Presentation is loading. Please wait.

Presentation is loading. Please wait.

Gwers 1.

Similar presentations


Presentation on theme: "Gwers 1."— Presentation transcript:

1 Gwers 1

2 Ydych chi yn bwriadu priodi?
Pryd? Pa oedran fyddai’n addas? Ydych chi’n bwriadu cael plant? A fyddech chi eisiau bod yn briod i fagu teulu/ cyn cael plant?

3 Ffeithiau Diddorol am Briodas
Mae 82% o bobl ifanc yn dweud eu bod am briodi yn y dyfodol Oedran priodi ar gyfartaledd yw 26 oed i fechgyn 24 oed i ferched Mae 85% o bobl yn priodi rhywbryd yn eu bywyd ym Mhrydain

4 Pa fath o berson fyddech chi am briodi?

5 Beth fyddai’r peth mwyaf pwysig i chi?
Sut mae’r person yn edrych? Personoliaeth y person? Deallusrwydd y person? Cryfder corfforol y person? Iechyd y person? Cryfder emosiynol y person? Sensitifrwydd y person? Ymddygiad y person tuag atoch? Cyfoeth y person neu potensial y person i wneud arian?

6 Dewisiadau eraill yn lle priodi
Ymgadw’n ddi-briod- aros yn ddiwair- fel arfer yn gysylltiedig ag ymrwymiad crefyddol e.e. offeiriad Pabyddol/ mynachod/ lleianod- yn rhydd i gysegru eu bywyd i Dduw Byw gyda phartner/Cohabitation-Cyd-fyw- tua 60% o barau’n cyd-fyw rhyw bryd- tua 50% o’r rhain yn priodi’n ddiweddarach

7 Partneriaeth Sifil Tua 10% o’r boblogaeth yn gyfunrywiol
Erbyn hyn pobl hoyw yn medru gwneud Partneriaeth Sifil sydd yn rhoi hawliau cyfreithiol i bob partner

8 Safbwynt y crefyddau am gyd-fyw
Yn erbyn mewn egwyddor gan ei fod yn golygu perthynas rywiol cyn priodi Ond nifer o bobl grefyddol yn cyd-fyw yn gyntaf cyn priodi am wahanol resymau Yn erbyn mewn egwyddor priodas parau hoyw mewn eglwys gan eu bod yn credu mai priodas rhwng dyn a menyw yw dymuniad Duw

9 A ddylai’r safbwynt crefyddol newid ?
Mae modd cael Partneriaeth Sifil i bobl hoyw felly mae’r llywodraeth yn cydnabod hawliau parau hoyw Pwysau ar yr eglwys Gristnogol a chrefyddau eraill i newid eu hagwedd 2 agwedd mewn Cristnogaeth yn datblygu sef safbwynt TRADDODIADOL a safbwynt RHYDDFRYDOL (liberal)

10 Safbwynt Traddodiadol
Priodas yn digwydd rhwng dyn a menyw Rhodd gan Dduw Rhyw o fewn priodas Priodas yw’r sefyllfa delfrydol i gael plant Yn y seremoni priodas gwneir addewidion pwysig am sut ddylai’r briodas weithio e.e. ffyddlondeb Mae Duw yn bendithio’r briodas- sanctaidd

11 Safbwynt Rhyddfrydol Rhai Cristnogion yn credu y dylai dysgeidiaeth Gristnogol addasu ac os oes angen , newid i ymateb i anghenion cymdeithas gyfoes Credant fod Cristnogaeth yn seileidig ar drugaredd a chariad (agape) tuag at eraill ac felly dylai pawb sydd am briodi mewn eglwys gael eu derbyn Dylid caniatau i bobl hoyw dderbyn bendith ar eu partneriaeth sifil os ydynt yn dymuno- fel parau sydd wedi cael ysgariad

12 Priodi ble? A yw’n angenrheidiol priodi mewn lle addoli?
A ddylai pobl sydd ddim yn gredinwyr priodi mewn lle addoli fel eglwys?

13 Priodas un rhyw? Perthynas rhwng dau berson o’r un rhyw/Same sex relationships A ddylai parau o’r un rhyw gael priodi mewn man addoli?

14 Pwrpas Priodas Gristnogol
Patrwm ar gyfer cymdeithas Wrth garu ei gilydd mewn perthynas gariadus yn gwneud ei gilydd yn hapus. Rhyw- cyfathrach rywiol yn uno dau yn un cnawd ac yn fynegiant o’u cariad Plant- eu cenhedlu a’u magu yn yr uned deuluol Am oes- perthynas yw i barhau am oes Sanctaidd- perthynas wedi ei bendithio gan Dduw

15 Y Seremoni PRIODAS Gristnogol

16 Ble? Eglwys/ Capel Oherwydd SACRAMENT yw priodas- rhywbeth sanctaidd ac arbennig iawn

17 Ble? Mae Cristnogion am briodi gerbron Duw- perthynas y pâr wedi ei bendithio gan Dduw Capel/ Eglwys yw tŷ Duw i Gristnogion

18 Pryd? Unrhyw ddydd –yn aml ar ddydd Sadwrn gan fod pawb yn gallu dod i’r briodas Dim dydd Sul fel arfer- diwrnod mae Cristnogion yn addoli ac yn mynd i’r Eglwys/Capel

19 Pwy sy’n arwain y gwasanaeth?
Gweinidog mewn Capel Ficer /offeiriad mewn Eglwys

20 Paratoadau Cael sgwrs gyda’r gweinidog/ficer fel pâr i drafod y briodas Trefnu’r gwasanaeth Gwahoddiadau Dillad Blodau Y wledd Mis Mêl Diwrnod o lawenydd a dathlu fel teulu ond hefyd diwrnod difrifol o bwyso a mesur cyn dechrau pennod newydd yn eu bywyd.

21 Trefn y gwasanaeth- Cam 1
Emyn a’r ficer yn egluro PWRPAS PRIODAS GOFYN AM RWYSTRAU- Holi a oes unrhyw un yn gwybod am unrhyw reswm pam na ddylai’r pâr briodi-h.y. mae’r person wedi priodi yn barod

22 CAM 2 Addunedau/ Addewidion (Vows) y gŵr a’r wraig gyda thystion
‘Yr wyf i…yn dy gymryd di… i fod yn ŵr/wraig i mi, i’th gadw a’th gynnal, o’r dydd hwn ymlaen: er gwell er gwaeth, er cyfoethocach, er tlotach, yn glaf ac yn iach, i’th garu a’th ymgeleddu tra byddwn ni’n dau byw…’

23 Addunedau Priodas yn Saesneg
I, ________, take thee ______, to be my wedded wife/husband, to have an to hold from this day forward, for better for worse, for richer or for poorer, in sickness and in health, to love and to cherish, 'til death do us part, according to God’s ordinance; and thereto I pledge thee my troth (fidelity).

24

25 Cam 3 Y Fodrwy Rhoi MODRWY i’w gilydd- CYLCH DIDDIWEDD- symbol o’u CARIAD DIDDIWEDD

26 Cam 4 Cyhoeddi’r undeb Y ficer yn cyhoeddi eu bod yn ŵr a gwraig
ac yn dweud : ‘Y rhai a gysylltodd Duw , na wahaned dyn’

27 Cam 5 Darllen o’r Beibl Sgwrs/pregeth am bwysigrwydd yr addunedau a sancteiddrwydd eu bywyd newydd gyda’i gilydd a gyda Duw Gweddi

28 CAM 6 Arwyddo’r gofrestr
Y priodfab, y briodferch, rhieni a dau dyst yn arwyddo’r gofrestr i ddangos bod popeth wedi ei wneud yn gyfreithiol ac o’u gwirfodd

29 AR OL Y SEREMONI Lluniau Gwledd a dathlu- torri’r gacen briodas
Cyfle i’r teuluoedd a ffrindiau i nodi’r digwyddiad pwysig hwn

30 Byw bywyd fel pâr priod Wedi addo bod yn ‘un cnawd’ a rhannu popeth- pethau materol fel arian ac eiddo, pethau emosiynol-eu cariad, diddordebau a magu plant gan rannu’r gwaith cyfrifol o fod yn rhieni Wedi addo bod yn ffyddlon i’w gilydd ‘tra byddwn ni’n dau byw…’ AM OES

31 Gwers 2

32 Seremoni Priodas Iddewig

33 Ble? Synagog neu yn yr awyr agored.
O dan CHUPPAH (gorchudd-4 polyn)- symbol o harmoni /cytgord ac o gartref clud y ddau gyda’i gilydd

34 Y Chuppah Mae’r Chuppah yn symbol o’r cartref y bydd y par yn creu i’w hunain Mae ochrau’r Chuppah yn agored ac yn symbol o’r ffaith y bydd eu cartref yn groesawgar ac yn agored.

35 Pryd? Unrhyw ddydd ond y SHABBAT –Dydd Sadwrn- diwrnod o orffwys, a gwyliau i’r Iddewon Mae’r Shabbat yn ddiwrnod sanctaidd sydd yn dechrau ar fachlud yr haul ar nos Wener i fachlud yr haul ar nos Sadwrn.

36 Pwy sy’n arwain y gwasanaeth?
RABBI- Offeiriad Iddewig- yn gwisgo ‘kippah’ a ‘tallith’

37 Y ‘kippah’ Y ‘Kippah’ yw’r penwisg (skullcap) a wisgir gan ddynion Iddewig Mae’r ‘kippah’ yn cael ei wisgo er mwyn atgoffa’r Iddewon bod ‘Duw uwchben’ Mae Iddewon caeth yn gwisgo’r ‘kippah’ trwy’r amser ond mae’r rhan fwyaf o Iddewon ond yn gwisgo’r ‘kippah’ yn y synagog ac ar wyliau arbennig.

38 Y ‘Talith’ Siôl gweddio yw ‘tallith’
Mae’n cael ei wisgo gan ddynion a bechgyn Iddewig. Gwisgir y ‘talith’ dros y pen a’r ysgwyddau adeg gweddiau boreol. Mae’n wyn gyda streipiau glas neu ddu ac mae 4 cwlwm ar bob cornel sydd yn atgoffa’r person sy’n ei wisgo am reolau’r Torah- llyfrau rheolau byw yr Iddewon

39 Y KIDDUSHIN Gair Iddewig am briodas yw KIDDUSHIN
Ystyr KIDDUSHIN yw SANCTEIDDIO- rhywbeth arbennig iawn. Diwrnod o lawenydd ond hefyd diwrnod difrifol o bwyso a mesur a gofyn am faddeuant cyn dechrau pennod newydd yn eu bywyd.

40 Trefn y gwasanaeth Cam 1 Y Bendithion Dechreuol
Cwpan o win- symbol o lawenydd Y pâr yn yfed y gwin o’r un cwpan- symbol o rannu eu llawenydd

41 CAM 2 Darllen ac arwyddo’r KETUBAH= CYTUNDEB PRIODASOL

42 Ketubah- Cytundeb priodasol yn Hebraeg
Mae geiriau’r ‘ketubah’ yn cael eu darllen allan yn y seremoni priodas ac yna’n cael ei ddangos I bobl yn y wledd Bydd y ‘ketubah’ wedyn yn cael ei hongian ar wal mewn lle amlwg yng nghartref y par priod fel ffordd i gofio eu haddewidion i’w gilydd pob dydd.

43 Addunedau/ Addewidion (vows) y gŵr a’r wraig
‘Byddaf yn gofalu yn dyner amdanat, yn dy anrhydeddu a’th gynnal yn ddiffuant, a ffyddlon fel y gwedd i ŵr o Iddew.’

44 Cam 3 Y Fodrwy Priodfab yn rhoi’r fodrwy I’r briodferch gan ddweud:
‘Wele yr wyt wedi dy sancteiddio I mi a’r fodrwy hon yn ol deddf Moses ac Israel.’

45 Cam 4 Y Fendith Olaf Dros gwpanaid o win- y cwpl yn yfed o’r Cwpan Kiddush Symbol eu bod yn bwriadu rhannu popeth mewn bywyd a’i gilydd ac wedi uno fel un. Darllen 7 bendith.

46 Cam 5 TORRI GWYDRYN GWYDR Y Priodfab yn torri’r gwydr gyda’i droed
Symbol o ba mor werthfawr yw priodi – cyfnod pwysig iawn yn eich bywyd i’w drysori.

47 AR ÔL Y SEREMONI Gwledd- bwyd ‘kosher’
Wythnos o ddathlu- gwledd pob nos mewn tai gwahanol gyda’r pâr fel gwesteion arbennig

48 Bwyd ‘Kosher’ Yn ol y gyfraith Iddewig ni ellir bwyta
-pysgod a chragen -cig moch Hefyd ni chewch -cymysgu llaeth a chig yn yr un pryd o fwyd Pam? -siwr o fod am resymau iechyd yn yr hen ddyddiau- roedd pysgod â chragen a chig moch yn gallu achosi gwenwyno bwyd os nad oedd yn cael ei goginio yn gywir


Download ppt "Gwers 1."

Similar presentations


Ads by Google