Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Cylch Hunanwerthuso ar gyfer Cyrff Llywodraethu

Similar presentations


Presentation on theme: "Cylch Hunanwerthuso ar gyfer Cyrff Llywodraethu"— Presentation transcript:

1 Cylch Hunanwerthuso ar gyfer Cyrff Llywodraethu

2 Pam mae hunanwerthuso’n bwysig?

3 Mae ERW yn ymrwymedig i greu seilwaith effeithiol ac effeithlon y gellir datblygu model hunanwella a hunangynhaliol o’i gwmpas.

4 Mae datblygu diwylliant o hunanwerthuso yn hollbwysig o ran nodi a lleihau amrywiadau mewn perfformiad ysgolion. Bellach mae hunanwerthuso yn rhan ganolog o arolygiadau Estyn. Mae hunanwerthuso hefyd wrth wraidd y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion, sef y fframwaith polisi sy’n ceisio trawsnewid safonau a darpariaeth addysgol ledled Cymru dros y degawd nesaf.

5 Sut mae Estyn yn gwerthuso llywodraethwyr?
3.1.2: llywodraethwyr neu fyrddau goruchwylio eraill Dylai arolygwyr farnu i ba raddau y mae’r Corff Llywodraethu yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol ac yn cymryd atebolrwydd llawn dros ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol.

6 Sut mae Estyn yn gwerthuso llywodraethwyr?
deall eu rolau; cael gwybod am berfformiad yr ysgol a’r problemau sy’n effeithio arni; rhoi cyfeiriad i’r gwaith y mae’r ysgol yn ei wneud; dwyn yr ysgol i gyfrif am y safonau a’r ansawdd y mae’n eu cyflawni; cymryd camau rhesymol i roi gwybod i ddisgyblion, aelodau o staff, rhieni/gofalwyr neu unrhyw berson arall am y gweithdrefnau os ydynt am wneud cwyn neu apêl; a sicrhau yr ymdrinnir â chwynion yn brydlon gan bartïon sydd heb fuddiant.

7 Beth yw hunanwerthuso effeithiol?
Sut ydym yn ei wneud? Sut y gallwn wella rhagor ar bethau? Sut ydym yn gwybod?

8 Cylch hunanwerthuso effeithiol
Cynllunio ar gyfer Gwella Gwneud Gwaith Gwella Monitro a Gwerthuso

9 Gweithgareddau hunanwerthuso 1
Nid yw’n ddigwyddiad untro – Peidiwch â chymysgu rhwng dogfen yr Adroddiad Hunanwerthuso a’r Hunanwerthusiad dadansoddi data – disgybl, pwnc, grŵp, cyfnod allweddol, ysgol gyfan (tueddiadau, cymariaethau a thargedau) arsylwi ar wersi gan reolwyr a chymheiriaid priodol gwerthuso ansawdd gwaith ymarferol ac ysgrifenedig disgyblion Gwerthuso ansawdd adrodd a chofnodi, asesu a chynllunio o ran y cwricwlwm.

10 Gweithgareddau hunanwerthsuo 2
Nid yw’n ddigwyddiad untro – (Peidiwch â chymysgu rhwng dogfen yr Adroddiad Hunanwerthuso a’r Hunanwerthusiad) Cymedroli asesiadau athrawon Samplu safbwyntiau’r disgyblion, staff, rhieni/gofalwyr neu randdeiliaid eraill Adolygiadau gan reolwyr a sefydliadau allanol Archwilio arferion yn erbyn polisïau a gweithdrefnau (diogelu/iechyd a diogelwch) Meincnodi yn erbyn y gorau o blith arferion gwahanol mewn ysgolion eraill Adolygu cynnydd yn erbyn cynlluniau datblygu

11 Pwy sy’n gwerthuso? Mae hunanwerthuso ond yn ddylanwadol pan fydd yr holl staff yn cyfrannu at y broses, yn ymwybodol o’r canfyddiadau, ac yn gweithredu’n unol â hwy. Arsylwi ar Wersi uwch-reolwyr yn aryslwi ar yr holl staff yn flynyddol uwch-reolwyr yn arsylwi ar staff fel rhan o werthusiad o destun neu thema arsylwadau gan ymwelwyr allanol megis yr Awdurdod Lleol neu athrawon o ysgolion eraill arsylwadau gan gymheiriaid priodol arsylwadau gan gymheiriad ar draws pynciau a grwpiau blwyddyn fel rhan o thema neu i ledaenu arfer da

12 Pwy sy’n gwerthuso? Mae hunanwerthuso ond yn ddylanwadol pan fydd yr holl staff yn cyfrannu at y broses, yn ymwybodol o’r canfyddiadau, ac yn gweithredu’n unol â hwy. Llais y dysgwr (yn ogystal â rhieni, llywodraethwyr ac ati) Arolygon Grwpiau Ffocws Y Cyngor Ysgol Holiaduron Cyfweliadau

13 Nodweddion allweddol hunanwerthuso
Agored a gonest Cyflawniadau a phrofiadau disgyblion yn brif ffocws Parhaus (nid cipolwg) Yn rhan ganolog o gynllunio strategol ac yn defnyddio gweithdrefnau sicrhau ansawdd yn rheolaidd Yn cynnwys staff ar bob lefel wrth asesu deilliannau a pherfformiad Yn ceisio sylwadau disgyblion a rhanddeiliaid eraill

14 Nodweddion eraill hunanwerthuso
Yn ceisio gwneud dyfarniadau o ystyried data perfformiad mesuradwy a nodi tueddiadau dros amser Yn arwain at gynlluniau gwella sy’n cael eu monitro yn erbyn targedau clir a meini prawf llwyddiant Yn sicrhau gwelliannau mewn safonau ac ansawdd i’r disgyblion

15 Dylai dyfarniadau fod yn:
Diogel – wedi eu seilio ar dystiolaeth gadarn, ddibynadwy a hygyrch Uniongyrchol - wedi eu seilio ar arsylwadau uniongyrchol Dibynadwy – wedi eu seilio ar feini prawf cyffredin, y mae dealltwriaeth dda ohonynt Dilys – yn adleisio’n fanwl gywir yr hyn a gyflawnir ac a ddarperir; Diduedd – yn edrych ar bob agwedd yn wrthrychol, a Corfforaethol – yn adleisio safbwynt ar y cyd staff a rhanddeiliaid

16 Cylch hunanwerthuso effeithiol
Cynllunio ar gyfer Gwella Gwneud Gwaith Gwella Monitro a Gwerthuso

17 Hunanwerthuso a chynllunio gwelliant
Nid yw hunanwerthuso yn ddiben ynddo’i hun. Dylai ysgolion ddefnyddio gwybodaeth o’r hunanwerthusiad i gynllunio ar gyfer gwelliannau ac i sicrhau bod proses gylchol reolaidd o fonitro, gwerthuso, a chynllunio gwelliant. Yn ogystal â darparu adborth yn syth, bydd yr wybodaeth a gesglir yn cyfrannu at yr adroddiad hunanwerthsuo a ddiweddarir yn flynyddol ar sail y Fframwaith Arolygu Cyffredin. Mae angen gwerthuso rhai agweddau yn amlach nag eraill. Mae angen i gynllunio gwelliant yr ysgol fod yn hyblyg ac yn ymatebol.

18 Nodweddion allweddol cynlluniau gwella ysgolion rhan 1
Wedi eu seilio ar ganlyniadau hunanwerthuso. Yn cyfrannu at brosesau hunanwerthuso ac at gynllunio camau gweithredu pellach. Wedi eu cynnwys mewn dogfennau gweithio sy’n helpu i gyflawni’r newidiadau gofynnol. Yn nodi blaenoriaethau, targedau ac amserlenni clir, yn ogystal â chamau y mae angen eu cymryd i ddatrys problemau.

19 Nodweddion allweddol cynlluniau gwella ysgolion rhan 2
Yn nodi pobl sy’n gyfrifol am gamau gweithredu, amserlenni, a’r adnoddau a’r cymorth y bydd eu hangen. Yn pennu deilliannau clir sy’n gysylltiedig â gwella safonau ac ansawdd y gellir mesur cynnydd yn eu herbyn. Yn rhoi manylion o ran sut, pryd a chan bwy y caiff cynnydd ei fonitro a’i werthuso.

20 Hunanwerthuso ac ysgol effeithiol
Gwella profiadau addysgol a chyfleoedd bywyd yr holl blant a phobl ifanc

21 Hunanwerthuso effeithiol = gwelliant parhaus rhan 1
Datblygu potensial llawn trwy gaffael sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth ac agweddau. Yn cynnwys sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol i’w galluogi i fod yn ddinasyddion sy’n weithgar yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn bersonol, ac yn ddisgyblion gydol oes; Hyrwyddo diwylliant o gynhwysiant cymdeithasol a pharch at amrywiaeth, yn benodol trwy ddatblygu lles disgyblion a phersonoli eu dysgu;

22 Hunanwerthuso effeithiol = gwelliant parhaus rhan 2
Sefydlu Cymunedau Dysgu Proffesiynol cryf lle gall staff feithrin a rhannu eu gwybodaeth broffesiynol am addysgu a dysgu. Cynnig cwricwlwm i blant a phobl ifanc sy’n ennyn eu diddordeb ac sy’n eu cymell i ddysgu a chyflawni eu potensial. Darparu cymuned ddysgu i bawb sy’n rhan o fywyd ysgol, gan osod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd wrth wraidd y cyfan, yn cynnwys llywodraethwyr, athrawon, staff eraill ysgolion ac oedolion sy’n cael eu hyfforddi i weithio mewn ysgolion.

23 Hunanwerthuso effeithiol = gwelliant parhaus rhan 3
Chwarae rhan allweddol gydag ysgolion eraill a darparwyr gwasanaethau partner wrth gynllunio a darparu gwasanaethau integredig i blant a phobl ifanc er mwyn gwella eu lles. Darparu neu hwyluso addysg fel bod ysgolion yn helpu i ddiwallu anghenion y gymuned ac yn ymgysylltu â’r gymuned fel partneriaid, er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn canolbwyntio ar y gymuned.

24 Hunanwerthuso a’r Fframwaith Arolygu Cyffredin
Mae’r Fframwaith Arolygu Cyffredin yn rhoi sylw manwl i’r holl faterion allweddol y dylai ysgolion eu hasesu wrth hunanwerthuso Dylid seilio adroddiad hunanwerthuso ysgol ar y Fframwaith Arolygu Cyffredin Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda yw’r deilliannau? Cwestiwn Allweddol 2: Pa mor dda yw’r ddarpariaeth? Cwestiwn Allweddol 3: Pa mor dda yw arweinyddiaeth a rheolaeth?

25 Hunanwerthuso ac Arolygu
Diweddaru’r adroddiad blynyddol Dechrau’r broses ym mis Mai/Mehefin. Ychwanegu data cymharol pan fydd ar gael Nodi cryfderau a dathlu a rhannu arfer da Nodi meysydd i’w gwella y gellir eu blaenoriaethu yng nghynllun gwella’r ysgol Gwerthusiad yr ysgol o’i pherfformiad ei hun yw’r man cychwyn ar gyfer arolygu Ni fydd arolygwyr yn arolygu pob agwedd yn ystod arolygiad craidd. Byddant yn samplu tystiolaeth i brofi gwerthusiad yr ysgol.

26 Dylai adroddiad hunanwerthuso da:
Fod yn werthusol ac yn gryno Nodi meysydd i’w gwella yn ogystal â nodweddion da Dynodi arfer rhagorol, ac arfer sy’n arwain y sector, lle bo’n briodol; Rhoi dyfarniadau clir ar bob dangosydd ansawdd yn y Fframwaith Arolygu Cyffredin (er nad yw’r rhain yn cael eu diweddaru bob blwyddyn o reidrwydd); Sicrhau bod y dyfarniadau’n deillio o dystiolaeth ac yn cynnwys croesgyfeiriadau ati;

27 Dylai adroddiad hunanwerthuso da (parhad):
Ddarparu a chynnwys sylwadau ar ddata ystadegol am ddeilliannau dros y blynyddoedd diwethaf; Cyfeirio at asesiadau diweddar ac adolygiadau o ddarpariaeth; Cyfeirio’n glir at gynlluniau gwella a thargedau; a Darparu croesgyfeiriadau at y dystiolaeth sy’n cefnogi’r gwerthusiadau.

28 Dolenni Defnyddiol Llywodraethwyr Cymru Llywodraeth Cymru Fy Ysgol Leol ERW


Download ppt "Cylch Hunanwerthuso ar gyfer Cyrff Llywodraethu"

Similar presentations


Ads by Google