Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Cymraeg - CA2, Gwers 1 BBC Plant mewn Angen 2015

Similar presentations


Presentation on theme: "Cymraeg - CA2, Gwers 1 BBC Plant mewn Angen 2015"— Presentation transcript:

1 Cymraeg - CA2, Gwers 1 BBC Plant mewn Angen 2015
Dilëwch cyn defnyddio yn y wers: Ar gael i argraffu o'r ddogfen hon: Taflen i ddisgyblion (sleid 19)

2 Yn y gweithgaredd hwn, byddwch chi'n...
Dysgu sut mae defnyddio rolau gwahanol mewn gweithgaredd grŵp Edrych ar rym sengl elusen Ysgrifennu eich geiriau eich hun ar gyfer cân/rap dosbarth

3 Rydyn ni am ddysgu sut mae gweithio'n fwy effeithlon mewn grŵp, drwy ddefnyddio tair rôl bwysig mewn grŵp. Hwylusydd y Grŵp Adroddwr y Grŵp Cofnodwr y Grŵp Eich gwaith chi ydy arwain y drafodaeth. Dim chi sy'n rheoli pethau, ond byddwch chi'n penderfynu tro pwy ydy hi i siarad. Rhaid i chi wneud yn siŵr bod pawb yn cael eu cyfle i rannu eu syniadau. Byddwch chi'n gyfrifol am rannu syniadau'r grŵp â gweddill y dosbarth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw i'r pwynt a'ch bod ond yn cynnwys y wybodaeth bwysig. Chi sy'n gyfrifol am ysgrifennu'r prif bwyntiau sy'n cael eu trafod yn eich grŵp. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodyn o'r pethau pwysig mae eich grŵp yn eu dweud. Dewiswch Hwylusydd, Adroddwr a Chofnodwr ar gyfer y Grŵp.

4 Beth ydy sengl elusen? Tasg 1 y Grŵp
Rydych chi'n mynd i ysgrifennu beth, yn ôl eich dealltwriaeth chi, mae'r geiriau ‘sengl elusen’ yn eu golygu.

5 Dewiswch Hwylusydd, Adroddwr a Chofnodwr ar gyfer y grŵp.
Tasg 1 y Grŵp Mae gennych chi munud i feddwl am ateb sy'n cael ei rannu gan y grŵp. Byddwch yn barod i adrodd yn ôl.

6 Sengl elusen BBC Plant mewn Angen
Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o Noson apêl BBC Plant mewn Angen Mae pobl enwog yn recordio cân i godi arian ar gyfer BBC Plant mewn Angen cariad Mae cerddoriaeth yn cael effaith rymus ar bobl atgofion negeseuon hapusrwydd

7 Mae cerddoriaeth yn cael effaith arnon ni'n emosiynol - mae'n newid sut rydyn ni'n teimlo.
Mae sengl elusen yn ffordd o godi arian ac ymwybyddiaeth; er mwyn cefnogi'r rheini sydd mewn angen. Tasg 2 y Grŵp Ydych chi'n gwybod am unrhyw senglau elusen? Lluniwch restr o enwau'r caneuon neu enwau'r bobl a oedd yn eu canu. .

8 Dewiswch Hwylusydd, Adroddwr a Chofnodwr NEWYDD ar gyfer y grŵp...
Tasg 2 y Grŵp Mae gennych chi munud i feddwl am ateb sy'n cael ei rannu gan y grŵp.

9 Mae BBC Plant mewn Angen yn elusen sy'n gweithio yn y DU
Mae BBC Plant mewn Angen yn elusen sy'n gweithio yn y DU. Mae'n rhoi arian i brosiectau i helpu plant yn y DU. Y llynedd, cyrhaeddodd sengl swyddogol BBC Plant mewn Angen rif 1 ar frig y siartiau!

10 Pam ydych chi'n meddwl bod Gareth Malone yn dymuno cael côr o bobl enwog A phlant o brosiectau ar hyd a lled y DU? Cân elusen 2014: Wake Me Up Cafod y gân ei ffrydio a'i llwytho i lawr 120,000 o weithiau i sicrhau ei bod yn cyrraedd y brig.

11 Ysgrifennwch unrhyw eiriau pwysig rydych chi'n eu clywed wrth wylio'r fideo cerddoriaeth
Tasg 3 y Grŵp Gall pawb fod yn Gofnodwr y tro hwn. Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando drwy'r amser. Byddwch yn barod i adrodd yn ôl ar ôl y gân.

12 Plant yn gwrando ar gasgliad o senglau BBC Plant mewn Angen dros y pum mlynedd diwethaf
Blwyddyn Cantorion Teitl y gân Safle ar y siart 2010 JLS "Love You More" 1 2011 The Collective "Teardrop" 24 2012 Girls Aloud “Something New" 2 2013 Ellie Goulding "How Long Will I Love You" 3 2014 Gareth Malone's All Star Choir "Wake Me Up"

13 Cân heb gerddoriaeth ydy rap
Yn eich grwpiau, rydych chi'n mynd i ysgrifennu cân/rap ar gyfer Dathliad y Pencampwyr Cân heb gerddoriaeth ydy rap Mae rap yn cael ei lefaru ond mae cân yn cael ei chanu Mae'n bosib i fwy nag un berfformio'r gân/rap gyda'i gilydd Gall eich cân/rap gynnwys neges Gall eich cân/rap ddweud stori Rhieni wedi colli eu swyddi a ddim yn gallu talu am ddigon o fwyd Gall rhai llinellau fod yn fyr a gall rhai fod yn hir Dwy linell ar y tro ydy 'cwpledi', e.e. Mi welais Jac y Do - yn eistedd ar ben to Mae'r rhan fwyaf o rapiau'n odli mewn 'cwpledi'

14 Gwyliwch y fideo hwn i weld enghraifft o rap
Clip fideo Gwyliwch y rapiau yn: The Collective - Teardrop (Sengl BBC Plant mewn Angen 2011)

15 Gall eich cân/rap sôn am unrhyw rai o'r themâu codi arian, am fod yn Bencampwyr neu am godi arian ar gyfer BBC Plant mewn Angen Pobi Her Adloniant Gwisgo i fyny Cacen/Angen Danteithion/ Anrhegion Stondin/ Anghyffredin Melys/Blys Hwyl/Egwyl Gemau/ Nwyddau Ras/Glas Chwim/Dim Dawns/Siawns Hopian/ Hercian Cân/Arian Alaw/ Di-ben-draw Arwr/Cefnogwr Doniol/ Diddorol Ffansi/Bri Lliwgar/ Meistrolgar Meddyliwch am eiriau sy'n odli ar gyfer diwedd eich llinellau Cofiwch am iaith emosiynol hefyd Help - Gofal - Cariad - Ymddiriedolaeth - Gofalu Hapus - Anhapus - Trist - Ypset - Unig Gwên glên

16 Ysgrifennu rap byr ar gyfer Dathliad y Pencampwyr
Tasg 4 y Grŵp Mae gennych chi 20 munud i feddwl am ychydig linellau ar gyfer rap/cân gyda'ch grŵp, gan ddefnyddio un o themâu BBC Plant mewn Angen. Byddwch yn barod i gyflwyno hyn i'r dosbarth.

17 Mae nifer o rapwyr yn defnyddio'r rhythm poblogaidd hwn ar gyfer eu geiriau
Dylai geiriau olaf eich dwy linell gyntaf odli da DYM da da DYM da da DYM da DYM Gadewch y sleid hon ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol i gefnogi'r plant wrth iddyn nhw gynllunio eu rap. Yna dylai geiriau olaf eich dwy linell nesaf odli

18 Dyma enghraifft. Rhowch gynnig ar ei llafarganu i'r rhythm
Dyma enghraifft. Rhowch gynnig ar ei llafarganu i'r rhythm. Fedrwch chi weld y parau sy'n odli? Ry'n ni am godi arian gyda Pydsi'r Arth glên I ddangos ein gofal, awn ati â gwên Gan werthu cacennau a raffl i chi, Pob hwyl ar y gwario yw'n dymuniad mawr ni! Llafarganwch yr enghraifft hon o rap gyda'ch gilydd fel dosbarth i wneud yn siŵr eu bod yn cael y rhythm.

19 Fframiau ysgrifennu rap
Enwau ___________________________________________________ __________________________________________________ _________________________________________________ Ffrâm ysgrifennu ar gyfer rap (gall yr athro ddiwygio'r ffrâm yn ôl yr angen, er mwyn gwahaniaethu ar gyfer y plant)

20 Gadewch i ni fod yn greadigol
Gadewch i ni ddod ag ymdrechion pob grŵp at ei gilydd er mwyn cael RAP/CÂN DOSBARTH ar gyfer BBC Plant mewn Angen

21 Yn y wers hon, ydych chi... Wedi dysgu sut mae defnyddio rolau gwahanol mewn gweithgaredd grŵp? Wedi edrych ar rym sengl elusen? Wedi ysgrifennu eich geiriau eich hun ar gyfer rap dosbarth? Y tro nesaf, byddwch chi'n penderfynu ar ddigwyddiad codi arian ac yn ceisio perswadio pobl o'r gymuned i gyfrannu!

22 Datblygu eich rap/cân ymhellach
Yn ogystal â pherfformio eich rap/cân yn Nathliad y Pencampwyr: Ydych chi am ei recordio? Ydych chi am ei lwytho i fyny ar wefan yr ysgol? Ydych chi am gael cerddoriaeth gefndir? Ydych chi'n mynd i gael dawns arbennig? Allech chi ei roi ar DVD a'i werthu i rieni er mwyn codi mwy o arian?


Download ppt "Cymraeg - CA2, Gwers 1 BBC Plant mewn Angen 2015"

Similar presentations


Ads by Google