Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

TRYDAN YN Y GWAITHLE Introduction

Similar presentations


Presentation on theme: "TRYDAN YN Y GWAITHLE Introduction"— Presentation transcript:

1 TRYDAN YN Y GWAITHLE Introduction
Usually have corporate induction every month – but have been revamping it and have reduced it to being half a day

2 Fel y gwyddoch, mae pawb ohonom yn dod i gysylltiad â thrydan rhywbryd yn ystod yr wythnos waith arferol p’un a i bweru ein gliniaduron peth cynta yn y bore neu i droi’r goleuadau i ffwrdd wrth adael ar ôl diwrnod caled o waith. O’r herwydd, mae’n hanfodol ein bod yn cymryd diogelwch trydanol yn y gwaith o ddifrif. Gallai methiant i wneud hynny achosi anafiadau megis sioc drydanol a llosgiadau o ganlyniad i gyswllt gyda rhannau ‘byw’. Mewn amgylchiadau eithriadol, gallai tân a achosir gan offer/gosodiadau trydanol diffygiol, arwain at anafiadau difrifol neu farwolaeth hyd yn oed.

3 Er mwyn lleihau’r risg o anaf i chi eich hun ac eraill o’ch cwmpas, cymerwch y camau syml isod:-
• Trefnwch i offer trydanol gael ei archwilio a’i brofi’n rheolaidd. • Tarwch olwg yn rheolaidd ar offer trydanol cyn ac ar ôl ei ddefnyddio neu ar ôl ei symud. Cadwch olwg am: 1) Ddifrod i unrhyw wifrau gan gynnwys rhai sydd wedi breuo, wedi torri neu dreulio e.e gan orchuddion blychau yn y llawr. 2) Difrod i blygiau, e.e. i’r gorchudd neu binnau sydd wedi plygu. 3) Gwifrau lliw i’w gweld lle mae’r cebl yn ymuno gyda’r plwg (h.y. dim byd yn dal y cebl lle mae’n mynd i mewn i’r plwg).

4 4) Difrod i orchudd allanol yr offer ei hun, gan gynnwys partiau neu sgriwiau sy’n rhydd.
5) Ceblau yn sownd dan ddodrefn neu flychau yn y llawr. 6) Sicrhewch nad oes unrhyw beth yn y blychau yn y llawr cyn plygio eitemau i mewn, nid yw’r cylchedau hyn wedi eu diogelu gan RCBO ac o’r herwydd hyn gallai’r Mcb 32A dripio. 7) Sicrhewch fod offer/cyfarpar yn addas i’r pwrpas y bwriadwyd nhw ar ei gyfer a’u bod wedi cael eu dewis ar gyfer yr amodau y byddant yn cael eu defnyddio ynddynt. 8) Cadwch olwg am arwyddion o orboethi pan yn defnyddio unrhyw fath o gyfarpar trydanol a sicrhewch nad yw’n agored i effeithiau llwch neu faw.

5 Os oes unrhyw un o’r uchod yn amlwg, dylech roi gwybod i’ch rheolydd llinell / gwasanaethau eiddo ar unwaith! Mae gwybodaeth bellach am amrediad o faterion iechyd a diogelwch ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac ar dudalennau Monitor y Cyngor.


Download ppt "TRYDAN YN Y GWAITHLE Introduction"

Similar presentations


Ads by Google