Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

ABCh – Cyfnod Sylfaen Gwers 1

Similar presentations


Presentation on theme: "ABCh – Cyfnod Sylfaen Gwers 1"— Presentation transcript:

1 ABCh – Cyfnod Sylfaen Gwers 1
BBC Plant mewn Angen 2015 Dilëwch cyn defnyddio yn y wers: Ar gael i argraffu o'r ddogfen hon: Taflen i ddisgyblion (sleid 14)

2 Yn y wers hon, byddwn ni... Yn dysgu am yr elusen BBC Plant mewn Angen Yn meddwl sut gallwn ni fod yn Bencampwyr a helpu i wella bywydau plant eraill yn y DU

3 Amser Cylch Rheolau Amser Cylch: Dim ond os ydych chi'n dal Pudsey rydych chi'n cael siarad Rydych chi'n cael 'pasio' os dydych chi ddim eisiau siarad Bydd pawb yn dangos sgiliau gwrando da Cynhesu: 'Pasio'r Wên' o amgylch y cylch Gweithgaredd Amser Cylch: Rhannwch eich syniadau o amgylch y cylch - 'Mae plant angen .....' Ee 'Mae plant angen gwely cynnes'. 'Mae plant angen hwyl'.

4 Mae BBC Plant mewn Angen yn elusen sy'n gweithio yn y DU
Mae BBC Plant mewn Angen yn elusen sy'n gweithio yn y DU. Mae'n rhoi arian i brosiectau i helpu plant yn y DU. Sut gallwn ni fod yn bencampwyr a chodi cymaint o arian â phosibl er mwyn helpu?

5 Pwy ydy'r plant yma mewn angen?

6 Pwy ydy'r Plant mewn Angen?
Tasg Partner Un Trafodwch â'ch partner dysgu pwy ydych chi'n meddwl ydy'r plant 'mewn angen'

7 Beth am i ni feddwl am y math o blant mae BBC Plant mewn Angen yn eu helpu...
Codwch ar eich traed a gwrando ar y cyfarwyddiadau...

8 Mae BBC Plant mewn Angen yn helpu plant fel chi, sy'n wynebu sefyllfa anodd. (Cliciwch llun isod)
Fideo 3: Ble fydd eich arian yn mynd?

9 Beth ydy elusen? Tasg Partner Dau Siaradwch â'ch partner dysgu gan ddisgrifio beth rydych chi'n ei feddwl mae 'elusen' yn ei olygu

10 Mae BBC Plant mewn Angen yn elusen
Mae bod yn elusennol Yn golygu dangod caredigrwydd neu Haeliono at bobl eraill pan fydd angen hynny arnyn nhw Mae elusen yn golygu Sefydliad sy’n defnyddio’r arian sy’n cael ei roi iddo neu y mae wedi’I godi I helpu eraill ELUSEN Gallwch fod yn elusennol drwy roi… Amser Arian Eitemau Gwasanaethau

11 Mae elusen yn sefydliad sy'n codi arian i wneud pethau da neu i gefnogi'r rheini sydd mewn angen
Tasg Partner Tri Sut gallwn ni helpu? Sut gallwn ni fod yn Bencampwyr a chodi arian i helpu'r rheini mewn angen? Siaradwch â’ch partner dysgu Meddyliwch am y themâu codi arian: POBI – HER - ADLONIANT – GWISGO FYNY

12 Fideo 4: Syniadau codi arian gan ein ffrindiau (Cliciwch llun isod)
Video clip 4 Fundraising ideas from our friends [ VIDEO clip address]

13 Mae'n amser rhoi eich syniadau codi arian ar bapur
Amser Ysgrifennu Gwrandewch ar syniadau pawb wrth iddyn nhw rannu â'r dosbarth. Pa rai ydych chi'n eu hoffi? Nawr ysgrifennwch neu dynnu llun rhai o'r syniadau gorau. Argraffwch y dudalen hon i'r disgyblion ei llenwi

14 Fy hoff syniad codi arian ar gyfer ein dosbarth
Argraffwch y dudalen hon i'r disgyblion ei llenwi

15 Dathliad y Pencampwyr Da iawn chi am heddiw...
Cofiwch does dim rhaid gwneud rhywbeth mawr i wneud gwahaniaeth bob tro, weithiau mae ychydig o help yn gwneud byd o wahaniaeth. Pan fyddwn ni'n codi arian ar gyfer BBC Plant mewn Angen - gallai hyd yn oed y rhodd lleiaf wneud gwahaniaeth mawr i blentyn fel chi. Beth am drafod eich syniadau â disgyblion o ddosbarthiadau eraill amser chwarae neu amser cinio? Felly, byddwch yn Bencampwyr a chodi arian, er mwyn i ni gael rhywbeth i'w ddathlu adeg.. Dathliad y Pencampwyr

16 Yn y wers hon, ydych chi wedi...
Dysgu am yr elusen BBC Plant mewn Angen? Ystyried sut gallwn ni helpu? Y tro nesaf, byddwch chi'n penderfynu ar y syniad codi arian gorau ar gyfer eich dosbarth i godi arian ar gyfer BBC Plant mewn Angen


Download ppt "ABCh – Cyfnod Sylfaen Gwers 1"

Similar presentations


Ads by Google