Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Pa mor dda y caiff setiau data craidd Cymru gyfan eu defnyddio i lywio hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella? How well are the all-Wales core data.

Similar presentations


Presentation on theme: "Pa mor dda y caiff setiau data craidd Cymru gyfan eu defnyddio i lywio hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella? How well are the all-Wales core data."— Presentation transcript:

1 Pa mor dda y caiff setiau data craidd Cymru gyfan eu defnyddio i lywio hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella? How well are the all-Wales core data sets used to inform self-evaluation and planning for improvement?

2 Cefndir Background The report focuses on how well primary and secondary schools, governors and local authorities use the All-Wales Core Data Sets to inform self-evaluation and planning for improvement. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ba mor dda mae ysgolion cynradd ac uwchradd, llywodraethwyr ac awdurdodau lleol yn defnyddio Setiau Data Craidd Cymru Gyfan i lywio hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella.

3 Prif ganfyddiadau Main findings
Ysgolion Mae defnyddio Setiau Data Craidd Cymru Gyfan yn cyfrannu at hunanarfarnu gwell ac yn galluogi cydweithredu gwell rhwng ysgolion, yn enwedig y rhai yn y teuluoedd o ysgolion. Mae ysgolion yn cysylltu’n gynyddol ag ysgolion sy’n perfformio’n uwch yn eu teulu i drafod strategaethau ar gyfer gwella a rhannu arfer orau. Caiff yr ystod o ddangosyddion, dadansoddiadau newydd, graffiau a siartiau eu defnyddio gan y rhan fwyaf o ysgolion i arfarnu eu perfformiad a nodi meysydd i’w gwella. Schools The use of the All-Wales Core Data Sets is contributing to better self-evaluation and enabling better co-operation between schools, particularly those in the families of schools. Schools are increasingly liaising with higher-performing schools in their family to discuss strategies for improvement and to share best practice. The range of indicators, new analyses, graphs and charts is used by most schools to evaluate their performance and to identify areas for improvement.

4 Prif ganfyddiadau Main findings
Fodd bynnag, nid yw tua un o bob pum ysgol yn defnyddio’r setiau data craidd yn ddigon da i nodi’r hyn y mae angen iddynt ei wella. Yn rhy aml, mae’r ysgolion hyn yn defnyddio data i gyfiawnhau’r hyn y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, yn hytrach na herio’u hunain i wneud yn well. Tanberfformio Pan nodwyd bod tanberfformio, mae ysgolion yn defnyddio ystod o strategaethau ar gyfer gwella. However, about one in five schools do not use the core data sets well enough to identify what they need to improve. Too often, these schools use data to justify what they do currently, rather than to challenge themselves to do better. Underperformance Where underperformance has been identified, schools use a range of strategies for improvement.

5 Prif ganfyddiadau Main findings
Mae’r strategaethau hyn yn cynnwys cymorth targedig i grwpiau o ddisgyblion, diwygio cynnwys neu drefniadaeth y cwricwlwm, a gofyn am arweiniad gan y teulu o ysgolion. Yn gyffredinol, mae’r strategaethau hyn wedi cael effaith dda, gyda thystiolaeth o welliant flwyddyn ar ôl blwyddyn. These strategies include targeted support for groups of pupils, revising curriculum content or organisation, and seeking guidance from the family of schools. Generally, the impact of these strategies has been good, with evidence of year-on-year improvement.

6 Prif ganfyddiadau Main findings
Fodd bynnag, nid yw ysgolion yn dadansoddi’r setiau data craidd yn ddigon trylwyr i arfarnu perfformiad pob grŵp o ddisgyblion, yn enwedig disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim. O ganlyniad, nid oes digon o ysgolion yn cymryd camau penodol i wella safonau ar gyfer y grŵp hwn o ddysgwyr. However, schools do not analyse the core data sets thoroughly enough to evaluate the performance of all group of pupils, particularly pupils who receive free school meals. As a result, not enough schools take specific action to improve standards for this group of learners.

7 Prif ganfyddiadau Main findings
Rhannu arfer dda Mae defnyddio’r setiau data craidd yn cael effaith gynyddol ar ddysgu proffesiynol athrawon lle mae teuluoedd o ysgolion yn nodi a rhannu arfer dda. Llywodraethwyr Caiff y setiau data craidd eu defnyddio gan lawer o lywodraethwyr hefyd i gyflawni eu rôl o ddwyn arweinwyr ysgol i gyfrif. Fodd bynnag, nid yw lleiafrif o lywodraethwyr yn gwbl ymwybodol o’r wybodaeth y mae’r setiau data craidd yn ei darparu am berfformiad ysgolion, a phrin y maent yn cymryd rhan o gwbl ym mhrosesau hunanarfarnu eu hysgol. Sharing good practice The use of the core data sets is having an increasing impact on teachers’ professional learning where families of schools are identifying and sharing good practice. Governors The core data sets are also used by many governors to fulfill their role of holding school leaders to account. However, a minority of governors are not fully aware of the information that the core data sets provide on school performance and are hardly involved at all in their school’s self-evaluation processes.

8 Prif ganfyddiadau Main findings
Awdurdodau lleol Ers cyflwyno’r setiau data craidd, mae’r mwyafrif o awdurdodau lleol wedi addasu’r wybodaeth am berfformiad ychwanegol y maent yn ei darparu ar gyfer ysgolion. Mae’r rhai mwyaf buddiol o’r rhain yn ychwanegu at y dadansoddiadau o’r setiau data craidd yn hytrach na’u hailadrodd. Mae swyddogion awdurdodau lleol yn defnyddio’r dadansoddiadau hyn yn gynyddol i herio ysgolion i wella eu perfformiad, er bod llai o gysondeb yn y modd y mae awdurdodau lleol yn defnyddio dadansoddiadau ychwanegol. Local authorities Since the introduction of the core data sets, the majority of local authorities have adapted the additional performance information they provide for their schools. The most helpful of these complement, rather than repeat, the core data set analyses. Increasingly, local authority officers use these analyses to challenge schools to improve their performance, although there is less consistency in how local authorities use additional analyses.

9 Argymhellion Recommendations
Dylai ysgolion: ddefnyddio’r setiau data craidd i herio eu hunain i wneud cystal â’r arfer orau a nodwyd mewn ysgolion tebyg eraill, yn cynnwys y rhai yn eu teulu o ysgolion;   gwneud defnydd mwy effeithiol o siartiau ‘perfformiad disgwyliedig wedi’i fodelu’; Schools should: use the core data sets to challenge themselves to do as well as the best practice identified in other similar schools, including those in their family of schools;   make more effective use of ‘modelled expected performance’ charts;

10 Argymhellion Recommendations
dadansoddi perfformiad disgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn fwy trylwyr a seilio strategaethau gwella ar y canfyddiadau; a  gwneud yn siŵr bod llywodraethwyr yn deall data perfformiad yr ysgol yn llawn, yn cynnwys ei safle yn y teulu a’r chwarteri meincnodau prydau ysgol am ddim, a bod ganddynt rôl allweddol mewn hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella. analyse the performance of pupils entitled to free school meals more thoroughly and base improvement strategies on the findings; and  make sure that governors understand fully the school’s performance data, including position in the family and the free-school-meal benchmark quarters, and that they play a key role in self-evaluation and planning for improvement.

11 Argymhellion Recommendations
Dylai awdurdodau lleol:  sicrhau bod y wybodaeth am berfformiad a’r dadansoddiadau y maent yn eu rhoi i ysgolion yn ychwanegu at y setiau data craidd, ac nid yn eu dyblygu; a  hyfforddi arweinwyr a llywodraethwyr ysgol i ddadansoddi’r setiau data craidd yn well a defnyddio’r canfyddiadau i nodi’r hyn y mae angen ei wella.  Dylai Llywodraeth Cymru:  ystyried cynnwys data ar y pynciau nad ydynt yn rhai craidd yn setiau data cyfnod allweddol 4. Local authorities should:  ensure that the performance information and analyses that they provide to schools complement and do not duplicate the core data sets; and  train school leaders and governors to analyse the core data sets better and to use the findings to identify what needs to improve.  The Welsh Government should:  consider including data on non-core subjects in the key stage 4 data sets.

12 Arfer orau Best practice
Ysgol Gynradd Glan Wysg: Defnyddio’r setiau data craidd i lywio strategaethau i wella deilliannau lefel 3 a lefel 5 yn y pynciau craidd. Gweithredu Yn sgil dadansoddiad trylwyr o’r setiau data craidd, cadarnhawyd nad oedd perfformiad yr ysgol ar y lefelau uchaf yn y pynciau craidd yn cymharu’n ddigon da ag ysgolion eraill yn eu teulu. O ganlyniad, cynhaliodd yr ysgol adolygiad trylwyr o strategaethau addysgu a dysgu yn y pynciau craidd gyda’r nod o wella perfformiad ar y lefelau uwch. Glan Usk Primary School: Using the core data sets to inform strategies to improve level 3 and level 5 outcomes in the core subjects. Action A thorough analysis of the core data sets confirmed that the school’s performance in the higher levels in the core subjects did not compare well enough with other schools in their family. As a result, the school undertook a thorough review of teaching and learning strategies in the core subjects with the aim of improving performance in the higher levels.

13 Arfer orau Best practice
Cafodd cynlluniau gwaith ac arfer eu newid, gan gynnwys athrawon yn sicrhau eu bod yn cynllunio ar gyfer ystod o weithgareddau i herio ac ymestyn y disgyblion mwy galluog ar y lefelau uwch mewn gwersi. Cytunwyd ar darged unigol yn y maes hwn hefyd ar gyfer pob uwch arweinydd ac athro dosbarth fel rhan o’u hamcanion rheoli perfformiad. Canlyniad Cynyddodd canran y disgyblion sy’n cyflawni ar y lefelau uwch o gyfartaledd o 17 pwynt canran. Schemes of work and practice were amended, including all teachers making sure that they planned for a range of activities to challenge and extend more able pupils in the higher levels in lessons. An individual target in this area for each senior leader and class teacher was also agreed as part of their performance management objectives. Outcome The percentage of pupils achieving the higher levels increased by an average of 17 percentage points.

14 10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers
Are we using the core data sets well enough as part of self-evaluation to identify and address specific areas of underperformance? Do we use the core data sets to challenge ourselves to do better or to justify our performance? How do we make effective use of the family benchmark data and, in secondary schools the modelled expected performance charts, to challenge ourselves to do better? A ydyn ni’n defnyddio’r setiau data craidd yn ddigon da fel rhan o’r hunanarfarnu er mwyn nodi a mynd i’r afael â meysydd penodol lle mae tanberfformio? A ydyn ni’n defnyddio’r setiau data craidd i herio ein hunain i wneud yn well neu i gyfiawnhau ein perfformiad? Sut ydyn ni’n gwneud defnydd effeithiol o ddata meincnod y teulu ac, mewn ysgolion uwchradd y siartiau perfformiad disgwyliedig wedi’i fodelu, i herio ein hunain i wneud yn well?

15 10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers
A ydyn ni’n mynd ati’n drylwyr i ddadansoddi perfformiad disgyblion â hawl i gael prydau ysgol am ddim ac yn seilio strategaethau gwella ar ein canfyddiadau? A ydyn ni wedi gosod targedau penodol y gellir eu mesur ar gyfer gwella, ac a ydyn ni’n mynd ati’n systematig i fonitro cynnydd tuag at gyflawni’r targedau hyn? Sut ydyn ni’n gwneud yn siŵr bod cysylltiad clir rhwng ein targedau ar gyfer gwella a’n cynlluniau gwella? Do we analyse the performance of pupils entitled to free school meals thoroughly and base improvement strategies on our findings? Have we set specific and measurable targets for improvement and do we monitor progress towards these systematically? How do we make sure that our targets for improvement are linked clearly to our improvement plans?

16 10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers
Sut ydyn ni’n defnyddio’r setiau data craidd i rannu arfer dda a chefnogi datblygiad proffesiynol yn yr ysgol ac yn y teulu o ysgolion? Sut ydyn ni’n gwneud yn siŵr bod llywodraethwyr yn deall data am berfformiad yr ysgol yn llawn, a’u bod yn chwarae rhan allweddol mewn hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella. How do we use the core data sets to share good practice and support professional development in the school and within the family of schools? How do we make sure that governors understand fully the school’s performance data and that they play a key role in self-evaluation and planning for improvement?

17 10 cwestiwn i ddarparwyr 10 questions for providers
A ydyn ni’n defnyddio gwybodaeth am berfformiad a dadansoddiadau oddi wrth yr awdurdod lleol i ychwanegu at y setiau data craidd? A ydyn ni’n parhau i ddatblygu ein gwybodaeth a’n medrau er mwyn dadansoddi’r setiau data craidd yn well? Do we use performance information and analyses from the local authority to complement the core data sets? Are we continuing to develop our knowledge and skills to analyse the core data sets better?

18 http://www. estyn. gov. uk/download/publication/248238

19 Cwestiynau... Questions…


Download ppt "Pa mor dda y caiff setiau data craidd Cymru gyfan eu defnyddio i lywio hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella? How well are the all-Wales core data."

Similar presentations


Ads by Google