Download presentation
Presentation is loading. Please wait.
Published byHadian Hadiman Modified over 5 years ago
1
Twenty-two years of ageing in Adelaide: Findings from the Australian Longitudinal Study of Ageing
Mae DSDC Cymru ym Mhrifysgol Bangor yn eich gwahodd i seminar lle bydd y siaradwr gwadd Yr Athro Mary Luszcz yn trafod yr hyn a ddysgwyd o’r astudiaeth bwysig hon ar heneiddio yn Awstralia Fe’i cynhelir ddydd Mercher 15 Hydref 12:30-14:00 yn ystafell gyfarfod Ardudwy, Safle’r Normal, Ffordd Caergybi, Bangor, LL57 2PZ Oherwydd mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, a fyddech cystal â chysylltu â : neu i archebu eich lle. Gwybodaeth am y siaradwr Mae Mary’n un o arloeswyr ymchwilio ym maes seicoleg heneiddio yn Awstralia ac, ymysg nifer o bynciau eraill, mae ganddi ddiddordeb neilltuol mewn adnoddau personol, seicolegol a chymdeithasol/amgylcheddol sy’n hybu heneiddio’n dda. Hi yw Athro Hyglod Matthew Flinders mewn Seicoleg a Gerontoleg ym Mhrifysgol Flinders, De Awstralia, ac mae’n Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Heneiddio Flinders. Ar hyn o bryd mae hefyd yn cynnull sefydliad sy’n integreiddio ymchwil rhwng y brifysgol, y llywodraeth a sectorau gofalu am yr henoed. Gwybodaeth am y seminar… Bydd Mary’n cyflwyno darganfyddiadau allweddol o broject amlddisgyblaethol sydd wedi mynd ymlaen ers dwy flynedd ar hugain erbyn hyn. Hi yw Prif Ymchwilydd y project hwn, sy’n dilyn hynt bywydau Awstraliaid hŷn dros gyfnod sylweddol.
Similar presentations
© 2025 SlidePlayer.com Inc.
All rights reserved.