Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Gwella Adborth i Ddysgwyr a Lleihau Llwyth Gwaith Athrawon Adroddiad Cryno Chwefror 2019 Noddwr y Prosiect ERW Tîm Prosiect y Consortia: Gwyn Pleming.

Similar presentations


Presentation on theme: "Gwella Adborth i Ddysgwyr a Lleihau Llwyth Gwaith Athrawon Adroddiad Cryno Chwefror 2019 Noddwr y Prosiect ERW Tîm Prosiect y Consortia: Gwyn Pleming."— Presentation transcript:

1 Gwella Adborth i Ddysgwyr a Lleihau Llwyth Gwaith Athrawon Adroddiad Cryno Chwefror 2019
Noddwr y Prosiect ERW Tîm Prosiect y Consortia: Gwyn Pleming GwE Delyth Jones ERW Louise Muteham CSC Ed Pryce EAS Katy Edwards a Sarah Cason Ysgol Gynradd Palmerston Rheolwr Prosiect Traws-ranbarthol Helen Richards Cefndir Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae nifer o adroddiadau, er enghraifft yr Arolwg o’r Gweithlu Addysg (Ebrill 2017) a Grŵp Adolygu'r Polisi Marcio (Mawrth 2017), wedi tynnu sylw at y ffaith bod llwyth gwaith gormodol yn effeithio ar les athrawon yn ogystal â'r gallu i gadw a recriwtio athrawon, ac yn mynd ag athrawon i ffwrdd o'u tasg graidd o wella deiliannau dysgwyr. Mae asesu effeithiol wrth wraidd dysgu ac addysgu o ansawdd. Bydd yn greiddiol i weithredu'r cwricwlwm newydd i Gymru yn llwyddiannus. Y Mater Dan Sylw “Marking has evolved into an unhelpful burden for teachers where the time it takes is not repaid in positive impact on pupil’ progress’’ (Grŵp Adolu'r Polisi Marcio DFE Mawrth 2016). Diben Sefydlu rhaglen barhaus i wella adborth i ddysgwyr ac i leihau llwyth gwaith athrawon yn gynyddol. Cam 1: Cynnydd a chamau gweithredu wedi'u cwblhau hyd yma Canllaw i arweinwyr ac athrawon ysgol Canllaw wedi'i ddatblygu ar y cyd ag ESTYN a Llywodraeth Cymru Wedi'i lansio yn Ysgol Gynradd Palmerston gan Ysgrifennydd y Cabinet, Kirsty Williams, Medi 2017 Cafodd y Canllaw ei lwytho i fyny yr un pryd i wefan ESTYN gyda chyfeiriadau o wefannau'r holl gonsortia rhanbarthol, Llywodraeth Cymru a Darganfod Addysgu, a dosbarthwyd copïau caled o'r poster a'r daflen i bob ysgol yng Nghymru Datblygwyd animeiddiadau a'u rhannu ledled rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol y Consortia rhanbarthol a Darganfod Addysgu Y Model Dysgu Proffesiynol Cydweithio traws-ranbarthol i ddatblygu Modiwl Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol i gefnogi'r broses o weithredu'r Canllaw ac i ddatblygu arferion addysgegol sy'n gysylltiedig ag adborth i ddysgwyr ac egwyddorion asesu ar gyfer dysgu. Amcan craidd y rhaglen = gwella gallu athrawon i ddefnyddio adborth effeithiol, fel ei fod yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar eu llwyth gwaith ond yn sicrhau'r effaith fwyaf posibl ar gynnydd disgyblion. Bydd y modiwlau'n datblygu dealltwriaeth ysgolion o'r modd y gallant ddatblygu dysgwyr gweithgar, a all fyfyrio ar eu cynnydd eu hunain a chynnydd eraill, a'i werthuso, er mwyn dod yn ddysgwyr annibynnol effeithiol. Datblygwyd cyflwyniad i godi ymwybyddiaeth o'r rhaglen, ac fe'i cyflwynwyd i holl Ymgynghorwyr Her y Consortia. Cynigiwyd y cyfle hwn hefyd i bob Pennaeth, ac aeth llawer o Benaethiaid ledled pob rhanbarth iddo. Cynhaliwyd digwyddiadau Hyfforddi'r Hyfforddwr ledled y rhanbarthau, a sicrhawyd cysondeb yn hyn o beth gan mai tîm prosiect traws-ranbarthol y Consortia a gyflwynodd yr holl sesiynau. Mae amserlenni ar gyfer cyflwyno'r rhaglen ar waith ac wedi'u dechrau ym mhob rhanbarth. Lle y byddai 4 rhaglen ranbarthol ar wahân wedi cael eu datblygu yn flaenorol, mae cydweithio i ddatblygu a chyflwyno un rhaglen wedi arwain at lawer mwy o werth am arian, effeithlonrwydd a chysondeb o ran negeseuon. Hyd yma mae 65 o hyfforddwyr wedi'u datblygu, a 201 o Benaethiaid/Arweinwyr wedi cwblhau'r hyfforddiant.

2 Datblygu Adnoddau Ategol
Crëwyd lleoliad ar Hwb i storio adnoddau ategol y rhaglen. Er mwyn annog presenoldeb ar y cwrs, rhoddir mynediad i'r lleoliad ar Hwb ar ôl i'r hyfforddiant gael ei gwblhau. 185 o aelodau hyd yma Mae'r adnoddau'n cynnwys Modiwlau 1-4 y Rhaglen Astudiaethau achos arfer gorau - Prosiect ymchwil y Drindod Dewi Sant - Awgrymiadau ar gyfer darllen ac ymchwil Sampl o waith rhanbarthol ategol sy'n llywio datblygiad y prosiect a'r rhaglen Astudiaeth achos ERW – 500 o ymweliadau ysgol gan Ymgynghorwyr Her. Ffocws gorfodol ar werthuso adborth ar gynnydd disgyblion, yn ogystal â mynd i'r afael â'r agenda i leihau'r llwyth gwaith. Wedi'i gynnwys yn y cyflwyniad codi ymwybyddiaeth cychwynnol a gyflwynwyd i Benaethiaid ac Ymgynghorwyr Her. GwE – rhaglen waith dreigl ddwy flynedd gyda Shirley Clark, i gynnwys yr holl ysgolion rhanbarthol yn gweithio mewn 3 haen, 27 o ysgolion gyda 54 o ymarferwyr a ddewiswyd ar gyfer y cam cyntaf, gan ddefnyddio ymchwil weithredu yn y dosbarth i gefnogi athrawon wrth ddatblygu arfer asesu ar gyfer a dull addysgegol. Yna, bydd y rhain yn ysgolion arweiniol ar gyfer cyfnod y prosiect. Mae pum grŵp gwella ysgolion yn CSC sy'n cydweithio i wella gwaith asesu ffurfiannol. Cafodd cyfran o'r ysgolion hyn hyfforddiant gan Dylan William a Shirley Clark, gan arwain at ddigwyddiad rhannu arfer gorau yr aeth dros 70 o ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion iddo. Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg – creu Grŵp Lleihau Llwyth Gwaith Penaethiaid Rhanbarthol i adolygu pob 'cais' oddi wrth y Gwasanaeth Cyflawni Addysg am resymoldeb a diben. Mae gofynion y Gwasanaeth Cyflawni Addysg am geisiadau atebolrwydd wedi cael eu hadolygu o ganlyniad i'r grŵp hwn. Cyllid 17/18 ar gyfer tua 50 o ysgolion (Ysgolion y Rhwydwaith Dysgu) i ddarparu cymorth a hyfforddiant i ysgolion eraill mewn perthynas â nifer o agweddau, gan gynnwys adborth i ddysgwyr. Gwerthusiad cychwynnol o'r rhaglen – SurveyMonkey Defnyddiwyd SurveyMonkey i werthuso effaith cynnwys y cwrs a'r modd y cafodd ei gyflwyno – cafwyd ymatebion cadarnhaol dros ben gan y 60 cyntaf i fynd ar y cwrs, er enghraifft, pan ofynnwyd i ba raddau y bydd "y cynnwys yn effeithio ar arfer presennol yn fy ysgol, ac yn ei wella" cafwyd sgôr gyfartalog o 4.55 (4 = yn cytuno a 5 = yn cytuno'n gryf). Pan ofynnwyd iddynt yn dilyn y cwrs "sut y gallai eich gwybodaeth neu'ch sgiliau newydd effeithio ar ddeilliannau dysgwyr yn eich ysgolion?" roedd y sylwadau'n cynnwys: “Bydd yr hyfforddiant yn helpu staff i ddeall beth y mae llai o lwyth gwaith yn ei olygu. Bydd hefyd yn gwneud adborth i'r disgyblion yn fwy effeithiol, gan felly datblygu eu dysgu a'u dealltwriaeth.” “Asesu mwy amserol ac amrywiol yn y gwersi = llai o amser yn cael ei dreulio ar farcio. O ganlyniad, mwy o amser i gynllunio a pharatoi profiadau dysgu effeithiol.” Cam II Mawrth Parhau i gyflwyno'r modiwl dysgu proffesiynol yn y rhanbarth Adolygiad tymhorol o'r rhaglen, gan ymgorffori argymhellion o'r adborth ar SurveyMonkey, a chroesgyfeirio yn erbyn y safonau addysgu ac arwain proffesiynol. Y gweithdy cyntaf wedi'i drefnu ar gyfer mis Mai 2018 Datblygu ymhellach y gwaith o hyrwyddo a hyfforddi mewn perthynas â defnyddio offer digidol, trwy fodiwl ychwanegol Datblygu deunyddiau adnoddau i'w defnyddio fel deunyddiau HMS Tîm Cyfathrebu'r Consortia i ddatblygu rhaglen dreigl i hyrwyddo negeseuon allweddol Ymgysylltu â Cholegau Addysg Gychwynnol Athrawon er mwyn ymgorffori'r rhaglen yng nghynnwys y cwrs Datblygu fideos astudiaethau achos ar arfer gorau Defnyddio Ymgynghorwyr Her a thimau rhanbarthol i fesur effaith yr hyfforddiant a'r deunyddiau ar lefel yr ystafell ddosbarth Archwilio'r defnydd o'r Canllaw gan arolygwyr ESTYN trwy gyfweliadau grŵp ffocws Cyfweliadau grŵp ffocws ag ymarferwyr, arweinwyr ysgolion a dysgwyr er mwyn dechrau nodi effaith y Canllaw a'r rhaglen ategol. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Rheolwr Prosiect y Prosiectau Traws-ranbarthol


Download ppt "Gwella Adborth i Ddysgwyr a Lleihau Llwyth Gwaith Athrawon Adroddiad Cryno Chwefror 2019 Noddwr y Prosiect ERW Tîm Prosiect y Consortia: Gwyn Pleming."

Similar presentations


Ads by Google