enwau i'r anifeiliaid, i'r adar, ac i'r bywyd gwyllt i gyd.

16 Yna parodd yr ARGLWYDD Dduw i’r dyn i gysgu’n drwm, a thra oedd yn cysgu, cymerodd ddarn o’i ochr, a rhoi cnawd yn ei le. Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ffurfio dynes allan o'r darn oedd wedi ei gymryd o'r dyn, a dod â hi at y dyn.

17 Roedd y neidr yn fwy cyfrwys na phob anifail gwyllt arall oedd yr ARGLWYDD Dduw wedi eu creu.

18 Na! Ni fyddwch farw..

19 Daeth pechod i'r byd drwy un dyn (sef Adda), a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu. Rhufeiniaid 5 adnod 12

20 Cuddiodd y dyn a’i wraig o olwg yr ARGLWYDD Dduw ymysg coed yr ardd. Ble’r wyt ti?

21 A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw ddillad o grwyn anifeiliaid i Adda ac Efa gael gwisgo.

22 Anfonodd yr Arglwydd Dduw Adda ac Efa allan o ardd Eden, a gosododd geriwbiaid gyda chleddyf fflamllyd i rwystro neb rhag dychwelyd.

23 Gydag amser ganwyd dau fab i Adda ac Efa, ac fe’i galwyd yn Cain ac Abel.

24 Adeg y cynhaeaf daeth Cain â peth o gynnyrch y tir i'w roi yn offrwm i Dduw.

25 Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoi'r rhai gorau yn offrwm i Dduw.

26 Roedd Abel a'i offrwm yn plesio'r ARGLWYDD yn fawr. Yr oedd Cain yn flin ac yn llawn cenfigen tuag at ei frawd.

27 A phan oeddent yn y maes, troes Cain ar Abel ei frawd a’i ladd.

28 Y mae fy nghosb yn ormod i’w dwyn. Cosbodd Duw Cain trwy ei orchymyn i adael y tir. Ni fyddai’n dwyn ffrwyth iddo mwyach.

29 Mae pawb wedi pechu. Does dim y fath beth â pherson perffaith i gael. Roedd yr ARGLWYDD yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw'n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy'r amser.

30 Rhybuddiodd Noa’r bobl bod Duw yn mynd i foddi’r byd am fod pawb mor ddrwg.

31 Adeiladodd Noa arch i ddiogelu parau o anifeiliaid o bob math ynghyd â’i deulu ei hun.

32 Pan ddaeth y dilyw ar y ddaear roedd yn rhy hwyr. Cafodd popeth oedd yn byw ar y tir eu boddi.

33 Dim ond Noa a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch oedd yn dal yn fyw ar yr holl ddaear.

34 Yna adeiladodd Noa allor i’r ARGLWYDD a’i addoli, gan ddiolch iddo am ei ofal.

35 DEWIS ADNOD Dylech chi drin pobl eraill fel byddech chi'n hoffi iddyn nhw eich trin chi. Luc pennod 6 adnod 31 Daeth pob peth i fod trwyddo ef. Ioan 1adnod 3 Defnyddiwch y lygoden i ddewis eich adnod Daeth pechod i'r byd drwy un dyn (sef Adda). Mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu. Rhufeiniaid pennod 5 adnod 12

36 Daeth pechod i'r byd drwy un dyn (sef Adda). Mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu. Rhufeiniaid pennod 5 adnod 12 Daeth pechod i'r byd drwy un dyn (sef Adda). Mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu. Rhufeiniaid pennod 5 adnod 12

37 Daeth pob peth i fod trwyddo ef. Ioan pennod 1 adnod 3 Daeth pob peth i fod trwyddo ef. Ioan 1adnod 3

38 Dylech chi drin pobl eraill fel byddech chi'n hoffi iddyn nhw eich trin chi. Luc pennod 6 adnod 31

39 394210 776 1

40 756920 384 2

41 978310 596 3

42 468815 422 4

43 6295 483 5

44 695410 783 6

45 Gwybodaeth ddefnyddiol …Am y stori Mae’r stori wedi ei chynllunio ar gyfer ei chyflwyno mewn 5 rhan. Mae wedi ei selio ar Genesis penawdau 1 - 8. Mae animeiddiad ar rai sleidiau. Awgrymir eich bod yn mynd trwy’r cyflwyniad eich hunan cyn ei ddangos. Mae seren fach ar waelod y sleidiau sydd ag animeiddio. Mae’r seren yn aros tan fod yr animeiddiad ar ben. …Dysgu Adnod Mae tair adnod ar gael i chi eu dysgu. Wrth glicio drwy’r cyflwyniad bydd geiriau yn diflannu. Mae’r cyflwyniad yn gorffen wrth ail ddangos yr adnod wreiddiol. …Y Cwis Mae angen ichi ddefnyddio’r llygoden i symud o amgylch y gwahanol afalau ar y coed. Rhannwch eich grŵp i ddau dîm a gofynnwch 12 cwestiwn. Mae pob plentyn sydd yn ateb yn gywir yn cael dewis afal. Gwasgwch y llygoden ar yr afal i ddangos ei werth. (Mae rhai afalau yn bwdr ac yn werth dim). Mae 6 coeden wahanol ar gael. Drwy wasgu’r botwm cartref byddwch yn mynd yn ol i’r dudalen Gynnwys


Download ppt "Yn Y Dechreuad Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies."

Similar presentations


Ads by Google