Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

MATHEMATEG – Cyfnod Sylfaen Gwers 1

Similar presentations


Presentation on theme: "MATHEMATEG – Cyfnod Sylfaen Gwers 1"— Presentation transcript:

1 MATHEMATEG – Cyfnod Sylfaen Gwers 1
BBC Plant mewn Angen Dilëwch cyn defnyddio yn y wers: Ar gael i argraffu o'r ddogfen hon: Taflenni i ddisgyblion (sleidiau 4, 6, 8, 10 a 16)

2 Fideo 2: Cyflwyniad i BBC Plant mewn Angen Cliciwch llun isod
Video clip 2 Introduction to BBC Children in Need [ VIDEO clip address]

3 Yn y wers hon, byddwn ni... Yn dysgu am ddelio â data gyda phictogramau a graffiau bar Yn meddwl sut gallwn ni fod yn Bencampwyr a chodi arian i BBC Plant mewn Angen

4 Pictogram Pudsey i ddangos yr arian sydd wedi cael ei godi i BBC Plant mewn Angen
Blwyddyn 6 Blwyddyn 5 Blwyddyn 4 Blwyddyn 3 Blwyddyn 2 Blwyddyn 1 Allwedd = £10 Argraffwch y dudalen hon a'i defnyddio fel taflen i'r disgyblion gyfeirio ati

5 Gan weithio gyda Phartner Dysgu edrychwch yn ofalus ar Bictogram Pudsey
Sialens Mathemateg Gan ddefnyddio'r ALLWEDD i'ch helpu, atebwch y cwestiynau am Bictogram Pudsey

6 Cwestiynau Pictogram Pudsey
Names: Date: Cwestiynau Pictogram Pudsey Faint o gwestiynau gallwch chi a'ch Partner Dysgu eu hateb? Pa ddosbarth gododd y mwyaf o arian ar gyfer BBC Plant mewn Angen? Faint gododd Blwyddyn 3 ar gyfer BBC Plant mewn Angen? ___ Pa ddau ddosbarth gododd yr un faint o arian? ___ Pa ddosbarth gododd £45 ar gyfer BBC Plant mewn Angen? ___ Faint gododd Blwyddyn 5 ar gyfer BBC Plant mewn Angen? __ Faint o arian a godwyd gyda'i gilydd? ___ Os oedd pawb ym Mlwyddyn 2 wedi rhoi £1 yr un, faint o blant sydd yn y dosbarth hwnnw? __ Petai athro Blwyddyn 4 yn dyblu swm eu dosbarth, beth fyddai eu cyfanswm newydd? __ Argraffwch y dudalen hon a'i defnyddio fel taflen waith i'r disgyblion ei llenwi neu mae modd iddyn nhw weithio ar eu byrddau gwyn

7 Sut hwyl gawsoch chi arni?
Rhowch eich atebion i rywun arall eu marcio Gwrandewch yn astud wrth i'ch athro fynd drwy'r atebion

8 Graff Bar Pudsey Graff Bar i ddangos faint o gacennau Pudsey gafodd eu gwerthu yn y Stondin Gwerthu Cacennau ar gyfer BBC Plant mewn Angen Stondin Gwerthu Cacennau BBC Plant mewn, Angen Hoff liwiau cacennau Argraffwch y dudalen hon a'i defnyddio fel taflen i'r disgyblion gyfeirio ati Stondin Gwerthu Cacennau BBC Plant mewn Angen Hoff liwiau cacennau

9 Gan weithio gyda Phartner Dysgu edrychwch yn ofalus ar Graff Bar Cacennau Pudsey
Sialens Mathemateg Atebwch y cwestiynau am Graff Bar Cacennau Pudsey

10 Cwestiynau Graff Bar Pudsey
Names: Date: Cwestiynau Graff Bar Pudsey Faint o gwestiynau gallwch chi a'ch Partner Dysgu eu hateb? Pa liw cacen oedd y mwyaf poblogaidd? ____ Faint o blant oedd wedi prynu cacennau pinc? ___ Faint o gacennau â lliwiau gwahanol oedd ar gael? ___ Pa liw cacen oedd wedi gwerthu 6? ___ Faint o gacennau gwyn gafodd eu gwerthu? ___ Faint o gacennau gafodd eu gwerthu gyda'i gilydd? ___ Os oedd y cacennau'n 20c yr un, faint o arian a gafodd ei godi drwy werthu cacennau pinc? ___ Petai'r Pennaeth wedi prynu hanner y cacennau coch, faint oedd ef wedi'u prynu? ___ Argraffwch y dudalen hon a'i defnyddio fel taflen waith i'r disgyblion ei llenwi neu mae modd iddyn nhw ddefnyddio eu byrddau gwyn

11 Sut hwyl gawsoch chi arni?
Rhowch eich atebion i bâr arall eu marcio Gwrandewch yn astud wrth i'ch athro fynd drwy'r atebion

12 Mae BBC Plant mewn Angen yn elusen sy'n gweithio yn y DU
Mae BBC Plant mewn Angen yn elusen sy'n gweithio yn y DU. Mae'n rhoi arian i brosiectau i helpu plant yn y DU. Sut gallwn ni fod yn bencampwyr a chodi cymaint o arian â phosibl er mwyn helpu?

13 Beth fydden ni'n gallu ei wneud i godi arian a bod yn Bencampwyr Newid
Beth fydden ni'n gallu ei wneud i godi arian a bod yn Bencampwyr Newid? Cliciwch llun isod Video clip 4 Fundraising ideas from our friends [ VIDEO clip address]

14 Mae elusen yn sefydliad sy'n codi arian i wneud pethau da neu i gefnogi'r rheini sydd mewn angen.
Tasg Partner Sut gallwn ni helpu? Sut gallwn ni fod yn Bencampwyr a chodi arian i helpu'r rheini mewn angen? Siaradwch â’ch partner dysgu Meddyliwch am y themâu codi arian: POBI – HER - ADLONIANT – GWISGO FYNY

15 Mae'n amser rhoi eich syniadau codi arian ar bapur
Amser Ysgrifennu Gwrandewch ar syniadau pawb wrth iddyn nhw rannu â'r dosbarth. Pa rai ydych chi'n eu hoffi? Nawr ysgrifennwch neu dynnu llun rhai o'r syniadau gorau.

16 Fy hoff syniad codi arian ar gyfer ein dosbarth
Argraffwch y dudalen hon a'i defnyddio fel taflen waith i'r disgyblion ei llenwi

17 Dathliad y Pencampwyr Da iawn chi am heddiw...
Cofiwch does dim rhaid gwneud rhywbeth mawr i wneud gwahaniaeth bob tro, weithiau mae ychydig o help yn gwneud byd o wahaniaeth. Pan fyddwn ni'n codi arian ar gyfer BBC Plant mewn Angen - gallai hyd yn oed y rhodd lleiaf wneud gwahaniaeth mawr i blentyn fel chi. Beth am drafod eich syniadau â disgyblion o ddosbarthiadau eraill amser chwarae neu amser cinio?! Felly, byddwch yn bencampwyr a chodi arian, er mwyn i ni gael rhywbeth i'w ddathlu adeg… Dathliad y Pencampwyr

18 Yn y wers hon, ydych chi wedi...
Dysgu am ddelio â data gyda phictogramau a graffiau bar? Meddwl sut gallwn ni godi arian i BBC Plant mewn Angen? Y tro nesaf, byddwch chi'n penderfynu ar y syniad codi arian gorau ar gyfer eich dosbarth i godi arian ar gyfer BBC Plant mewn Angen

19 Gweithgaredd ychwanegol
The following large scale activity can be used as an exciting extension task.

20 Allwch chi greu Pictogram Pudsey Pwerus?
Pictogram Enfawr Ar fuarth yr ysgol neu yn neuadd yr ysgol gweithiwch gyda'ch gilydd i greu pictogram Pudsey enfawr. Gofynnwch i'r plant feddwl am syniadau ar gyfer y pictogram mawr. Gofynnwch pa ddata maen nhw am iddo ei ddangos? Mae'r sleid ganlynol yn cynnwys delwedd o Pudsey gallwch chi ei chopïo a'i thorri allan i'w defnyddio yn eich pictogram. Gair i gall: Tynnwch luniau o'r Pictogram gorffenedig a'i roi i'ch prif Bencampwyr i'w dangos yn Nathliad y Pencampwyr.

21


Download ppt "MATHEMATEG – Cyfnod Sylfaen Gwers 1"

Similar presentations


Ads by Google