Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

arweinyddiaeth mewn ysgolion.

Similar presentations


Presentation on theme: "arweinyddiaeth mewn ysgolion."— Presentation transcript:

1 arweinyddiaeth mewn ysgolion.
Gorffennaf 2017

2 Mae ‘Symud Cymru Ymlaen ’ yn cyflwyno rhaglen y Llywodraeth i wella economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan arwain at wlad sy’n ffyniannus ac yn ddiogel, yn iach ac yn egnïol, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig ac yn gysylltiedig. Blaenoriaeth allweddol ar gyfer addysg yw cymell, cydnabod a hyrwyddo rhagoriaeth o ran addysgu ac arweinyddiaeth, fel ein bod yn codi safonau ac yn datblygu hyfforddiant a chyfleoedd ar gyfer athrawon, arweinwyr a'r gweithlu addysg ehangach. Canolbwyntio ar yr ysgrifen bold.

3 Safonau Proffesiynol Mae'r safonau'n disgrifio'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiad sy'n nodweddu arfer rhagorol ac sy'n cefnogi twf proffesiynol. Fel rhan o’r llun mawr wrth gofio yr holl newidiaidau eraill.

4 Ble yr ydym ni 'nawr? Y safonau proffesiynol cyfredol ar gyfer athrawon ac arweinwyr ysgol yw: Safonau Statws Athro Cymwysedig 2009 Safonau Athrawon wrth eu Gwaith 2011 Safonau Arweinyddiaeth 2001 Ar bob adeg arall yn ystod gyrfa athro neu arweinydd ysgol, ar hyn o bryd mae'r safonau'n darparu cefnlen i reoli perfformiad a datblygiad proffesiynol, er mwyn cefnogi datblygiad proffesiynol. Bydd y safonau newydd yn dilyn athro trwy ei yrfa – mynd o 3 i 1.

5 Egwyddorion a Dibenion
Mae'r safonau newydd wedi'u llywio gan egwyddorion a dibenion sy'n cynnwys: Ysbrydoli, cyfeirio a chynnig gweledigaeth o arfer effeithiol iawn sy'n cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr. Cyflawni rôl warcheidiol er mwyn sicrhau bod pob newydd-ddyfodiad o safon uchel. Taro tant gyda phob athro a chyfrannu at godi statws y proffesiwn.

6 Cefnogi datblygiad proffesiynol gydol gyrfa.
Meithrin y gallu i arwain. Bod yn rhan o'r rhaglen newid er mwyn cynorthwyo athrawon i baratoi ar gyfer eu rôl yn y cwricwlwm newydd a chefnogi nodweddion allweddol diwygio Addysg Gychwynnol Athrawon. Hwyluso datblygiad.

7 Bod yn gludadwy o fewn holl ysgolion Cymru a rhyngddynt, yn ogystal â'r tu hwnt i Gymru.
Cysylltu'n effeithiol â meysydd datblygiadol allweddol eraill, er enghraifft rheoli perfformiad a chynllunio datblygiad ysgolion. Bod ar gael trwy'r Pasbort Dysgu Proffesiynol.

8 Dechrau gyrfa Er mwyn cael eu derbyn i'r proffesiwn, mae'r safon yn disgrifio'r disgwyliad y mae'n rhaid i athrawon ei fodloni erbyn diwedd eu cyfnod ymsefydlu statudol. Mae'r safon mynediad hefyd yn disgrifio'r cynnydd disgwyliedig a'r dystiolaeth sy'n ofynnol er mwyn dyfarnu SAC ar ddiwedd Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae Addysg Gychwynnol Athrawon a'r cyfnod ymsefydlu yn dod yn broses, yn hytrach na dau gyfnod gwahanol ac ar wahân. Ar gyfer y rheiny sy'n cwblhau'r cyfnod ymsefydlu, mae'r safonau hefyd yn gosod esiampl o ran arfer effeithiol iawn a pharhaus.

9 Trafodwch Mewn grwpiau, rhannwch yr hyn a wyddoch eisoes am:
1. Y pum dimensiwn 2. Yr elfennau 3. Y llinynnau 4. Y disgrifyddion 5. Gwerthoedd ac ymagweddau

10 Deall y derminoleg o ran y safonau.
Dimensiynau: Mae yna bump o'r rhain: Addysgeg Cydweithredu Arloesedd Dysgu Proffesiynol Arweinyddiaeth

11 Pum dimensiwn y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth
Addysgeg …. o'r pwys mwyaf Cydweithredu Arweinyddiaeth …. yn ei galluogi i ymledu …. yn ei helpu i dyfu Dysgu proffesiynol Arloesi …. yn ei symud ymlaen …. yn mynd â hi'n ddyfnach

12 gyda gwerthoedd ac ymagweddau trosfwaol
Addysgeg Cydweithredu Arweinyddiaeth Dysgu proffesiynol Arloesi Gweithio fel un ... i sicrhau addysgeg effeithiol gyda gwerthoedd ac ymagweddau trosfwaol

13 Elfennau Rhennir y pum dimensiwn yn elfennau sy'n eu dadbacio.
Er enghraifft, mae addysgeg (y dimensiwn) wedi'i rhannu'n dair elfen: mireinio'r addysgu hybu'r dysgu dylanwadu ar y dysgwyr. Rhannu allan taflenni esboniadwy (teaching standards made simple)

14 Addysgu Dadbacio addysgeg ... yn unol â 'Dyfodol Llwyddiannus’
O fewn pob elfen mae yna nifer o linynnau, a bydd gan bob llinyn ddau ddisgrifydd Hybu Dylanwadu ar y dysgwyr Mireinio'r addysgu Addysgu

15 arweinyddiaeth ffurfiol
Llinynnau. Mireinio'r addysgu ... tuag at arfer effeithiol iawn a pharhaus SAC/Cyfnod ymsefydlu Arfer effeithiol iawn a pharhaus Rheoli'r amgylchedd dysgu Asesu Gwahaniaethu Cofnodi Cynnwys partneriaid yn y dysgu arweinyddiaeth ffurfiol arweinyddiaeth Addysgu

16 Rheoli'r amgylchedd dysgu
Disgrifyddion: Addysgeg: Mireinio'r addysgu ... tuag at arfer effeithiol iawn a pharhaus Rheoli'r amgylchedd dysgu Mae dysgwyr yn mynegi sut y mae eu sgiliau trefnu eu hunain yn datblygu, er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain. Mae'r gwaith o drefnu'r dysgwyr a chydweithwyr, arferion ac adnoddau yn canolbwyntio ar arferion ac ymddygiadau dysgu sy'n bodloni'r pedwar diben, ac a ddeallir gan y dysgwyr yn y cyd-destun hwnnw. Addysgu

17 Rheoli'r amgylchedd dysgu
Disgrifydd i'w fodloni erbyn diwedd y cyfnod ymsefydlu: Mae'r gwaith o drefnu'r dysgwyr a chydweithwyr, arferion ac adnoddau yn canolbwyntio ar arferion ac ymddygiadau dysgu sy'n bodloni'r pedwar diben, ac a ddeallir gan y dysgwyr yn y cyd-destun hwnnw. Tystiolaeth ar gyfer dyfarnu SAC: Mae'r athro'n mynd ati'n effeithiol i sefydlu'r amgylchedd dysgu ac i'w reoli'n barhaus, ac mae'n deall pwysigrwydd hyn o ran hyrwyddo arferion ac ymddygiadau dysgu cadarnhaol, sy'n bodloni'r pedwar diben ac a ddeallir gan y dysgwyr yn y cyd-destun hwnnw. Addysgeg: Mireinio'r addysgu

18 Addysgu Disgwyliadau o ran addysgu proffesiynol
Addysgeg Cydweithredu Arweinyddiaeth Dysgu proffesiynol Dechrau yn y proffesiwn – SAC a chyfnod ymsefydlu Arloesi Arfer effeithiol iawn a pharhaus Addysgu

19 Disgwyliadau o ran arferion arweinyddiaeth ffurfiol
Rôl arwain ffurfiol newydd Addysgeg Cydweithredu Arweinyddiaeth Dysgu proffesiynol Arloesi Arweinyddiaeth ffurfiol effeithiol iawn a pharhaus Rolau arwain ffurfiol

20 Tasg Gan ddefnyddio'r wybodaeth ganlynol, pa gamau y byddech yn disgwyl i ANG eu cymryd, a sut y byddech chi fel mentor ysgol yn ei gefnogi yn hyn o beth. Dimensiwn = addysgeg Elfen = mireinio addysgu Llinyn = rheoli’r amgylchedd dysgu Disgrifydd =Mae'r gwaith o drefnu'r dysgwyr a chydweithwyr, arferion ac adnoddau yn canolbwyntio ar arferion ac ymddygiadau dysgu sy'n bodloni'r pedwar diben, ac a ddeallir gan y dysgwyr yn y cyd-destun hwnnw. Engreifftiau o dystiolaeth i gwrdd a’r disgrifydd Cynllun gwers gyda grwpiau, chynlluniau eistedd Lincs i ddata disgyblion Rheolau dosbarth, cyfrifoldebau Rheolaeth o’r adnoddau o fewn y dosbarth/defnydd o staff ategol Asesu ar gyfer dysgu/tystiolaeth o rhannu arferion gyda chydweithwyr

21 Tasg 2 Yn eich grwpiau dewisiwch i wneud yr un ymarfer gan ddewis o ddimensiwn arall

22 Gwerthoedd ac ymagweddau trosfwaol
Mae'r athrawon yn arddangos safonau proffesiynol uchel o ran gwerthoedd, ymagweddau ac arferion addysgu. Gwerthoedd ac ymagweddau Dyma beth a ddisgwylir o bob athro/athrawes ble bynnag y maent yn eu gyrfa.

23 Y Gymraeg a diwylliant Cymru
Mae pob athro yn pwysleisio'n gyson bwysigrwydd canolog hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru. Bydd y dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ym mhob maes dysgu, a manteisir ar bob cyfle i ymestyn sgiliau a chymhwysedd y dysgwyr. Y Gymraeg a diwylliant Cymru

24 Hawliau'r dysgwyr Bydd anghenion a hawliau'r dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth o ran y ffordd y mae'r athro yn ymdrin â'i swydd. Mae'r athro yn arddangos disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i gyflawniad pob dysgwr.

25 Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
Mae pob athro'n pwysleisio'n gyson bwysigrwydd canolog llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd y dysgwyr yn cael eu cefnogi i ddatblygu sgiliau ym mhob maes dysgu, a manteisir ar bob cyfle i ymestyn sgiliau a chymhwysedd y dysgwyr.

26 Dysgwr proffesiynol Mae'r athrawon yn gweld eu hunain fel dysgwyr proffesiynol ac ymrwymo i ddatblygu, cydweithredu ac arloesi trwy gydol eu gyrfa.

27 Rôl system Mae'r athro wedi ymrwymo i ddysgwyr ym mhobman, ac mae'n rhan ddylanwadol o ddiwylliant addysg cydlynol sy'n datblygu yng Nghymru.

28 Hawl broffesiynol Mae gan yr athro hawl broffesiynol i fod yn rhan o ysgol sy'n gweld ei hun fel sefydliad sy'n dysgu. Mae gan yr athro yr ymreolaeth i fod yn rhan gyfrannol o broffesiwn lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac mae ganddo'r hawl i sbarduno a chefnogi gwelliannau i'r ysgol er budd y dysgwyr.


Download ppt "arweinyddiaeth mewn ysgolion."

Similar presentations


Ads by Google