Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published byKarla Clemmensen Modified over 5 years ago
1
Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2019 LLAIS
Gwasanaeth i Ysgolion Cynradd
2
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (CCUHP) Yr hawl i fod yn ddiogel
Mae gennym yr hawl i beidio cael niwed, a’r hawl i ofal a diogelwch (Erthygl 19) Os oes rhyfel, mae gennym yr hawl i fod yn ddiogel a pheidio cael ein gorfodi i fod yn filwyr (Erthygl 38) Mae gennym yr hawl i roi ein barn ac i rywun wrando arnom (Erthygl 12)
3
Plant yn Sanaa, prif-ddinas yr Yemen
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (CCUHP) Yr hawl i fod yn ddiogel Pan fydd rhyfel, mae plant yn medru colli mynediad i hawliau eraill megis: Bwyd, dillad a lle diogel i fyw (Erthygl 27) Addysg (Erthygl 28) Diwylliant ac iaith (Erthygl 30) Chwarae a gorffwys (Erthygl 31) Yr hawl i fod yn rhydd o gamdriniaeth o bob math (Erthyglau 32, 34, 36 a 37) Plant yn Sanaa, prif-ddinas yr Yemen Wikimedia Commons
4
Y Rhyfel yn yr Yemen – sut mae Plant yn dioddef
Stori Salah Gwrandewch ar stori Salah yma: Beth sydd wedi digwydd i Salah a’i deulu oherwydd y rhyfel? Pa hawliau nad sydd ganddo bellach? Sut mae e yn treulio ei amser nawr – a pham? Pan fydd rhyfel, pobl ddiniwed sydd yn aml yn dioddef fwyaf – gan gynnwys plant.
5
Beth fedrwn ni ei wneud? Medrwn ddefnyddio’n LLAIS i…….
Drefnu digwyddiad yn yr ysgol neu yn y gymuned leol i godi arian dros elusen sydd yn helpu plant yn yr Yemen. Ysgrifennu llythyr at bapur lleol neu wneud cyfweliad ar y radio i godi ymwybyddiaeth am sut mae plant yr Yemen yn dioddef oherwydd y rhyfel. Gynllunio ymgyrch i roi pwysau ar lywodraeth y DU i stopio gwerthu arfau i Saudi Arabia ac i ddefnyddio eu dylanwad i gael pobl o gwmpas y bwrdd i drafod heddwch.
6
Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2019
7
Ymateb i’r Neges – rhai Syniadau Creadigol
Gallwch…. Dynnu lluniau yn ymateb i hanes Salah a phlant tebyg iddo gan ddefnyddio’r hashnod #heddwch2019 a’u defnyddio i greu arddangosfa yn eich ysgol. (Mae storïau eraill ar gael yma: Greu ffilm i godi ymwybyddiaeth am sefyllfa’r plant yn yr Yemen, gan geisio cynnwys rhai o leisiau’r plant eu hunain. Ddefnyddio’r hashnod #heddwch2019 a rhannu’r hyn rydych wedi’i greu gyda’r Urdd trwy ddefnyddio
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com Inc.
All rights reserved.