Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Elias Y Proffwyd Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies.

Similar presentations


Presentation on theme: "Elias Y Proffwyd Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies."— Presentation transcript:

1 Elias Y Proffwyd Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies

2 Cynnwys Dewiswch adnod i’w dysgu Cwis Dewiswch stori Cliciwch ar fotwm chwith y llygoden i wneud eich dewis. Gwybodaeth ddefnyddiol

3 2. Darpariaeth Duw ar gyfer ei bobl 3. Llaw Duw yn gofalu 4. Plentyn yn cael ei godi o farw’n fyw 5. Obadeia yn cyfarfod ag Elias 6. Y gwir Dduw yn anfon tân ar yr allor DEWISWCH STORI 1. Rhybudd Duw yn erbyn addoli eilunod

4 Gwnaeth Ahab, brenin Israel, fwy o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd na’r holl frenhinoedd eraill a fu o’i flaen. Dyma Ahab, brenin Israel.

5 Roedd yn briod â Jesebel. Roedd hi’n addoli y gau dduw Baal.

6 Adeiladodd Jesebel allor i Baal.

7 Elias: proffwyd yr Arglwydd

8 Fydd yna ddim gwlith na glaw achos dy bechod di… Aeth Elias at Ahab y brenin.

9

10 “Dos i guddio wrth ymyl nant Cerith.”

11 Bydd cigfrain yn dod â bwyd i ti bob bore a nos.

12 Daeth cigfrain â bara a chig iddo bob dydd ac fe yfodd dd ŵ r o’r nant.

13 Ar ôl peth amser fe sychodd y nant… a bu’n rhaid i Elias ffoi i le arall.

14 Wrth iddo gyrraedd tref Sareffath gwelodd wraig yn casglu coed tân...

15 Mae eisiau bwyd arna i. Ga’ i ddarn o fara plîs? Does gen i ddim bwyd, dim ond llond dwrn o flawd, ac ychydig o olew mewn stên.

16 Rydw i am i ti wneud teisen fach i mi allan o’r olew a’r blawd.

17 Fe wnaeth y wraig yn union fel y gofynnodd Elias iddi…

18 Dywedodd Elias y byddai Duw’n gofalu na fyddai’r blawd na’r olew yn dod i ben hyd nes y byddai’r glaw yn syrthio eto ar y tir.

19 Ar ôl hyn, aeth mab y wraig yn sâl a bu farw. Pam mae hyn wedi digwydd? A yw dy Dduw yn fy nghosbi am ryw bechod?

20 O Arglwydd, fy Nuw, caniatâ i’r bachgen hwn gael dod nôl yn fyw eto.

21 Gwrandawodd yr Arglwydd ar weddi Elias… Mae dy fab yn fyw!

22 Rwy’n sicr yn awr mai dyn Duw wyt ti.

23 Dos i ddangos dy hun i Ahab er mwyn i mi anfon glaw ar y tir.

24 Yn y cyfamser, roedd Ahab a’i was Obadeia yn chwilio’r wlad am borfa i fwydo anifeiliaid y brenin.

25 Ai ti yn wir yw Elias? Ar ei daith ar hyd y wlad daeth Obadeia wyneb yn wyneb ag Elias.

26 Heb yn wybod i Ahab a Jesebel roedd Obadeia yn addoli’r Arglwydd Dduw a bu yn ffyddlon iddo. Cuddiais gant o broffwydi’r Arglwydd pan oedd Jesebel am eu lladd.

27 Rydw i ar fy ffordd i weld Ahab.

28 Ti sydd ar fai am ein trafferthio n i gyd! Nid fi, ond ti sy’n gyfrifol am ddod â thrafferth i Israel.

29 Rhaid i chi ddewis naill ai Baal neu’r Arglwydd.

30 O Baal, clyw ni. O Baal, gwrando arnom. Ond ni ddaeth ateb er iddyn nhw weiddi’n uchel.

31 Gweiddwch yn uwch! Efallai fod Baal wedi mynd i gysgu neu ar daith.

32 Llanwch bedair casgen â dŵr a’u harllwys ar yr aberth.

33 Ateb fi o Arglwydd er mwyn i’r bobl hyn wybod mai ti yw’r unig wir Dduw. Ac ar hynny disgynnodd tân yr Arglwydd.

34 Daliwyd proffwydi Baal a’u lladd wrth ymyl afon Cison.

35 DEWISWCH ADNOD Mae pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon perffaith Duw. Rhufeiniaid pennod 3 adnod 23 Dewiswch ichwi’n awr pwy a wasanaethwch. Ond byddaf fi a’m teulu yn gwasanaethu’r Arglwydd. Josua 24:11 (B.C.N.) Cliciwch ar fotwm chwith y llygoden i wneud eich dewis Trystiwch yr Arglwydd bob amser, achos wir, mae’r Arglwydd yn graig am byth. Eseia pennod 26 adnod 4

36 Mae pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon perffaith Duw. Rhufeiniaid pennod 3 adnod 23 Mae pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon perffaith Duw. Rhufeiniaid pennod 3 adnod 23.

37 Trsystiwch yr Arglwydd bob amser, achos wir, mae’r Arglwydd yn graig am byth. Eseia pennod 26 adnod 4 Trsystiwch yr Arglwydd bob amser, achos wir, mae’r Arglwydd yn graig am byth. Eseia pennod 26 adnod 4

38 D ewiswch ichwi`n awr pwy a wasanaethwch …ond byddaf fi a`m teulu yn gwasanaethu`r Arglwydd. Josua 24:11 (B.C.N.) Dewiswch ichwi’n awr pwy a wasanaethwch. Ond byddaf fi a’m teulu yn gwasanaethu’r Arglwydd. Josua 24:15 (B.C.N.)

39 Pwyswch ‘Esc’ i orffen neu ‘E’ i chwarae eto… Pwyswch ‘Ctrl+P’ ac yna “Return” i gychwyn…

40 Gwybodaeth Ddefnyddiol Cyflwyno Stori Mae stori Elias wedi ei chynllunio i’w chyflwyno mewn 6 rhan. Wrth glicio ar “Dewiswch Stori” bydd bwydlen gyda theitl y chwe stori yn ymddangos. Mae gan nifer o`r sleidiau ychydig o animeiddiad. Bydd y sleidiau sydd ag animeiddiad yn dangos yn y gornel. Dysgu Adnod Mae tri dewis ar gyfer dysgu adnod. Mae’r animeiddiad yn wahanol ym mhob adnod. Drwy glicio eich ffordd drwy’r cyflwyniad bydd geiriau a llinellau yn diflannu neu newid. Mae’r cyflwyniad yn gorffen gyda’r adnod lawn bob tro Cwis O ac X Yn y cwis hwn, mae angen i chi ddefnyddio’r llygoden i ysgrifennu yn y blychau priodol. Gellir gwneud hyn trwy wasgu ar “Ctrl” + “P” ac yna “Return” ar y bysellbad (“keyboard). Ewch â’r llygoden i’r fan a fynnwch ar y sgwâr a gallwch ysgrifennu O neu X trwy bwyso botwm chwith y llygoden. Rhannwch y grŵp yn ddau a gofynnwch 9 cwestiwn ar yr hanes. Pan fydd plentyn yn rhoi ateb cywir, gadewch iddo ddewis sgwâr ar ran y tîm. Bydd rhaid i’r sawl sy’n gofalu am y cyfrifiadur ysgrifennu ‘O’ neu ‘X’ gan ddefnyddio’r llygoden. (Awgrymir mai oedolyn, nid plentyn ddylai wneud hyn). Y tîm cyntaf i gael llinell syth i fyny, i lawr, ar draws neu yn groesgornel sy’n ennill. Gallwch chwarae mwy nag un gêm trwy wasgu’r botwm ‘E’ i glirio’r sgrin a dechrau eto. Bydd y botwm gyda llun tŷ bob amser yn mynd â chi nôl i dudalen y Cynnwys (sleid 2). Mae stori Daniel wedi ei chynllunio i’w chyflwyno mewn 6 rhan. Maent wedi eu selio ar y 6 pennod cyntaf yn y llyfr. Pan ddewisiwch “Dewis Stori” bydd bwydlen gyda teitl y chwech stori yn ymddangos. Mae gan nifer o`r sleidiau ychydig o animeiddiad. Bydd y sleidiau sydd ag animeiddiad yn dangos yn y gornel.


Download ppt "Elias Y Proffwyd Dylunio: Gary Craig Addasiad Cymraeg: Nigel Davies."

Similar presentations


Ads by Google