Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Yr Athro Mererid Hopwood

Similar presentations


Presentation on theme: "Yr Athro Mererid Hopwood"— Presentation transcript:

1

2 Yr Athro Mererid Hopwood
“Rhaid i ni fod yn llawer mwy agored ein meddyliau wrth ymdrin ag iaith os ydym am weld y cwricwlwm newydd hwn yn ein cyfannu’n ieithyddol.” Yr Athro Mererid Hopwood

3 Gweledigaeth ac athroniaeth
Dathlu ieithoedd a diwylliannau, ac ymhyfrydu mewn Cymru ddwyieithog mewn cyd-destun rhyngwladol. Dod â’r Gymraeg a’r Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol a’u llenyddiaeth at ei gilydd er lles pawb. Datblygu dysgwyr ieithoedd sy’n uchelgeisiol, galluog a hyderus ac sy’n cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg, y Saesneg ac mewn ieithoedd rhyngwladol drwy amrywiaeth o gyfryngau. Creu dysgwyr sydd wedi’u symbylu, drwy brofi cyd-destunau ystyrlon, i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, agweddau cadarnhaol a chymhelliant. Ystyr ieithoedd rhyngwladol yw ieithoedd modern, ieithoedd clasurol, ieithoedd cymunedol, er enghraifft Pwyleg neu Bwnjabi, Iaith Arwyddion Prydain. Mae Blog Mererid Hopwood 'nawr ar gael ar: cwricwlwmigymru.llyw.cymru/2019/01/18/yr-hyn-syn-bwysig-go-iawn/ Mae Blog Enlli Thomas yn archwilio dwyieithrwydd ym maes addysg yng Nghymru ymhellach: cwricwlwmigymru.llyw.cymru/2019/01/31/deall- dwyieithrwydd-mewn-addysg-un-gwraidd-i-lwyddiant-addysgu-dwyieithog/

4 Y sail resymegol dros newid
Mae dinasyddion y Gymru fodern yn siarad amryw o ieithoedd, gan adlewyrchu diwylliannau amrywiol; rydyn ni eisiau dathlu hyn ac adeiladu arno. Gall archwilio hunaniaethau a diwylliannau drwy ieithoedd gysylltu dysgwyr â phobl, lleoedd a chymunedau yn ein Cymru ddwyieithog a’n byd amlieithog. Gwrthdroi’r gostyngiad yn y nifer sy’n astudio ieithoedd tramor modern drwy roi profiadau cadarnhaol i blant ifanc, a fydd yn eu cymell. Mae sgiliau ieithyddol yn hybu dealltwriaeth a datblygiad ym mhob iaith. Diddymu’r gwahaniaethu ffug rhwng Cymraeg iaith gyntaf a Chymraeg ail iaith fel bod pob dysgwr yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn unol â phedwar diben y cwricwlwm. Mae gwahaniaethu rhwng deilliannau o ran cyflawniad yn adlewyrchu gwahanol gyflymder a dyfnder y dysgu, gan alluogi dysgwyr ac athrawon i adnabod llwybrau dilyniant. Dros y blynyddoedd mae Estyn wedi nodi nad yw Cymraeg ail iaith yn galluogi'r rhan fwyaf o ddysgwyr i wneud cynnydd digonol o ran y Gymraeg i allu ei defnyddio y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Yn ei hadroddiad yn dilyn yr adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, nododd Sioned Davies argymhellion a ystyriwyd wedi hynny yn ystod adolygiad Graham Donaldson o'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu. Gellir gweld yr adroddiad ar beta.llyw.cymru/sites/default/files/publications/ /adolygiad-o-gymraeg- ail-iaith-yng-nghyfnodau-allweddol-3-a-4.pdf Er bod Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu wedi pennu deilliannau cyflawniad gwahanol ar gyfer ysgolion a ffrydiau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, maent yn seiliedig ar yr un continwwm neu fframwaith cynnydd. Caiff y disgwyliadau eu hadolygu wrth i'r carfanau cyntaf ddysgu drwy'r cwricwlwm newydd ac wrth i athrawon feithrin eu methodoleg a'u sgiliau o ran y Gymraeg. Caiff disgwyliadau eu cynyddu'n raddol dros amser. Mae rhoi'r cyfle i bob dysgwr ddod yn siaradwr Cymraeg yn rhan annatod o'r gwaith o gyflawni nod Llywodraeth Cymru, sef cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae nifer y bobl sy'n dysgu iaith dramor fodern yn lleihau yn y DU. Mae gan ein dysgwyr eisoes y fantais o allu dysgu Cymraeg a Saesneg, gyda'r rhan fwyaf o'r dysgwyr hynny mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhugl yn y ddwy iaith erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd. Mae angen i ni adeiladu ar hyn. Gall rhoi cyfle i'n dysgwyr ddysgu a defnyddio o leiaf un iaith ryngwladol arall fod o fudd i'r dysgwr ei hun, ac i'r gymdeithas a'r economi. Dylai'r wybodaeth a'r sgiliau a ddysgir mewn un iaith gefnogi'r broses o feithrin gwybodaeth a sgiliau mewn iaith arall.

5 Sut mae’n wahanol? Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd dysgu am ieithoedd, y ffyrdd y maen nhwt yn cysylltu â’i gilydd ac â’n diwylliannau a’n hunaniaethau ni, a’r ffyrdd y maent yn eu hadlewyrchu. Erbyn diwedd eu hamser yn yr ysgol gynradd, bydd dysgwyr wedi cael profiad o wahanol ieithoedd ac wedi gwneud cynnydd yn y Gymraeg, yn y Saesneg ac mewn o leiaf un iaith ryngwladol. Pan fydd dysgwyr yn gadael yr ysgol, byddant yn gallu defnyddio y Gymraeg, y Saesneg a’u hieithoedd eraill mewn modd ystyrlon. Mae llafaredd, darllen ac ysgrifennu yr un mor bwysig â’i gilydd. Llenyddiaeth ar gyfer pob dysgwr: cyfleoedd i archwilio a chreu amrywiaeth o lenyddiaeth yn y Gymraeg, y Saesneg ac ieithoedd rhyngwladol. Er mwyn atgyfnerthu llafaredd, caiff sgiliau eu grwpio'n sgiliau derbyn (gwrando a darllen) a sgiliau mynegiannol (siarad ac ysgrifennu). Mae'r llenyddiaeth a addysgir i'r holl ddysgwyr yn cynnig cyfle i feithrin dealltwriaeth o ddiwylliant, pobl a hanes Cymru a'r byd.

6 Pa ddeilliannau cyflawniad y dylem eu dilyn?
Ysgolion dwyieithog Deilliannau cyflawniad Ysgol cyfrwng Cymraeg Ysgol cyfrwng Saesneg Ffrwd Gymraeg mewn ysgol ddwyieithog Ffrwd Saesneg mewn ysgol ddwyieithog Cymraeg Saesneg Cymraeg mewn ysgol cyfrwng Saesneg Iaith(ieithoedd) rhyngwladol Ni fydd y cwricwlwm newydd yn newid y trefniadau trochi iaith o ran y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar-lein ar beta.gov.wales/sites/default/files/consultations/ /statement-on-the- continuation-of-welsh-immersion.pdf

7 Yr Hyn sy’n Bwysig mewn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mae dysgu am hunaniaeth a diwylliant drwy ieithoedd yn paratoi dysgwyr i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd. Mae dysgwyr sy’n gwrando ac yn darllen yn effeithiol yn barod i ddysgu drwy gydol eu hoes. Mae dysgwyr sy’n siarad ac yn ysgrifennu’n effeithiol yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd. Mae rhyng-gysylltiad agos rhwng y pedwar maes a nodwyd fel datganiadau yr hyn sy'n bwysig ym Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae gwrando a darllen, yn ogystal â siarad ac ysgrifennu, yn bodoli mewn perthynas â'i gilydd ac nid fel elfennau ar wahân. Bydd profiadau cyfoethog yn un o'r pedair elfen hyn yn cefnogi datblygiad y tair arall, a dylai'r broses o gynllunio'r cwricwlwm ar lefel yr ysgol adlewyrchu hyn. Yn yr un modd, dylai'r broses gynllunio adlewyrchu'r modd y mae'r maes dysgu a phrofiad hwn yn cydnabod y cyswllt rhwng ieithoedd, a bod dysgu sgiliau mewn un iaith yn atgyfnerthu'r broses o ddysgu'r sgiliau hynny mewn ail iaith ac ieithoedd dilynol. Wrth gyfeirio at gynnydd nodir ‘Bydd rhai dysgwyr yn cyfathrebu drwy ddulliau eraill ar wahân i lafaredd, ac y bydd eu cynnydd yn cael ei ystyried drwy, er enghraifft, ddefnyddio iaith arwyddion neu dechnoleg i gyfathrebu’.

8 Sut y gwnaethom ni gyrraedd yma?
Dull gweithredu Ystyried cwricwla gwledydd eraill. Ystyried cryfderau a gwendidau y rhaglenni astudio presennol ar gyfer Cymraeg, Cymraeg ail iaith, Saesneg ac ieithoedd tramor modern ac elfennau llythrennedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh). Arbenigwyr yn cyfrannu at wahanol agweddau ar ieithoedd, llythrennedd a llenyddiaeth. Datblygu fframwaith cynnydd ar gyfer unrhyw iaith, o fod ag ychydig neu ddim iaith tuag at ruglder. Datblygu gwahanol ddeilliannau cyflawniad i adlewyrchu gwahanol gyd-destunau ar gyfer dysgu iaith. Ystyriodd y grŵp arloesi gwricwla mewn gwledydd eraill. Fodd bynnag, nid oes gan yr un ohonynt yr un dirwedd ieithyddol na'r un system addysg â Chymru (sydd â ffrydiau cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a mathau gwahanol o leoliadau ac ysgolion dwyieithog). Mae'r rhaglenni astudio ar gyfer Cymraeg, Cymraeg ail iaith, Saesneg ac ieithoedd tramor modern wedi cael eu cysoni'n gynyddol. Roedd y rhaglenni astudio diwygiedig a gyhoeddwyd yn 2015 ar gyfer Cymraeg a Saesneg yn ymgorffori'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. Y broses o ddatblygu fframwaith cynnydd ar gyfer unrhyw iaith, gan ddechrau heb fawr ddim iaith, os o gwbl, a gweithio tuag at fod yn rhugl. Mae yna wahaniaethau sylweddol rhwng caffael a dysgu iaith gyntaf ac ieithoedd dilynol. Roedd hyn yn golygu bod angen mynd i'r afael â chynnydd ar wahân er mwyn dangos y daith ddysgu ar gyfer cyd-destunau gwahanol.

9 Cyfraniadau arbenigwyr
Roedd yr arbenigwyr a gefnogodd y grŵp yn cynnwys y canlynol. Neil Mercer, Oracy Cambridge. Diane Leedham, Ymgynghorydd Saesneg fel iaith ychwanegol. Laurie Smith, Kings College, Llundain. Enlli Thomas, Prifysgol Bangor. Elen Roberts, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg. Mererid Hopwood, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. British Council. CAMAU. Sioned Davies, Prifysgol Caerdydd. Cymru Wales Classics Hub. Dominic Wyse, UCL Institute of Education. Estyn. Helen Prosser, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang. Llenyddiaeth Cymru. Josephine Moate, Prifysgol Jyväskylä. National Deaf Children’s Society. Catherine Driver, Ymgynghorydd Saesneg fel iaith ychwanegol. Cymwysterau Cymru. Gyda chymorth gan dîm CAMAU, rydym wedi defnyddio tystiolaeth ryngwladol i gefnogi'r broses o ddatblygu Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae'r grŵp wedi cydweithio ag arbenigwyr o Gymru a thu hwnt i Gymru o amrywiaeth o feysydd, gan amrywio o ddatblygu iaith, dwyieithrwydd, siarad a gwrando, i lenyddiaeth a'r clasuron. Rydym hefyd wedi cydweithio ag athrawon nad ydynt yn rhan o'r rhwydwaith arloesi.

10 Ystyriaethau i ysgolion
Sut bydd eich arweinwyr, ymarferwyr a rhwydweithiau’n gallu paratoi ar gyfer y cyfnod nesaf o gyd-greu a rhoi adborth ystyrlon? Beth, os o gwbl, yw’r goblygiadau o ran adnoddau (cenedlaethol a lleol)? Sut y gallwch chi ddefnyddio dull ysgol gyfan a/neu rhyng-adrannol i sicrhau bod pawb yn: – gwybod am y cwricwlwm newydd? – deall sut i gyflwyno’r cwricwlwm newydd?

11 Ystyriaethau i ysgolion
Pa oblygiadau sefydliadol ac o ran adnoddau a dysgu proffesiynol sy’n deillio o’r maes dysgu a phrofiad hwn, er enghraifft dull ysgol gyfan, Siarter Iaith? Ysgolion cyfrwng Saesneg: Sut ydym yn sicrhau bod ysgolion yn darparu cyfleoedd digonol i ddysgwyr ddatblygu a defnyddio eu Cymraeg? Ysgolion cynradd: Pa fodel(au) y gallai eich ysgol ei ddefnyddio/eu defnyddio er mwyn hwyluso dysgu ieithoedd rhyngwladol, er enghraifft adnoddau ar-lein, cymorth ysgolion clwstwr, dysgu proffesiynol i staff? Revisit Successful Futures (including the twelve pedagogical principles) and other available relevant documents, e.g. Love the Words by J. Brigley ( Time to consider the impact and pedagogy behind Successful Futures, before detailed review of the area of learning and experience requirements. Exploit collaborative approaches provided via regional consortia – build your local networks. Secondary teachers in particular need to collaborate early on. Skills and knowledge in one language builds on skills and knowledge in the other (whichever is acquired/learned first) we need a consistent approach to Languages Literacy and Communication and a shared language to achieve this. What opportunities are there for learners to use languages beyond the Languages Literacy and Communication Area of Learning and Experience? Meaningful cross-curricular and extra-curricular experiences, e.g. Siarter Iaith (Welsh Language Charter). What resources do you have locally outside of school? Organisations such as Mentrau Iaith, Urdd, British Council and parents/carers and other members of the school and wider community to help enhance learning experiences. What skills do all your staff have? What support might they need? Start planning and accessing professional learning opportunities.


Download ppt "Yr Athro Mererid Hopwood"

Similar presentations


Ads by Google